RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR

PENNOD 5NEWIDIADAU HYSBYSADWY I’R GOFRESTR

29Cynnig i wneud newid hysbysadwy

(1)

Os yw’r Awdurdod yn cynnig gwneud newid hysbysadwy mewn perthynas â thomen nas defnyddir, rhaid iddo roi hysbysiad o’r cynnig (“hysbysiad o newid arfaethedig i’r gofrestr”) i—

(a)

pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno, a

(b)

unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai.

(2)

Rhaid i hysbysiad o newid arfaethedig i’r gofrestr—

(a)

nodi’r domen nas defnyddir;

(b)

cynnwys copi o’r map yn y gofrestr sy’n dangos ardal y domen;

(c)

esbonio’r newid y mae’r Awdurdod yn ei gynnig (y mae rhaid iddo, yn achos newid i ardal tomen sydd wedi ei dangos ar fap yn y gofrestr, gynnwys map sy’n dangos y diwygiadau arfaethedig wedi eu marcio’n glir);

(d)

esbonio rhesymau’r Awdurdod dros y cynnig;

(e)

pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Awdurdod mewn perthynas â’r cynnig, y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod o 30 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad;

(f)

esbonio sut y caiff person gyflwyno sylwadau.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2)(e) i newid y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau, ond ni chaiff y cyfnod diwygiedig fod yn llai na 14 o ddiwrnodau.