- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(1)Rhaid i’r Awdurdod lunio a chadw cofrestr electronig o domenni nas defnyddir y mae’r Awdurdod yn penderfynu—
(a)eu bod yn bygwth lles pobl oherwydd ansefydlogrwydd, neu
(b)y gallant beri bygythiad o’r fath pe bai ansefydlogrwydd.
(2)Mae Pennod 3 yn nodi’r broses ar gyfer cynnwys tomenni nas defnyddir yn y gofrestr neu eu dileu o’r gofrestr.
(3)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “y gofrestr” yn gyfeiriadau at y gofrestr y cyfeirir ati yn is-adran (1).
At ddibenion y Rhan hon, y meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir yw—
(a)bod y domen yn bygwth lles pobl oherwydd ansefydlogrwydd, neu
(b)y gallai beri bygythiad o’r fath pe bai ansefydlogrwydd.
(1)Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer tomen nas defnyddir gynnwys—
(a)map sy’n dangos ardal y domen, a
(b)yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2).
(2)Yr wybodaeth yw—
(a)enw neu enwau cyffredin y domen (os oes un neu rai);
(b)lleoliad y domen;
(c)dynodydd unigryw y mae’r Awdurdod wedi ei roi i’r domen;
(d)categori’r domen (gweler Pennod 4);
(e)dyddiad yr arolygiad diweddaraf o’r domen (os bu un);
(f)unrhyw wybodaeth ychwanegol a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Awdurdod cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2)(f).
(4)Ni chaniateir newid y map sy’n dangos ardal tomen nas defnyddir na newid categori tomen ond yn unol â Phennod 5.
Rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi’r mapiau a’r wybodaeth yn y gofrestr, ac eithrio unrhyw wybodaeth a bennir drwy reoliadau o dan adran 8(2)(f).
(1)Rhaid i’r Awdurdod fonitro sefydlogrwydd, a bygythiadau i sefydlogrwydd, pob tomen nas defnyddir yn y gofrestr.
(2)Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 1, rhaid i’r Awdurdod—
(a)arolygu’r domen o fewn 6 mis ar ôl i’r domen gael ei chofnodi yn y gofrestr fel tomen categori 1, a
(b)rhaid iddo yna arolygu’r domen—
(i)dwywaith o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr arolygiad sy’n ofynnol gan baragraff (a), a
(ii)dwywaith o fewn pob cyfnod dilynol o 12 mis.
(3)Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 2, rhaid i’r Awdurdod—
(a)arolygu’r domen o fewn 12 mis ar ôl i’r domen gael ei chofnodi yn y gofrestr fel tomen categori 2, a
(b)rhaid iddo yna arolygu’r domen—
(i)unwaith o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr arolygiad sy’n ofynnol gan baragraff (a), a
(ii)unwaith o fewn pob cyfnod dilynol o 12 mis.
(4)Caiff yr Awdurdod gynnal unrhyw weithgareddau monitro eraill (gan gynnwys arolygiadau ychwanegol) y mae’n ystyried eu bod yn briodol mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 1 neu’n domen categori 2.
(5)Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 3 neu’n domen categori 4, caiff yr Awdurdod gynnal unrhyw arolygiadau neu weithgareddau monitro eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2) neu (3)—
(a)i newid unrhyw gyfnod y cyfeirir ato am y tro yn yr is-adrannau hynny fel y cyfnod y mae rhaid cynnal arolygiad neu arolygiadau (yn ôl y digwydd) ynddo;
(b)i newid, mewn perthynas ag unrhyw gyfnod o’r fath, nifer yr arolygiadau y mae’n ofynnol i’r Awdurdod eu cynnal.
Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu tomenni nas defnyddir; yn benodol, mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gynnal—
(a)asesiad rhagarweiniol o domenni nas defnyddir nad ydynt yn y gofrestr, er mwyn nodi’r tomenni hynny y gall fod angen eu cynnwys ynddi;
(b)asesiad llawn o’r tomenni hynny y mae asesiad rhagarweiniol yn nodi eu bod yn rhai y gall fod angen eu cynnwys yn y gofrestr;
(c)mewn amgylchiadau penodol, asesiad llawn o domenni sydd eisoes yn y gofrestr.
Yn y Bennod hon, ystyr “asesiad rhagarweiniol” yw asesiad o ba un a yw’n ymddangos y gallai’r meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir fod wedi eu bodloni.
(1)Rhaid i’r Awdurdod—
(a)cynnal asesiad rhagarweiniol mewn perthynas â phob tomen nas defnyddir, a
(b)llunio a chyhoeddi adroddiad ar bob asesiad.
(2)Caiff yr Awdurdod gyhoeddi adroddiad o dan is-adran (1)(b) ar ffurf olygedig os yw’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(3)Rhaid i’r Awdurdod lunio rhaglen sy’n nodi sut y mae’n bwriadu cynnal yr asesiadau rhagarweiniol sy’n ofynnol gan yr adran hon, a’i amserlen arfaethedig ar gyfer hynny.
(4)Rhaid i’r Awdurdod anfon y rhaglen at Weinidogion Cymru i’w chymeradwyo cyn diwedd 12 mis sy’n dechrau â phan ddaw’r adran hon i rym.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r rhaglen ag addasiadau neu hebddynt.
(6)Rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi’r rhaglen fel y’i cymeradwyir gan Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(7)Caiff yr Awdurdod ddiwygio’r rhaglen gyhoeddedig gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
(8)Os yw’r Awdurdod yn diwygio’r rhaglen gyhoeddedig, rhaid iddo ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y diwygiad.
(9)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i’r Awdurdod roi sylw i’r rhaglen ddiweddaraf a gyhoeddwyd ganddo o dan yr adran hon.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo asesiad rhagarweiniol wedi ei gynnal o dan y Bennod hon mewn perthynas â thomen nas defnyddir nad yw yn y gofrestr, ond bod yr Awdurdod yn ystyried y dylid cynnal asesiad rhagarweiniol ychwanegol mewn perthynas â’r domen—
(a)oherwydd newid mewn amgylchiadau, neu
(b)oherwydd bod gwybodaeth ar gael nas ystyriwyd pan gynhaliwyd yr asesiad blaenorol.
(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—
(a)cynnal asesiad rhagarweiniol ychwanegol mewn perthynas â’r domen, a
(b)llunio a chyhoeddi adroddiad ar yr asesiad.
(3)Caiff yr Awdurdod gyhoeddi adroddiad o dan is-adran (2)(b) ar ffurf olygedig os yw’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
Yn y Bennod hon ystyr “asesiad llawn”, mewn perthynas â thomen nas defnyddir, yw asesiad o—
(a)sefydlogrwydd y domen;
(b)materion sy’n effeithio ar sefydlogrwydd y domen neu a allai effeithio ar hynny (gan gynnwys unrhyw ryngddibyniaethau rhwng y domen ac unrhyw domen nas defnyddir arall);
(c)a allai unrhyw ryngddibyniaethau rhwng y domen a thomen nas defnyddir arall effeithio ar sefydlogrwydd y domen arall;
(d)a yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni.
(1)Os, ar sail asesiad rhagarweiniol o dan y Bennod hon, yr ymddengys i’r Awdurdod y gallai’r meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir fod wedi eu bodloni mewn perthynas â thomen nas defnyddir nad yw yn y gofrestr, rhaid i’r Awdurdod—
(a)cynnal asesiad llawn mewn perthynas â’r domen, a
(b)llunio a chyhoeddi adroddiad ar yr asesiad.
(2)Caiff yr Awdurdod gyhoeddi adroddiad o dan is-adran (1)(b) ar ffurf olygedig os yw’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Awdurdod yn ystyried y dylid cynnal asesiad llawn ychwanegol mewn perthynas â thomen nas defnyddir sydd eisoes yn y gofrestr—
(a)oherwydd newid mewn amgylchiadau, neu
(b)oherwydd bod gwybodaeth ar gael nas ystyriwyd pan gynhaliwyd asesiad llawn ddiwethaf mewn perthynas â’r domen.
