RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR
PENNOD 6DARPARIAETH ATODOL
34Cosb am rwystro gweithgareddau monitro neu asesiadau
(1)
Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol neu’n ymyrryd yn fwriadol ag—
(a)
arolygiad neu weithgaredd monitro arall o dan Bennod 1, neu
(b)
asesiad rhagarweiniol neu asesiad llawn o dan Bennod 2,
yn cyflawni trosedd.
(2)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(3)
Nid yw torri is-adran (1) gan y Goron yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd (ond gweler adran 28(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) ynghylch atebolrwydd personau sy’n gwasanaethu’r Goron).