Rhagolygol
(1)Pan fo’r Awdurdod yn rhoi hysbysiad i berchennog ar dir o dan adran 35, rhaid iddo hefyd roi copi o’r hysbysiad i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr hysbysiad.
(2)At ddibenion yr adran hon, mae’r personau a ganlyn (yn ogystal â’r perchennog) yn bersonau a chanddynt fuddiant mewn hysbysiad—
(a)person sy’n meddiannu tir y mae’r gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i’w cynnal arno;
(b)person a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai;
(c)person—
(i)a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, heblaw fel morgeisai, ystâd neu fuddiant yn y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno, neu
(ii)y bu ganddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, heblaw fel morgeisai, ystâd neu fuddiant yn y tir hwnnw ar unrhyw adeg yn y 12 mlynedd cyn y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog;
(d)person a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, fuddiant yn (gan gynnwys hawl i gaffael) yr holl ddeunydd neu unrhyw ddeunydd sydd yn y domen nas defnyddir;
(e)person sydd, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (c), wedi defnyddio’r domen nas defnyddir i ddyddodi gwastraff o fwynglawdd neu chwarel;
(f)person y mae’r Awdurdod yn credu ei fod, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (c), wedi peri neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad drwy—
(i)cynnal gweithrediadau eraill neu gyflawni unrhyw weithgaredd arall ar unrhyw dir, neu
(ii)methu â gwneud rhywbeth y gallai’r person yn rhesymol fod wedi ei wneud ar unrhyw dir i osgoi creu neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad.
(3)Yn is-adran (2), ystyr “tomen nas defnyddir” yw’r domen nas defnyddir y rhoddir yr hysbysiad o dan adran 35 mewn cysylltiad â hi.
(4)Rhaid i’r Awdurdod roi’r copïau sy’n ofynnol gan yr adran hon o fewn 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)