RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN

PENNOD 1EI GWNEUD YN OFYNNOL I BERCHENNOG AR DIR I GYNNAL GWEITHREDIADAU

37Dyletswydd i roi copïau o hysbysiad i bartïon â buddiant

(1)

Pan fo’r Awdurdod yn rhoi hysbysiad i berchennog ar dir o dan adran 35, rhaid iddo hefyd roi copi o’r hysbysiad i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr hysbysiad.

(2)

At ddibenion yr adran hon, mae’r personau a ganlyn (yn ogystal â’r perchennog) yn bersonau a chanddynt fuddiant mewn hysbysiad—

(a)

person sy’n meddiannu tir y mae’r gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i’w cynnal arno;

(b)

person a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai;

(c)

person—

(i)

a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, heblaw fel morgeisai, ystâd neu fuddiant yn y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno, neu

(ii)

y bu ganddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, heblaw fel morgeisai, ystâd neu fuddiant yn y tir hwnnw ar unrhyw adeg yn y 12 mlynedd cyn y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog;

(d)

person a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, fuddiant yn (gan gynnwys hawl i gaffael) yr holl ddeunydd neu unrhyw ddeunydd sydd yn y domen nas defnyddir;

(e)

person sydd, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (c), wedi defnyddio’r domen nas defnyddir i ddyddodi gwastraff o fwynglawdd neu chwarel;

(f)

person y mae’r Awdurdod yn credu ei fod, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (c), wedi peri neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad drwy—

(i)

cynnal gweithrediadau eraill neu gyflawni unrhyw weithgaredd arall ar unrhyw dir, neu

(ii)

methu â gwneud rhywbeth y gallai’r person yn rhesymol fod wedi ei wneud ar unrhyw dir i osgoi creu neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad.

(3)

Yn is-adran (2), ystyr “tomen nas defnyddir” yw’r domen nas defnyddir y rhoddir yr hysbysiad o dan adran 35 mewn cysylltiad â hi.

(4)

Rhaid i’r Awdurdod roi’r copïau sy’n ofynnol gan yr adran hon o fewn 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog.