
Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025
Deddf gan Senedd Cymru i hyrwyddo hygyrchedd cyfraith Cymru drwy wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud a chyhoeddi deddfwriaeth Cymru, a thrwy ddiddymu deddfiadau penodol nad ydynt o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd mwyach, ac at ddibenion cysylltiedig.
Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
RHAN 1Y WEITHDREFN AR GYFER GWNEUD IS-DDEDDFWRIAETH CYMRU
1Rhan 2A newydd o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019
(1)
Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“RHAN 2AY WEITHDREFN AR GYFER GWNEUD IS-DDEDDFWRIAETH CYMRU
Cyflwyniad
37AOfferynnau statudol Cymreig
(1)
Dogfen yw “offeryn statudol Cymreig” sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth Cymru a wneir wrth arfer pŵer y mae’n ofynnol gan ddeddfiad ei arfer drwy offeryn statudol.
(2)
Yn is-adran (1), ystyr “is-ddeddfwriaeth Cymru” yw is-ddeddfwriaeth nas gwneir ond gan—
(a)
Gweinidogion Cymru, neu
(b)
unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(3)
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at ddeddfiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i bŵer gael ei arfer drwy offeryn statudol yn cynnwys deddfiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i bŵer gael ei arfer drwy offeryn statudol Cymreig.
(4)
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2)(a) at Weinidogion Cymru yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y’i cyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38).
37BDehongli
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon a Rhan 2B.
(2)
Yr “awdurdod cyfrifol” mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn statudol Cymreig yw—
(a)
Gweinidogion Cymru mewn achos pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud, ei chadarnhau neu ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol;
(b)
mewn unrhyw achos arall, y person sy’n gwneud yr is-ddeddfwriaeth.
(3)
Ac eithrio yn is-adran (2) ac adrannau 37D(6) a 37E(9), mae cyfeiriadau at is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn cynnwys is-ddeddfwriaeth yn cael ei chadarnhau neu ei chymeradwyo drwy offeryn statudol Cymreig.
(4)
Mae penderfyniad gan awdurdod cyfrifol o ran ai i ddosbarthu offeryn statudol Cymreig yn offeryn lleol i’w wneud yn ôl y graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn—
(a)
yn gymwys yn gyffredinol, neu
(b)
yn gymwys i ardal benodol yn unig, neu i unigolion neu bersonau penodol yn unig.
Gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth y Senedd
37CGweithdrefn gymeradwyo’r Senedd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.
(2)
Ni chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
37DGweithdrefn gadarnhau’r Senedd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gadarnhau’r Senedd”.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud.
(3)
Ond mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn statudol Cymreig yn peidio â chael effaith os na chaiff ei chadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)
cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)
digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(4)
Pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn peidio â chael effaith o dan is-adran (3)—
(a)
i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym pan fydd yn peidio â chael effaith, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)
i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)
rhaid i’r awdurdod cyfrifol, drwy orchymyn, ddirymu’r is-ddeddfwriaeth.
(5)
Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)
dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)
gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)
Mae gorchymyn o dan is-adran (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol Cymreig.
37EGweithdrefn annilysu’r Senedd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud, ac mae is-adran (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(3)
Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol Cymreig ger ei bron, benderfynu annilysu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn.
(4)
Pan gaiff yr is-ddeddfwriaeth ei hannilysu—
(a)
i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)
i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)
rhaid i’r awdurdod cyfrifol, drwy orchymyn, ddirymu’r is-ddeddfwriaeth.
(5)
Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)
dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)
gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)
Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol Cymreig o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(7)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(8)
Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-adran (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.
(9)
Mae gorchymyn o dan is-adran (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol Cymreig.
37FOfferynnau statudol Cymreig eraill sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan na fo deddfiad sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth drwy offeryn statudol Cymreig yn darparu bod y ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i—
(a)
gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,
(b)
gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, nac
(c)
gweithdrefn annilysu’r Senedd.
(2)
Ond nid yw’n gymwys pan fo’r is-ddeddfwriaeth—
(a)
yn cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol,
(b)
yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, neu
(c)
yn cael ei gwneud o dan ddeddfiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(3)
Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud; ac mae is-adran (4) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(4)
Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol Cymreig cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(5)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(6)
Yn is-adran (2)(b), ystyr “gweithdrefn arbennig y Senedd” yw’r weithdrefn a bennir yn rheolau sefydlog Senedd Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd.
37GCyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y Senedd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn gwneud, neu’n cynnig gwneud, is-ddeddfwriaeth drwy offeryn statudol Cymreig a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y Senedd.
(2)
Mae’r weithdrefn yn y Senedd a grybwyllir gyntaf yn is-adran (3) yn gymwys ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y Senedd yn gymwys.
(3)
Y gweithdrefnau yn y Senedd yw—
(a)
gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd (gweler adran 37C);
(b)
gweithdrefn gadarnhau’r Senedd (gweler adran 37D);
(c)
gweithdrefn annilysu’r Senedd (gweler adran 37E);
(d)
y gofyniad (dim ond) i osod yr offeryn statudol Cymreig gerbron Senedd Cymru ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud (gweler adran 37F).
(4)
Os yw’r awdurdod cyfrifol wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol Cymreig y mae is-adran (1) yn gymwys iddo, nid yw hyn—
(a)
yn ei atal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol Cymreig nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na
(b)
yn effeithio ar y weithdrefn yn y Senedd sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn o’r fath.
Pwerau sydd eisoes yn bodoli i wneud is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn seneddol
37HCymhwyso’r Rhan hon mewn amgylchiadau gwahanol
(1)
Mae Atodlen 1A yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon i is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn bod y Rhan hon mewn grym.
(2)
Mae Atodlen 1B yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon, gydag addasiadau, i is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru a pherson arall heblaw awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(3)
Mae Atodlen 1C yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon, gydag addasiadau, i Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wneir drwy offeryn statudol.”
(3)
“ATODLEN 1ACYMHWYSO RHAN 2A I DDEDDFIADAU CYN-GYCHWYN
Dehongli
1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym, ac
ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).
Cymhwyso’r Atodlen
2
Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth Cymru (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 37A(2)) sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad cyn-gychwyn.
Offerynnau na chaniateir eu gwneud neu na chânt ddod i rym oni bai bod drafft yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad
3
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)
na chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu
(b)
y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—
(a)
bod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, a
(b)
cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.
Offerynnau y caniateir eu gwneud ond y mae rhaid eu cadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru
4
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth a’i gosod gerbron Senedd Cymru ond ei bod yn peidio â chael effaith oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei gadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)
cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)
digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—
(a)
bod yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, a
(b)
cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.
Offerynnau y caniateir eu gwneud ond sy’n ddarostyngedig i’w hannilysu drwy benderfyniad gan Senedd Cymru
5
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)
bod yr is-ddeddfwriaeth neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn ddarostyngedig i’w hannilysu neu ei annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, neu
(b)
y caniateir gosod drafft o’r is-ddeddfwriaeth neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys gerbron Senedd Cymru ond na chaniateir ei gwneud neu ei wneud os yw Senedd Cymru yn penderfynu na ddylid ei gwneud neu ei wneud o fewn 40 niwrnod i’w gosod neu i’w osod.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—
(a)
bod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, a
(b)
cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.
Offerynnau eraill sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru
6
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod yr is-ddeddfwriaeth, neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys, yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3, 4 neu 5.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai—
(a)
yn darparu i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig;
(b)
yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio).
(3)
Ond nid yw is-baragraff (2)(b) yn gymwys i offeryn statudol—
(a)
sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol,
(b)
sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, neu
(c)
sydd wedi ei wneud o dan ddeddfiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(4)
Yn is-baragraff (3)(b), ystyr “gweithdrefn arbennig y Senedd” yw’r weithdrefn a bennir yn rheolau sefydlog Senedd Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd.