(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—
(a)cynnal asesiad llawn ychwanegol mewn perthynas â’r domen, a
(b)llunio a chyhoeddi adroddiad ar yr asesiad.
(3)Caiff yr Awdurdod gyhoeddi adroddiad o dan is-adran (2)(b) ar ffurf olygedig os yw’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(1)Cyn cynnal asesiad llawn mewn perthynas â thomen nas defnyddir, rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad i bob perchennog a phob meddiannydd ar dir y mae angen mynediad iddo at ddibenion yr asesiad.
(2)Rhaid i’r hysbysiad—
(a)datgan bod yr Awdurdod wedi trefnu asesiad llawn mewn perthynas â’r domen;
(b)esbonio y gallai fod angen mynd ar y tir i gynnal yr asesiad;
(c)pennu’r dyddiad y gallai fod angen mynd ar y tir (na chaiff fod yn llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad);
(d)datgan y caiff yr Awdurdod, oni bai mai tir y Goron yw’r tir, wneud cais am warant i fynd ar y tir o dan adran 67 os gwrthodir mynediad.
Pan fo’r Awdurdod yn llunio adroddiad ar asesiad llawn mewn perthynas â thomen nas defnyddir, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi hysbysiad ynghylch casgliadau’r adroddiad i bob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo adroddiad ar asesiad llawn o dan adran 16 yn dod i’r casgliad fod y meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir wedi eu bodloni.
(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi hysbysiad ei fod yn cynnig cynnwys y domen yn y gofrestr (“hysbysiad o gofrestriad arfaethedig”) i—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno, a
(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai.
(3)Rhaid i hysbysiad o gofrestriad arfaethedig—
(a)nodi’r domen nas defnyddir;
(b)cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;
(c)esbonio bod yr Awdurdod yn cynnig cofrestru’r domen a’i resymau dros y cynnig;
(d)pennu’r categori y mae’r Awdurdod yn ei gynnig ar gyfer y domen a’i resymau dros y cynnig;
(e)pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Awdurdod ynghylch y cynnig, y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod o 30 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad;
(f)esbonio sut y caiff person gyflwyno sylwadau.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3)(e) i newid y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau, ond ni chaiff y cyfnod diwygiedig fod yn llai na 14 diwrnod.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau ynghylch cynnig i gynnwys tomen nas defnyddir yn y gofrestr wedi dod i ben.
(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, benderfynu pa un a yw’n fodlon bod y meini prawf ar gyfer cofrestru’r domen wedi eu bodloni.
(3)Wrth wneud ei benderfyniad, rhaid i’r Awdurdod roi sylw i—
(a)casgliadau yr adroddiad ar yr asesiad llawn a grybwyllir yn adran 20, a
(b)unrhyw sylwadau a wnaed am y cynnig gan berson y rhoddwyd yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig iddo.
(4)Caiff yr Awdurdod hefyd roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.
(5)Pan fo’r Awdurdod yn penderfynu bod y meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni, rhaid iddo gynnwys y domen yn y gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(6)Caiff yr Awdurdod gofrestru tomen nas defnyddir rywfodd arall yn hytrach nag yn unol â’r cynnig yn yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(7)Rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad o benderfyniad o dan yr adran hon (“hysbysiad penderfynu”) i—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno,
(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai, ac
(c)unrhyw berson arall y rhoddwyd yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig iddo.
(8)Rhaid i hysbysiad penderfynu—
(a)nodi’r domen nas defnyddir;
(b)cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;
(c)esbonio penderfyniad yr Awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad;
(d)os yw’r domen wedi ei chynnwys yn y gofrestr—
(i)pennu’r dyddiad yr ychwanegwyd y domen at y gofrestr,
(ii)pennu categori’r domen, a
(iii)pan fo’r domen wedi ei chofrestru rywfodd arall yn hytrach nag yn unol â’r hysbysiad o gofrestriad arfaethedig, esbonio unrhyw wahaniaethau a’r rhesymau dros y gwahaniaethau.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo adroddiad ar asesiad llawn o dan adran 17 yn dod i’r casgliad nad yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â thomen nas defnyddir yn y gofrestr.
