(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau ynghylch cynnig i gynnwys tomen nas defnyddir yn y gofrestr wedi dod i ben.
(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, benderfynu pa un a yw’n fodlon bod y meini prawf ar gyfer cofrestru’r domen wedi eu bodloni.
(3)Wrth wneud ei benderfyniad, rhaid i’r Awdurdod roi sylw i—
(a)casgliadau yr adroddiad ar yr asesiad llawn a grybwyllir yn adran 20, a
(b)unrhyw sylwadau a wnaed am y cynnig gan berson y rhoddwyd yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig iddo.
(4)Caiff yr Awdurdod hefyd roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.
(5)Pan fo’r Awdurdod yn penderfynu bod y meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni, rhaid iddo gynnwys y domen yn y gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(6)Caiff yr Awdurdod gofrestru tomen nas defnyddir rywfodd arall yn hytrach nag yn unol â’r cynnig yn yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(7)Rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad o benderfyniad o dan yr adran hon (“hysbysiad penderfynu”) i—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno,
(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai, ac
(c)unrhyw berson arall y rhoddwyd yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig iddo.
(8)Rhaid i hysbysiad penderfynu—
(a)nodi’r domen nas defnyddir;
(b)cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;
(c)esbonio penderfyniad yr Awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad;
(d)os yw’r domen wedi ei chynnwys yn y gofrestr—
(i)pennu’r dyddiad yr ychwanegwyd y domen at y gofrestr,
(ii)pennu categori’r domen, a
(iii)pan fo’r domen wedi ei chofrestru rywfodd arall yn hytrach nag yn unol â’r hysbysiad o gofrestriad arfaethedig, esbonio unrhyw wahaniaethau a’r rhesymau dros y gwahaniaethau.