Pŵer i wneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar yr Atodlen hon
7
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.
ATODLEN 1BCYMHWYSO RHAN 2A I DDEDDFWRIAETH AR Y CYD NEU DDEDDFWRIAETH GYFANSAWDD
RHAN 1DEHONGLI
Dehongli
1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “deddfiad ôl-gychwyn” (“post-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed ar ôl i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).
RHAN 2OFFERYNNAU AR Y CYD NEU OFFERYNNAU CYFANSAWDD A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU CYN-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan
2
Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud o dan ddeddfiad cyn-gychwyn—
(a)
gan Weinidogion Cymru a pherson arall, heblaw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));
(b)
drwy offeryn statudol.
Offerynnau na chaniateir eu gwneud neu na chânt ddod i rym oni bai bod drafft yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad
3
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)
na chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu
(b)
y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
Offerynnau y caniateir eu gwneud ond y mae rhaid eu cadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru
4
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth a’i gosod gerbron Senedd Cymru, ond ei bod yn peidio â chael effaith oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei gadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)
cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)
digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, fel y’i haddesir ym mharagraff 13.
Offerynnau y caniateir eu gwneud ond sy’n ddarostyngedig i’w hannilysu drwy benderfyniad gan Senedd Cymru
5
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)
bod offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i’w annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, neu
(b)
y caniateir gosod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru ond na chaniateir ei wneud os yw Senedd Cymru’n penderfynu na ddylid ei wneud o fewn 40 niwrnod i’w osod.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 14.
Offerynnau eraill sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru
6
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3, 4 neu 5.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod yr is-ddeddfwriaeth, neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys, gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio) yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 15.
RHAN 3OFFERYNNAU AR Y CYD NEU OFFERYNNAU CYFANSAWDD A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU ÔL-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan
7
Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud o dan ddeddfiad ôl-gychwyn—
(a)
gan Weinidogion Cymru a pherson arall, heblaw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));
(b)
drwy offeryn statudol.
Cymhwyso gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd
8
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.
(2)
Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
Cymhwyso gweithdrefn gadarnhau’r Senedd
9
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gadarnhau’r Senedd”.
(2)
Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, fel y’i haddesir ym mharagraff 13.
Cymhwyso gweithdrefn annilysu’r Senedd
10
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.
(2)
Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 14.
Cymhwyso’r gofyniad i osod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru
11
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i—
(a)
gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,
(b)
gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, nac
(c)
gweithdrefn annilysu’r Senedd.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio) yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 15.
RHAN 4GWEITHDREFNAU ADDASEDIG YN Y SENEDD AR GYFER OFFERYNNAU AR Y CYD NEU OFFERYNNAU CYFANSAWDD
Gweithdrefn gymeradwyo addasedig y Senedd
12
(1)
Mae is-baragraff (2) yn addasiad i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd yn adran 37C sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)
Ni chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Gweithdrefn gadarnhau addasedig y Senedd
13
(1)
Mae is-baragraffau (2) i (6) yn addasiad i weithdrefn gadarnhau’r Senedd yn adran 37D sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud.
(3)
Ond mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn statudol yn peidio â chael effaith os na chaiff ei chadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)
cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)
digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(4)
Pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn peidio â chael effaith o dan is-baragraff (3)—
(a)
i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym pan fydd yn peidio â chael effaith, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)
i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)
caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.
(5)
Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)
dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)
gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)
Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.
Gweithdrefn annilysu addasedig y Senedd
14
(1)
Mae is-baragraffau (2) i (9) yn addasiad i weithdrefn annilysu’r Senedd yn adran 37E sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud, ac mae is-baragraff (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(3)
Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol ger ei bron, benderfynu annilysu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn.
(4)
Pan gaiff yr is-ddeddfwriaeth ei hannilysu—
(a)
i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)
i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)
caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.
(5)
Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)
dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)
gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)
Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(7)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(8)
Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.
(9)
Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.