(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi hysbysiad ei fod yn bwriadu dileu’r domen o’r gofrestr (“hysbysiad o ddatgofrestriad arfaethedig”) i—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno, a
(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai.
(3)Rhaid i hysbysiad o ddatgofrestriad arfaethedig—
(a)nodi’r domen nas defnyddir;
(b)cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;
(c)esbonio bod yr Awdurdod yn cynnig dileu’r domen o’r gofrestr a’i resymau dros y cynnig;
(d)pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Awdurdod mewn perthynas â’r cynnig, y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod o 30 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad;
(e)esbonio sut y caiff person gyflwyno sylwadau.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3)(d) i newid y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau, ond ni chaiff y cyfnod diwygiedig fod yn llai na 14 o ddiwrnodau.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau mewn perthynas â chynnig i ddileu tomen nas defnyddir o’r gofrestr wedi dod i ben.
(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, benderfynu pa un a yw’n fodlon nad yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â’r domen.
(3)Wrth wneud ei benderfyniad, rhaid i’r Awdurdod roi sylw i—
(a)casgliadau’r adroddiad ar yr asesiad llawn a grybwyllir yn adran 22, a
(b)unrhyw sylwadau a wnaed am y cynnig gan berson y rhoddwyd yr hysbysiad o ddatgofrestriad arfaethedig iddo.
(4)Caiff yr Awdurdod hefyd roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.
(5)Pan fo’r Awdurdod yn penderfynu nad yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru yn cael eu bodloni mwyach, rhaid iddo ddileu’r domen o’r gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(6)Rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad o benderfyniad o dan yr adran hon (“hysbysiad penderfynu”) i—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno,
(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai, ac
(c)unrhyw berson arall y rhoddwyd yr hysbysiad o ddatgofrestriad arfaethedig iddo.
(7)Rhaid i hysbysiad penderfynu—
(a)nodi’r domen nas defnyddir;
(b)cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;
(c)esbonio penderfyniad yr Awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad;
(d)os yw’r domen wedi ei dileu o’r gofrestr, pennu’r dyddiad y cafodd ei dileu.
(1)Mae pedwar categori y caniateir rhoi tomen nas defnyddir yn y gofrestr ynddo o dan y Rhan hon: categori 1, 2, 3 neu 4.
(2)Mae’r pedwar categori yn cynrychioli’r graddau gwahanol y mae tomenni nas defnyddir yn peri pryder i’r Awdurdod, fel a ganlyn—
(a)categori 1 yn cynrychioli’r tomenni nas defnyddir hynny sy’n peri’r pryder mwyaf i’r Awdurdod, a
(b)categori 4 yn cynrychioli’r tomenni nas defnyddir hynny sy’n peri’r pryder lleiaf i’r Awdurdod,
ar sail asesiad o un neu ragor o’r materion a nodir yn is-adran (3).
(3)Y materion yw—
(a)ansefydlogrwydd y domen;
(b)ansefydlogrwydd posibl y domen;
(c)y bygythiad i les pobl a berir gan ansefydlogrwydd y domen;
(d)y bygythiad y gallai’r domen ei beri i les pobl pe bai ansefydlogrwydd.
(1)Rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi datganiad o’i bolisi ar gategoreiddio tomenni nas defnyddir.
(2)Caiff yr Awdurdod ddiwygio’r datganiad ond, pan fo’n gwneud hynny, rhaid iddo gyhoeddi’r datganiad ar ei ffurf ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y diwygiad.
(3)Cyn cyhoeddi’r datganiad (gan gynnwys ar ffurf ddiwygiedig), rhaid i’r Awdurdod ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)cynnig o dan adran 20 i gofrestru tomen nas defnyddir, a
(b)penderfyniad o dan adran 21 i gofrestru tomen nas defnyddir.
