RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR
PENNOD 3COFRESTRU A DATGOFRESTRU TOMENNI NAS DEFNYDDIR
20Cynnig i gofrestru tomen
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo adroddiad ar asesiad llawn o dan adran 16 yn dod i’r casgliad fod y meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir wedi eu bodloni.
(2)
Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi hysbysiad ei fod yn cynnig cynnwys y domen yn y gofrestr (“hysbysiad o gofrestriad arfaethedig”) i—
(a)
pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno, a
(b)
unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai.
(3)
Rhaid i hysbysiad o gofrestriad arfaethedig—
(a)
nodi’r domen nas defnyddir;
(b)
cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;
(c)
esbonio bod yr Awdurdod yn cynnig cofrestru’r domen a’i resymau dros y cynnig;
(d)
pennu’r categori y mae’r Awdurdod yn ei gynnig ar gyfer y domen a’i resymau dros y cynnig;
(e)
pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Awdurdod ynghylch y cynnig, y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod o 30 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad;
(f)
esbonio sut y caiff person gyflwyno sylwadau.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3)(e) i newid y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau, ond ni chaiff y cyfnod diwygiedig fod yn llai na 14 diwrnod.