RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR
PENNOD 4Y CATEGORÏAU O DOMENNI NAS DEFNYDDIR ETC.
24Categorïau tomenni nas defnyddir
(1)
Mae pedwar categori y caniateir rhoi tomen nas defnyddir yn y gofrestr ynddo o dan y Rhan hon: categori 1, 2, 3 neu 4.
(2)
Mae’r pedwar categori yn cynrychioli’r graddau gwahanol y mae tomenni nas defnyddir yn peri pryder i’r Awdurdod, fel a ganlyn—
(a)
categori 1 yn cynrychioli’r tomenni nas defnyddir hynny sy’n peri’r pryder mwyaf i’r Awdurdod, a
(b)
categori 4 yn cynrychioli’r tomenni nas defnyddir hynny sy’n peri’r pryder lleiaf i’r Awdurdod,
ar sail asesiad o un neu ragor o’r materion a nodir yn is-adran (3).
(3)
Y materion yw—
(a)
ansefydlogrwydd y domen;
(b)
ansefydlogrwydd posibl y domen;
(c)
y bygythiad i les pobl a berir gan ansefydlogrwydd y domen;
(d)
y bygythiad y gallai’r domen ei beri i les pobl pe bai ansefydlogrwydd.