Y weithdrefn addasedig ar gyfer gosod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru
15
(1)
Mae is-baragraffau (2) i (4) yn addasiad i’r weithdrefn ar gyfer gosod is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru yn adran 37F sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud; ac mae is-baragraff (3) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(3)
Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(4)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
RHAN 5DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Pŵer i wneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar yr Atodlen hon
16
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.
ATODLEN 1CCYMHWYSO RHAN 2A I ORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR
RHAN 1DEHONGLI
Dehongli
1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “deddfiad ôl-gychwyn” (“post-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed ar ôl i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).
RHAN 2GORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU CYN-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan
2
Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w wneud fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad cyn-gychwyn.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor na chaniateir eu gwneud neu na chânt ddod i rym oni bai bod drafft yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad
3
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)
na chaniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu
(b)
y caniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei gynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 10.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor y caniateir eu gwneud ond sy’n ddarostyngedig i’w hannilysu drwy benderfyniad gan Senedd Cymru
4
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i’w annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor fod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 11.
Gorchmynion eraill yn y Cyfrin Gyngor sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru
5
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru.
(2)
Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys—
(a)
pan fyddai’r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru (gan anwybyddu unrhyw ofyniad am gydsyniad neu ymgynghoriad), a
(b)
pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3 neu 4, neu fod rhaid ei osod gerbron Senedd Cymru.
(3)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
RHAN 3GORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU ÔL-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan
6
Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad ôl-gychwyn.
Cymhwyso gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd
7
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.
(2)
Mae’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 10.
Cymhwyso gweithdrefn annilysu’r Senedd
8
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.
(2)
Mae’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 11.
Cymhwyso’r gofyniad i osod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru
9
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru.
(2)
Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys—
(a)
pan fyddai’r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru (gan anwybyddu unrhyw ofyniad am gydsyniad neu ymgynghoriad), a
(b)
pan na fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i—
(i)
gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,
(ii)
gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, na
(iii)
gweithdrefn annilysu’r Senedd,
neu fod rhaid ei osod gerbron Senedd Cymru.
(3)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
RHAN 4GWEITHDREFNAU ADDASEDIG YN Y SENEDD AR GYFER GORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR
Gweithdrefn gymeradwyo addasedig y Senedd
10
(1)
Mae is-baragraff (2) yn addasiad i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd yn adran 37C sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.
(2)
Ni chaniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Gweithdrefn annilysu addasedig y Senedd
11
(1)
Mae is-baragraffau (2) i (9) yn addasiad i weithdrefn annilysu’r Senedd yn adran 37E sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gael ei wneud, ac mae is-baragraff (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddod i rym.
(3)
Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol ger ei bron, benderfynu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor i’w annilysu.
(4)
Pan gaiff y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ei annilysu—
(a)
i’r graddau nad yw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddo ar gyfer dod i rym y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor),
(b)
i’r graddau y mae’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu gan ddibynnu arno, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)
caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.
(5)
Ond nid yw unrhyw benderfyniad o’r fath neu unrhyw ddirymiad o’r fath yn effeithio ar—
(a)
dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr offeryn, na
(b)
gwneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor newydd.
(6)
Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd wedi ei gynnwys ynddo ddod i rym.
(7)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(8)
Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.
(9)
Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.
Y weithdrefn addasedig ar gyfer gosod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru
12
(1)
Mae is-baragraffau (2) i (4) yn addasiad i’r weithdrefn ar gyfer gosod is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru yn adran 37F sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gael ei wneud; ac mae is-baragraff (3) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddod i rym.
(3)
Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd wedi ei gynnwys ynddo ddod i rym.
(4)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
RHAN 5DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Pŵer i wneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar yr Atodlen hon
13
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.”
