RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR

PENNOD 2ASESU TOMENNI NAS DEFNYDDIR

Cyffredinol

11Trosolwg

Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu tomenni nas defnyddir; yn benodol, mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gynnal—

(a)

asesiad rhagarweiniol o domenni nas defnyddir nad ydynt yn y gofrestr, er mwyn nodi’r tomenni hynny y gall fod angen eu cynnwys ynddi;

(b)

asesiad llawn o’r tomenni hynny y mae asesiad rhagarweiniol yn nodi eu bod yn rhai y gall fod angen eu cynnwys yn y gofrestr;

(c)

mewn amgylchiadau penodol, asesiad llawn o domenni sydd eisoes yn y gofrestr.