RHAN 1AWDURDOD TOMENNI NAS DEFNYDDIR CYMRU

Sefydlu ac arfer swyddogaethau

2Yr Awdurdod yn arfer ei swyddogaethau

(1)

Rhaid i’r Awdurdod arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon gyda golwg ar sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd.

(2)

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i’r Awdurdod hefyd hyrwyddo safonau uchel mewn perthynas â rheoli tomenni nas defnyddir a bygythiadau i’w sefydlogrwydd.