2Dim gofyniad i wneud gorchmynion traffig ffyrdd drwy offeryn statudol Cymreig
(1)
“(1A)
But powers conferred by this Act on the Welsh Ministers are not exercisable by Welsh statutory instrument (see Schedule 1A to the Legislation (Wales) Act 2019 (anaw 4)) where provision made under the power—
(a)
is of temporary application, or
(b)
is not subject to the Senedd approval procedure, the Senedd confirmation procedure or the Senedd annulment procedure;
(and a power conferred by this Act on the Welsh Ministers to make such a provision includes a power to revoke or vary the provision, which is not exercisable by Welsh statutory instrument).”
(2)
“(3)
But in relation to the exercise by the Welsh Ministers of a power to make an order under or by virtue of sections 1, 9, 14, 16A, 29 or 84—
(a)
the requirement in subsection (2) to make the order by Welsh statutory instrument (see Schedule 1A to the Legislation (Wales) Act 2019 (anaw 4)) does not apply, and
(b)
the Welsh Ministers’ power includes a power to make an order to revoke or vary an order previously made under or by virtue of those sections, and the requirement in subsection (2) does not apply to such an order.”
RHAN 2CYHOEDDI ETC. DDEDDFWRIAETH CYMRU
3Rhan 2B newydd o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019
“RHAN 2BCYHOEDDI ETC. DDEDDFWRIAETH CYMRU
Cyflwyniad
37IArgraffydd y Brenin ar gyfer Cymru
Mae Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin i arfer y swyddogaethau a roddir gan y Rhan hon i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru mewn cysylltiad â Deddfau Senedd Cymru, offerynnau statudol Cymreig a dogfennau cysylltiedig.
Cadw a chyhoeddi Deddfau Senedd Cymru
37JRhifo Deddfau Senedd Cymru
(1)
Mae Deddfau Senedd Cymru i’w rhifo mewn perthynas â phob blwyddyn galendr—
(a)
yn olynol (gan ddechrau â rhif 1),
(b)
yn y drefn, yn ystod y flwyddyn honno, y cafodd y Bil ar gyfer pob Deddf y Cydsyniad Brenhinol, ac
(c)
gan ddefnyddio’r rhagddodiad “dsc”.
(2)
Yn unol â hynny, ar bob copi o Ddeddf gan Senedd Cymru y mae Clerc y Senedd yn ysgrifennu dyddiad Cydsyniad Brenhinol y Ddeddf honno arno (yn unol ag adran 115(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), rhaid i’r Clerc ysgrifennu hefyd—
(a)
y flwyddyn galendr y cafodd y Bil ar gyfer y Ddeddf honno y Cydsyniad Brenhinol ynddi, a
(b)
y rhagddodiad a rhif y Ddeddf honno.
(3)
Mae’r flwyddyn galendr, y rhagddodiad a’r rhif sydd wedi eu hysgrifennu ar y copi o’r Ddeddf yn ffurfio rhan o’r Ddeddf.
37KPrintiau swyddogol a chopïau ardystiedig o Ddeddfau Senedd Cymru
(1)
Mae’r copi o Ddeddf gan Senedd Cymru y mae Clerc y Senedd yn ysgrifennu dyddiad y Cydsyniad Brenhinol, y flwyddyn galendr, y rhagddodiad a’r rhif arno i’w alw y “print swyddogol” o’r Ddeddf.
(2)
Rhaid i Glerc y Senedd—
(a)
gwneud copi o’r print swyddogol a’i ardystio’n gopi gwir, a
(b)
anfon—
(i)
y print swyddogol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a
(ii)
y copi ardystiedig o’r print swyddogol at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.
(3)
Caiff y copi ardystiedig o’r print swyddogol o Ddeddf fod ar ffurf electronig.
37LCadw Deddfau Senedd Cymru
Rhaid i Lyfrgell Genedlaethol Cymru sicrhau bod print swyddogol o Ddeddf gan Senedd Cymru sy’n dod i’w llaw—
(a)
yn cael ei gadw, a
(b)
ar gael i’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol.
37MCyhoeddi Deddfau Senedd Cymru
(1)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi’r copi ardystiedig o’r print swyddogol o Ddeddf gan Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo ddod i’w law.
