RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR
PENNOD 6DARPARIAETH ATODOL
31Dyletswydd i lunio a chadw cofrestr o’r holl domenni nas defnyddir
(1)
Rhaid i’r Awdurdod lunio a chadw cofrestr electronig o’r holl domenni nas defnyddir y cynhaliwyd asesiad o dan adran 13 (asesiadau rhagarweiniol o’r holl domenni nas defnyddir) mewn perthynas â hwy.
(2)
Rhaid i’r Awdurdod gynnwys tomen nas defnyddir yn y gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cwblhau’r asesiad y cyfeirir ato yn is-adran (1) mewn perthynas â’r domen.
(3)
Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer tomen nas defnyddir gynnwys—
(a)
enw neu enwau cyffredin y domen (os oes un neu rai);
(b)
lleoliad y domen;
(c)
dynodydd unigryw y mae’r Awdurdod wedi ei roi i’r domen.
(4)
Rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi’r gofrestr.