Rhagolygol
(1)Os yw’r Awdurdod yn cynnig gwneud newid hysbysadwy mewn perthynas â thomen nas defnyddir, rhaid iddo roi hysbysiad o’r cynnig (“hysbysiad o newid arfaethedig i’r gofrestr”) i—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno, a
(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai.
(2)Rhaid i hysbysiad o newid arfaethedig i’r gofrestr—
(a)nodi’r domen nas defnyddir;
(b)cynnwys copi o’r map yn y gofrestr sy’n dangos ardal y domen;
(c)esbonio’r newid y mae’r Awdurdod yn ei gynnig (y mae rhaid iddo, yn achos newid i ardal tomen sydd wedi ei dangos ar fap yn y gofrestr, gynnwys map sy’n dangos y diwygiadau arfaethedig wedi eu marcio’n glir);
(d)esbonio rhesymau’r Awdurdod dros y cynnig;
(e)pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Awdurdod mewn perthynas â’r cynnig, y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod o 30 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad;
(f)esbonio sut y caiff person gyflwyno sylwadau.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2)(e) i newid y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau, ond ni chaiff y cyfnod diwygiedig fod yn llai na 14 o ddiwrnodau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)