(2)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd gyhoeddi, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddi ddod i’w law, unrhyw ddogfen sy’n gysylltiedig â’r copi ardystiedig o’r print swyddogol o Ddeddf gan Senedd Cymru—
(a)
y mae Clerc y Senedd yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei chyhoeddi;
(b)
y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei chyhoeddi.
(3)
Yn yr adran hon, mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein (ond gweler hefyd adran 37Y mewn perthynas â gwerthu copïau print).
Cadw a chyhoeddi offerynnau statudol Cymreig
37NFersiynau swyddogol a chopïau ardystiedig o offerynnau statudol Cymreig
(1)
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i offeryn statudol Cymreig gael ei wneud, rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud copi ardystiedig o’r offeryn a’i anfon—
(a)
i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a
(b)
at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.
(2)
Wrth anfon copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn unol ag is-adran (1)(b), rhaid i’r awdurdod cyfrifol hefyd ddarparu’r wybodaeth a ganlyn—
(a)
y dyddiad y gwnaed yr offeryn;
(b)
y dyddiad neu’r dyddiadau y daw’r offeryn i rym, neu ddisgrifiad o’r ffordd y mae i ddod i rym;
(c)
y pennawd pwnc neu’r penawdau pwnc y mae’r awdurdod cyfrifol wedi ei roi neu eu rhoi i’r offeryn ar sail ei bwnc;
(d)
y weithdrefn yn y Senedd (gweler Rhan 2A) y mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn yn ddarostyngedig iddi.
(3)
O ran copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig—
(a)
mae’n gopi o’r offeryn hwnnw sydd wedi ei ardystio’n gopi gwir gan yr awdurdod cyfrifol, a
(b)
caiff fod ar ffurf electronig.
(4)
Nid yw’r gofyniad i anfon copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn gymwys i offeryn sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol.
37OCadw offerynnau statudol Cymreig
Rhaid i Lyfrgell Genedlaethol Cymru sicrhau bod copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig sy’n dod i’w llaw gan awdurdod cyfrifol—
(a)
yn cael ei gadw, a
(b)
ar gael i’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol.
37PRhifo a dosbarthu offerynnau statudol Cymreig
(1)
Mae offerynnau statudol Cymreig i’w—
(a)
dyrannu i’r gyfres o offerynnau statudol Cymreig ar gyfer y flwyddyn galendr y’u gwneir ynddi;
(b)
rhifo o fewn y gyfres honno—
(i)
yn olynol (gan ddechrau â rhif 1), a
(ii)
cyn agosed ag y bo modd at y drefn y deuant i law.
(2)
Yn unol â hynny, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i gopi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig ddod i’w law, rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru—
(a)
dyrannu’r offeryn a’i rifo yn unol ag is-adran (1), a
(b)
cadarnhau’r pennawd pwnc neu’r penawdau pwnc a roddwyd i’r offeryn gan yr awdurdod cyfrifol.
(3)
Wrth roi rhif i offeryn statudol Cymreig yn unol ag is-adran (2), caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru roi is-rif pellach i’r offeryn (o fewn y gyfres y mae’r offeryn wedi ei ddyrannu iddi).
37QCyhoeddi offerynnau statudol Cymreig
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r canlynol wedi dod i law Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru—
(a)
copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig a anfonwyd yn unol ag adran 37N(1), a
(b)
yr wybodaeth y cyfeirir ati yn adran 37N(2) sy’n ymwneud â’r offeryn.
(2)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, gyhoeddi’r offeryn ar y ffurf a ddangosir yn y copi ardystiedig ac, wrth wneud hynny, ymgorffori’r materion a ganlyn—
(a)
y pennawd cyfres “OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU”;
(b)
blwyddyn galendr y gyfres o offerynnau statudol Cymreig y mae’r offeryn wedi ei ddyrannu iddi yn unol ag adran 37P(1)(a), ac wedyn “Rhif” a’r rhif a roddwyd iddo yn unol ag adran 37P(1)(b) (er enghraifft, “2026 Rhif 1”);
(c)
pennawd pwnc neu benawdau pwnc yr offeryn a gadarnhawyd o dan adran 37P(2)(b);
(d)
datganiad yn dangos y dyddiad y gwnaed yr offeryn;
(e)
ac eithrio yn achos offeryn nad yw ond yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phryd y mae deddfiad arall i ddod i rym, ddatganiad yn dangos y dyddiad neu’r dyddiadau y daw’r offeryn i rym neu’n disgrifio’r ffordd y mae’r offeryn i ddod i rym.
