RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR

PENNOD 2ASESU TOMENNI NAS DEFNYDDIR

Asesiad llawn

18Hysbysiad o fwriad i gynnal asesiad llawn

(1)

Cyn cynnal asesiad llawn mewn perthynas â thomen nas defnyddir, rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad i bob perchennog a phob meddiannydd ar dir y mae angen mynediad iddo at ddibenion yr asesiad.

(2)

Rhaid i’r hysbysiad—

(a)

datgan bod yr Awdurdod wedi trefnu asesiad llawn mewn perthynas â’r domen;

(b)

esbonio y gallai fod angen mynd ar y tir i gynnal yr asesiad;

(c)

pennu’r dyddiad y gallai fod angen mynd ar y tir (na chaiff fod yn llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad);

(d)

datgan y caiff yr Awdurdod, oni bai mai tir y Goron yw’r tir, wneud cais am warant i fynd ar y tir o dan adran 67 os gwrthodir mynediad.