RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN

PENNOD 1EI GWNEUD YN OFYNNOL I BERCHENNOG AR DIR I GYNNAL GWEITHREDIADAU

40Darpariaeth atodol ynghylch apelau

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch y weithdrefn i’w dilyn wrth benderfynu ceisiadau o dan adran 38.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth arall mewn cysylltiad â phenderfynu ceisiadau o dan adran 38.

(3)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, ymysg pethau eraill, wneud darpariaeth—

(a)

ynghylch presenoldeb a holi partïon neu dystion (gan gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi person penodedig i weinyddu llwon neu i gymryd cadarnhadau);

(b)

ynghylch dangos dogfennau ac arolygu dogfennau;

(c)

ar gyfer pwerau i fynd ar dir.

(4)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon roi disgresiwn i berson.

(5)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon greu troseddau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir gan y rheoliadau neu odanynt.