(2)Wrth gynnig categori neu benderfynu categori ar gyfer tomen, rhaid i’r Awdurdod—
(a)rhoi sylw i’r adroddiad ar yr asesiad llawn a gynhaliwyd o dan adran 16 mewn perthynas â’r domen, a
(b)dilyn y polisi yn y datganiad a gyhoeddir o dan adran 25.
(3)Wrth gynnig neu benderfynu categori ar gyfer tomen, caiff yr Awdurdod roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.
(1)Pan fo—
(a)yr Awdurdod yn cynnal asesiad llawn o dan adran 17 mewn perthynas â thomen nas defnyddir yn y gofrestr, a
(b)yr adroddiad yn dod i’r casgliad bod y meini prawf ar gyfer cofrestru’r domen yn parhau i gael eu bodloni,
rhaid i’r Awdurdod adolygu categori’r domen cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(2)Caiff yr Awdurdod adolygu categori tomen nas defnyddir ar unrhyw adeg arall.
(3)Os yw’r Awdurdod yn ystyried, ar adolygiad, y dylid newid categori tomen, nas defnyddir, rhaid iddo gynnig categori gwahanol ar gyfer y domen cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(4)Wrth adolygu categori tomen nas defnyddir, ac wrth gynnig categori gwahanol ar gyfer tomen nas defnyddir, rhaid i’r Awdurdod—
(a)rhoi sylw i’r adroddiad ar yr asesiad llawn diweddaraf a gynhaliwyd mewn perthynas â’r domen, a
(b)dilyn y polisi yn y datganiad a gyhoeddir o dan adran 25.
(5)Wrth adolygu categori tomen nas defnyddir, neu gynnig categori gwahanol ar gyfer tomen nas defnyddir, caiff yr Awdurdod roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.
(6)Gweler Pennod 5 ar gyfer darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan yr Awdurdod pan fydd yn cynnig newid i’r categori ar gyfer tomen nas defnyddir, a phan fydd yn gwneud newid o’r fath.
Yn y Bennod hon, ystyr “newid hysbysadwy” yw—
(a)newid i’r ardal a ddangosir fel ardal tomen nas defnyddir ar fap yn y gofrestr (gweler adran 8(1)(a)), neu
(b)newid i gategori tomen nas defnyddir.
(1)Os yw’r Awdurdod yn cynnig gwneud newid hysbysadwy mewn perthynas â thomen nas defnyddir, rhaid iddo roi hysbysiad o’r cynnig (“hysbysiad o newid arfaethedig i’r gofrestr”) i—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno, a
(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai.
(2)Rhaid i hysbysiad o newid arfaethedig i’r gofrestr—
(a)nodi’r domen nas defnyddir;
(b)cynnwys copi o’r map yn y gofrestr sy’n dangos ardal y domen;
(c)esbonio’r newid y mae’r Awdurdod yn ei gynnig (y mae rhaid iddo, yn achos newid i ardal tomen sydd wedi ei dangos ar fap yn y gofrestr, gynnwys map sy’n dangos y diwygiadau arfaethedig wedi eu marcio’n glir);
(d)esbonio rhesymau’r Awdurdod dros y cynnig;
(e)pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Awdurdod mewn perthynas â’r cynnig, y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod o 30 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad;
(f)esbonio sut y caiff person gyflwyno sylwadau.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2)(e) i newid y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau, ond ni chaiff y cyfnod diwygiedig fod yn llai na 14 o ddiwrnodau.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau mewn perthynas â chynnig i wneud newid hysbysadwy wedi dod i ben.
(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, benderfynu pa un ai i wneud y newid.
