RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN

PENNOD 1EI GWNEUD YN OFYNNOL I BERCHENNOG AR DIR I GYNNAL GWEITHREDIADAU

39Penderfynu apelau

(1)Mae cais o dan adran 38 i’w benderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru (“person penodedig”).

(2)Os yw’r person penodedig wedi ei fodloni, ar gais o dan adran 38, fod y sail (neu unrhyw un neu ragor o’r seiliau) y gwneir y cais arno wedi ei phrofi neu eu profi, caiff y person penodedig amrywio neu ganslo’r hysbysiad drwy gyfarwyddyd.

(3)Pan fo person penodedig yn amrywio hysbysiad o dan is-adran (2), mae’r hysbysiad ac unrhyw gopi ohono a roddir o dan adran 37 i’w drin fel pe bai bob amser wedi cael effaith fel y’i hamrywiwyd.

(4)Pan wneir cais o dan adran 38 ac nad yw’n cael ei dynnu’n ôl, nid yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad fel y cyfnod y mae rhaid cwblhau’r gweithrediadau ynddo yn dod i ben cyn penderfynu’r cais.

(5)Pan wneir cais o dan adran 38, caiff y person penodedig estyn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad fel y cyfnod y mae rhaid cwblhau’r gweithrediadau ynddo, ni waeth pa un a yw’r sail (neu unrhyw un neu ragor o’r seiliau) y gwneir y cais arno wedi ei phrofi neu eu profi.

(6)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i berson penodedig benderfynu cais o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r personau a ganlyn am y canlyniad—

(a)yr Awdurdod, a

(b)pob person y rhoddwyd yr hysbysiad neu gopi o’r hysbysiad iddo.

(7)Pan fo person penodedig yn amrywio hysbysiad, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd roi copi o’r hysbysiad fel y’i hamrywiwyd i’r personau a grybwyllir yn is-adran (6)(a) a (b).