RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN
PENNOD 1EI GWNEUD YN OFYNNOL I BERCHENNOG AR DIR I GYNNAL GWEITHREDIADAU
36Hawl y perchennog i fynd ar dir etc.
(1)
O dan yr amgylchiadau a ganlyn—
(a)
os nad yw perchennog ar dir y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35 yn meddiannu’r tir, neu unrhyw ran o’r tir, y mae rhaid cynnal y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad arno, a
(b)
os yw ystad y perchennog yn y tir yn uwch nag unrhyw ystad neu fuddiant sydd gan y meddiannydd,
mae gan y perchennog yr hawl i fynd ar y tir er mwyn cynnal y gweithrediadau ac unrhyw waith adfer canlyniadol.
(2)
Caiff perchennog sy’n arfer hawl mynediad o dan is-adran (1) fynd ag unrhyw bersonau eraill, unrhyw gyfarpar ac unrhyw ddeunydd ar y tir fel y bo’n angenrheidiol.
(3)
Caiff perchennog ar dir y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35, at ddiben cynnal gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad ar y tir, symud ymaith a gwaredu unrhyw eiddo y mae person arall yn berchen arno sydd wedi ei leoli ar y tir.
(4)
Os yw perchennog ar dir yn gwaredu eiddo o dan is-adran (3) drwy ei werthu, rhaid i berchennog y tir roi cyfrif i berchennog yr eiddo am yr enillion gwerthu.
(5)
Nid yw is-adran (4) yn atal perchennog ar dir rhag—
(a)
didynnu o’r enillion gwerthu unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol gan y perchennog wrth werthu’r eiddo;
(b)
gosod yr enillion gwerthu, neu unrhyw ran o’r enillion hynny, yn erbyn unrhyw swm y mae gan y perchennog hawlogaeth i’w adennill oddi wrth berchennog yr eiddo o dan Bennod 3.