RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR

PENNOD 1COFRESTR TOMENNI NAS DEFNYDDIR

Monitro tomenni cofrestredig

10Dyletswydd i fonitro tomenni cofrestredig

(1)

Rhaid i’r Awdurdod fonitro sefydlogrwydd, a bygythiadau i sefydlogrwydd, pob tomen nas defnyddir yn y gofrestr.

(2)

Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) ‍mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 1, rhaid i’r Awdurdod—

(a)

arolygu’r domen o fewn 6 mis ar ôl i’r domen gael ei chofnodi yn y gofrestr fel tomen categori 1, a

(b)

rhaid iddo yna arolygu’r domen—

(i)

dwywaith o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr arolygiad sy’n ofynnol gan baragraff (a), a

(ii)

dwywaith o fewn pob cyfnod dilynol o 12 mis.

(3)

Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 2, rhaid i’r Awdurdod—

(a)

arolygu’r domen o fewn 12 mis ar ôl i’r domen gael ei chofnodi yn y gofrestr fel tomen categori 2, a

(b)

rhaid iddo yna arolygu’r domen—

(i)

unwaith o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr arolygiad sy’n ofynnol gan baragraff (a), a

(ii)

unwaith o fewn pob cyfnod dilynol o 12 mis.

(4)

Caiff yr Awdurdod gynnal unrhyw weithgareddau monitro eraill (gan gynnwys arolygiadau ychwanegol) y mae’n ystyried eu bod yn briodol mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 1 neu’n domen categori 2.

(5)

Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 3 neu’n domen categori 4, caiff yr Awdurdod gynnal unrhyw arolygiadau neu weithgareddau monitro eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2) neu (3)—

(a)

i newid unrhyw gyfnod y cyfeirir ato am y tro yn yr is-adrannau hynny fel y cyfnod y mae rhaid cynnal arolygiad neu arolygiadau (yn ôl y digwydd) ynddo;

(b)

i newid, mewn perthynas ag unrhyw gyfnod o’r fath, nifer yr arolygiadau y mae’n ofynnol i’r Awdurdod eu cynnal.