RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR

PENNOD 3COFRESTRU A DATGOFRESTRU TOMENNI NAS DEFNYDDIR

21Penderfyniad ynghylch cofrestru

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau ynghylch cynnig i gynnwys tomen nas defnyddir yn y gofrestr wedi dod i ben.

(2)

Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, benderfynu pa un a yw’n fodlon bod y meini prawf ar gyfer cofrestru’r domen wedi eu bodloni.

(3)

Wrth wneud ei benderfyniad, rhaid i’r Awdurdod roi sylw i—

(a)

casgliadau yr adroddiad ar yr asesiad llawn a grybwyllir yn adran 20, a

(b)

unrhyw sylwadau a wnaed am y cynnig gan berson y rhoddwyd yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig iddo.

(4)

Caiff yr Awdurdod hefyd roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.

(5)

Pan fo’r Awdurdod yn penderfynu bod y meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni, rhaid iddo gynnwys y domen yn y gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(6)

Caiff yr Awdurdod gofrestru tomen nas defnyddir rywfodd arall yn hytrach nag yn unol â’r cynnig yn yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(7)

Rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad o benderfyniad o dan yr adran hon (“hysbysiad penderfynu”) i—

(a)

pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno,

(b)

unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai, ac

(c)

unrhyw berson arall y rhoddwyd yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig iddo.

(8)

Rhaid i hysbysiad penderfynu—

(a)

nodi’r domen nas defnyddir;

(b)

cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;

(c)

esbonio penderfyniad yr Awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad;

(d)

os yw’r domen wedi ei chynnwys yn y gofrestr—

(i)

pennu’r dyddiad yr ychwanegwyd y domen at y gofrestr,

(ii)

pennu categori’r domen, a

(iii)

pan fo’r domen wedi ei chofrestru rywfodd arall yn hytrach nag yn unol â’r hysbysiad o gofrestriad arfaethedig, esbonio unrhyw wahaniaethau a’r rhesymau dros y gwahaniaethau.