RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR
PENNOD 4Y CATEGORÏAU O DOMENNI NAS DEFNYDDIR ETC.
27Adolygiadau o gategori
(1)
Pan fo—
(a)
yr Awdurdod yn cynnal asesiad llawn o dan adran 17 mewn perthynas â thomen nas defnyddir yn y gofrestr, a
(b)
yr adroddiad yn dod i’r casgliad bod y meini prawf ar gyfer cofrestru’r domen yn parhau i gael eu bodloni,
rhaid i’r Awdurdod adolygu categori’r domen cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(2)
Caiff yr Awdurdod adolygu categori tomen nas defnyddir ar unrhyw adeg arall.
(3)
Os yw’r Awdurdod yn ystyried, ar adolygiad, y dylid newid categori tomen, nas defnyddir, rhaid iddo gynnig categori gwahanol ar gyfer y domen cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(4)
Wrth adolygu categori tomen nas defnyddir, ac wrth gynnig categori gwahanol ar gyfer tomen nas defnyddir, rhaid i’r Awdurdod—
(a)
rhoi sylw i’r adroddiad ar yr asesiad llawn diweddaraf a gynhaliwyd mewn perthynas â’r domen, a
(b)
dilyn y polisi yn y datganiad a gyhoeddir o dan adran 25.
(5)
Wrth adolygu categori tomen nas defnyddir, neu gynnig categori gwahanol ar gyfer tomen nas defnyddir, caiff yr Awdurdod roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.
(6)
Gweler Pennod 5 ar gyfer darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan yr Awdurdod pan fydd yn cynnig newid i’r categori ar gyfer tomen nas defnyddir, a phan fydd yn gwneud newid o’r fath.