RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR
PENNOD 3COFRESTRU A DATGOFRESTRU TOMENNI NAS DEFNYDDIR
23Penderfyniad ynghylch dileu tomen o’r gofrestr
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau mewn perthynas â chynnig i ddileu tomen nas defnyddir o’r gofrestr wedi dod i ben.
(2)
Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, benderfynu pa un a yw’n fodlon nad yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â’r domen.
(3)
Wrth wneud ei benderfyniad, rhaid i’r Awdurdod roi sylw i—
(a)
casgliadau’r adroddiad ar yr asesiad llawn a grybwyllir yn adran 22, a
(b)
unrhyw sylwadau a wnaed am y cynnig gan berson y rhoddwyd yr hysbysiad o ddatgofrestriad arfaethedig iddo.
(4)
Caiff yr Awdurdod hefyd roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.
(5)
Pan fo’r Awdurdod yn penderfynu nad yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru yn cael eu bodloni mwyach, rhaid iddo ddileu’r domen o’r gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(6)
Rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad o benderfyniad o dan yr adran hon (“hysbysiad penderfynu”) i—
(a)
pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno,
(b)
unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai, ac
(c)
unrhyw berson arall y rhoddwyd yr hysbysiad o ddatgofrestriad arfaethedig iddo.
(7)
Rhaid i hysbysiad penderfynu—
(a)
nodi’r domen nas defnyddir;
(b)
cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;
(c)
esbonio penderfyniad yr Awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad;
(d)
os yw’r domen wedi ei dileu o’r gofrestr, pennu’r dyddiad y cafodd ei dileu.