(3)Pan fo—
(a)y newid arfaethedig yn newid i’r map yn y gofrestr sy’n dangos ardal tomen nas defnyddir, a
(b)yr Awdurdod yn ystyried y dylid gwneud y newid ar ffurf addasedig,
caiff benderfynu gwneud y newid gydag unrhyw addasiadau y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(4)Pan fo’r newid arfaethedig yn newid i gategori tomen nas defnyddir, caiff yr Awdurdod benderfynu newid y categori i gategori sy’n wahanol i’r categori a gynigiwyd ganddo.
(5)Wrth wneud ei benderfyniad o dan is-adran (2) , rhaid i’r Awdurdod roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan berson y rhoddwyd hysbysiad o’r cynnig iddo.
(6)Caiff yr Awdurdod hefyd roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.
(7)Pan fo’r Awdurdod yn penderfynu gwneud newid hysbysadwy, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ddiweddaru’r gofrestr i adlewyrchu ei benderfyniad.
(8)Rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad o’i benderfyniad o dan is-adran (2) (“hysbysiad penderfynu”) i—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno,
(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai, ac
(c)unrhyw berson arall y rhoddwyd hysbysiad o’r newid arfaethedig i’r gofrestr iddo.
(9)Rhaid i hysbysiad penderfynu—
(a)nodi’r domen nas defnyddir;
(b)cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;
(c)esbonio penderfyniad yr Awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad;
(d)os gwnaed newid i’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer y domen, roi’r dyddiad y gwnaed y newid.
(1)Rhaid i’r Awdurdod lunio a chadw cofrestr electronig o’r holl domenni nas defnyddir y cynhaliwyd asesiad o dan adran 13 (asesiadau rhagarweiniol o’r holl domenni nas defnyddir) mewn perthynas â hwy.
(2)Rhaid i’r Awdurdod gynnwys tomen nas defnyddir yn y gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cwblhau’r asesiad y cyfeirir ato yn is-adran (1) mewn perthynas â’r domen.
(3)Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer tomen nas defnyddir gynnwys—
(a)enw neu enwau cyffredin y domen (os oes un neu rai);
(b)lleoliad y domen;
(c)dynodydd unigryw y mae’r Awdurdod wedi ei roi i’r domen.
(4)Rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi’r gofrestr.
(1)Pan fo darpariaeth ym Mhennod 3 neu 5 o’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi i berson, rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi’r hysbysiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei roi.
(2)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), caiff yr Awdurdod gyhoeddi hysbysiad ar ffurf olygedig os yw’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)arolygiad neu weithgaredd monitro arall yn cael ei gynnal o dan Bennod 1, neu
(b)asesiad rhagarweiniol neu asesiad llawn yn cael ei gynnal o dan Bennod 2.
(2)Os, o ganlyniad i gynnal yr arolygiad, y gweithgaredd neu’r asesiad—
(a)difrodir unrhyw dir neu eiddo arall, neu
(b)aflonyddir ar fwynhad unrhyw berson o unrhyw dir,
mae gan y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (3) hawlogaeth i adennill digollediad oddi wrth yr Awdurdod mewn cysylltiad â’r difrod neu’r aflonyddu.
(3)Y personau yw—
(a)yn achos difrod i dir, unrhyw berson a chanddo ystad neu fuddiant yn y tir;
(b)yn achos difrod i eiddo arall, perchennog yr eiddo;
(c)mewn achos o aflonyddu ar fwynhad person o dir, y person yr aflonyddir ar ei fwynhad o’r tir.
(4)Mae unrhyw anghydfod sy’n codi ynghylch hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon i’w benderfynu gan y llys.
(5)Mae Atodlen 2 yn cael effaith mewn perthynas â hawliadau penodol am ddigollediad o dan yr adran hon.
(1)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol neu’n ymyrryd yn fwriadol ag—
(a)arolygiad neu weithgaredd monitro arall o dan Bennod 1, neu
(b)asesiad rhagarweiniol neu asesiad llawn o dan Bennod 2,
yn cyflawni trosedd.
(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(3)Nid yw torri is-adran (1) gan y Goron yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd (ond gweler adran 28(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) ynghylch atebolrwydd personau sy’n gwasanaethu’r Goron).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: