RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR
PENNOD 4Y CATEGORÏAU O DOMENNI NAS DEFNYDDIR ETC.
25Datganiad polisi ar gategoreiddio
(1)
Rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi datganiad o’i bolisi ar gategoreiddio tomenni nas defnyddir.
(2)
Caiff yr Awdurdod ddiwygio’r datganiad ond, pan fo’n gwneud hynny, rhaid iddo gyhoeddi’r datganiad ar ei ffurf ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y diwygiad.
(3)
Cyn cyhoeddi’r datganiad (gan gynnwys ar ffurf ddiwygiedig), rhaid i’r Awdurdod ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.