RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR

PENNOD 2ASESU TOMENNI NAS DEFNYDDIR

Asesiad rhagarweiniol

14Asesiadau rhagarweiniol ychwanegol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo asesiad rhagarweiniol wedi ei gynnal o dan y Bennod hon mewn perthynas â thomen nas defnyddir nad yw yn y gofrestr, ond bod yr Awdurdod yn ystyried y dylid cynnal asesiad rhagarweiniol ychwanegol mewn perthynas â’r domen—

(a)

oherwydd newid mewn amgylchiadau, neu

(b)

oherwydd bod gwybodaeth ar gael nas ystyriwyd pan gynhaliwyd yr asesiad blaenorol.

(2)

Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—

(a)

cynnal asesiad rhagarweiniol ychwanegol mewn perthynas â’r domen, a

(b)

llunio‍ a chyhoeddi adroddiad ar‍ yr asesiad.

(3)

Caiff yr Awdurdod gyhoeddi adroddiad o dan is-adran (2)(b) ar ffurf olygedig os yw’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.