(3)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd gyhoeddi, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddi ddod i’w law, unrhyw ddogfen sy’n gysylltiedig â chopi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig y mae’r awdurdod cyfrifol yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei chyhoeddi.
(4)
Yn yr adran hon, mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein (ond gweler hefyd adran 37Y mewn perthynas â gwerthu copïau print).
37RCyhoeddi offerynnau statudol Cymreig sy’n ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo offeryn statudol Cymreig yn cynnwys is-ddeddfwriaeth sy’n cael effaith yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd (gweler adran 37D o ran hynny).
(2)
Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru—
(a)
bod yr offeryn wedi ei gadarnhau gan Senedd Cymru neu wedi peidio â chael effaith am na chafodd ei gadarnhau (yn ôl y digwydd), a
(b)
am y dyddiad y digwyddodd hynny.
(3)
Pan fo Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru wedi ei hysbysu bod offeryn statudol Cymreig wedi ei gadarnhau gan Senedd Cymru, wrth gyhoeddi’r offeryn rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ymgorffori (yn ychwanegol at y materion a grybwyllir yn adran 37Q(2)) ddatganiad yn dangos bod yr offeryn wedi ei gadarnhau.
37SAchos am drosedd o dan offeryn statudol Cymreig nas cyhoeddwyd: amddiffyniad
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i achos yn erbyn person am drosedd sy’n doriad o ddarpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn statudol Cymreig.
(2)
Mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd yr offeryn wedi ei gyhoeddi gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn unol ag adran 37Q ar ddyddiad y toriad honedig.
(3)
Ond nid yw’r amddiffyniad hwn ar gael os profir bod camau rhesymol eraill wedi eu cymryd cyn y dyddiad hwnnw, gan yr awdurdod cyfrifol neu ar ei ran, i ddwyn y drosedd i sylw—
(a)
y cyhoedd,
(b)
personau y byddai’r drosedd yn debygol o effeithio arnynt, neu
(c)
y person a gyhuddwyd.
(4)
Nid yw is-adrannau (2) na (3) yn effeithio ar unrhyw ddeddfiad nac unrhyw reol gyfreithiol sy’n ymwneud â’r adeg pan ddaw unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol Cymreig i rym.
37TOfferynnau statudol Cymreig drafft
(1)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo ddod i’w law, gopi ardystiedig o ddrafft o offeryn statudol Cymreig y mae’r awdurdod cyfrifol yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei gyhoeddi.
(2)
O ran copi ardystiedig o ddrafft o offeryn statudol Cymreig—
(a)
mae’n gopi o’r drafft hwnnw sydd wedi ei ardystio’n gopi gwir gan yr awdurdod cyfrifol, a
(b)
caiff fod ar ffurf electronig.
(3)
Yn yr adran hon—
(a)
mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein (ond gweler hefyd adran 37Y mewn perthynas â gwerthu copïau print);
(b)
ystyr “yr awdurdod cyfrifol” yw’r person a fyddai’r awdurdod cyfrifol pe bai’r offeryn statudol Cymreig yn cael ei wneud.
Cyhoeddi deddfwriaeth Cymru ar ei ffurf gyfredol
37UCyhoeddi effeithiau deddfwriaeth
(1)
Pan fo Deddf gan Senedd Cymru neu offeryn statudol Cymreig yn cynnwys un neu ragor o ddarpariaethau sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiadau, rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru lunio a chyhoeddi tabl yn dangos effeithiau’r Ddeddf neu’r offeryn ar y deddfiadau hynny.
(2)
Rhaid cyhoeddi tabl yn ymwneud â Deddf gan Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r copi ardystiedig o’r print swyddogol o’r Ddeddf gael ei gyhoeddi o dan adran 37M.
(3)
Rhaid cyhoeddi tabl yn ymwneud ag offeryn statudol Cymreig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei gyhoeddi o dan adran 37Q.
(4)
Yn yr adran hon mae gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein.
37VCyhoeddi deddfwriaeth Cymru fel y’i diwygiwyd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn diwygio deddfwriaeth Cymru.
(2)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi’r ddeddfwriaeth fel y mae wedi ei diwygio.
(3)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, i’r graddau y mae’n ymarferol, gyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (2) o’r adeg pan ddaw diwygiad i rym.
(4)
Pan nad yw diwygiad wedi dod i rym eto, caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd gyhoeddi’r ddeddfwriaeth fel y caiff ei diwygio, os yw’n nodi’n glir nad yw’r diwygiad wedi dod i rym eto.
(5)
Yn yr adran hon—
(a)
mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein;
(b)
ystyr “deddfwriaeth Cymru” yw—
(i)
Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru;
(ii)
offeryn statudol Cymreig.
Cofnod deddfwriaeth
37WCofnod o ddeddfwriaeth Cymru
(1)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gadw a chyhoeddi cofnod sy’n cynnwys—
(a)
yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2) am bob Deddf gan Senedd Cymru a gyhoeddir o dan adran 37M;
(b)
yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (3) am bob offeryn statudol Cymreig a gyhoeddir o dan adran 37Q.
(2)
Yr wybodaeth (mewn perthynas â Deddfau Senedd Cymru) yw—
(a)
yr enw;
(b)
y flwyddyn galendr y cafodd y Cydsyniad Brenhinol;
(c)
y rhagddodiad a’r rhif a ysgrifennwyd ar y Ddeddf yn unol ag adran 37J;
(d)
y dyddiad y cyhoeddwyd y copi ardystiedig o’r print swyddogol o’r Ddeddf.
(3)
Yr wybodaeth (mewn perthynas ag offerynnau statudol Cymreig) yw—
(a)
yr enw;
(b)
y flwyddyn galendr y’i gwnaed;
(c)
y rhif a roddwyd iddo o dan adran 37P(2);
(d)
y dyddiad y cyhoeddwyd yr offeryn.
(4)
Yn yr adran hon mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein.
37XStatws tystiolaethol y cofnod
Mewn unrhyw achos cyfreithiol mae’r dyddiad yn y cofnod a gyhoeddir yn unol ag adran 37W mewn cysylltiad ag offeryn statudol Cymreig i’w drin fel tystiolaeth derfynol o’r dyddiad y cyhoeddwyd yr offeryn am y tro cyntaf gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.
Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru: argraffu a gwerthu
37YArgraffu a gwerthu deddfwriaeth Cymru a dogfennau cysylltiedig
(1)
Caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru argraffu a gwerthu copïau o unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a ganlyn—
(a)
Mesur Cynulliad;
(b)
Deddf gan Senedd Cymru;
(c)
offeryn statudol Cymreig;
(d)
drafft o offeryn statudol Cymreig;
(e)
nodiadau esboniadol ar gyfer Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru;
(f)
unrhyw ddogfen arall sy’n gysylltiedig â Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru, os yw Clerc y Senedd neu Weinidogion Cymru wedi gofyn am gyhoeddi’r ddogfen;
(g)
unrhyw ddogfen sy’n gysylltiedig ag offeryn statudol Cymreig, os yw’r awdurdod cyfrifol wedi gofyn am gyhoeddi’r ddogfen.
(2)
Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys pan ddaw cais i law Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gan unrhyw berson am gopi print o unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a ganlyn—
(a)
Mesur Cynulliad;
(b)
Deddf gan Senedd Cymru;
(c)
offeryn statudol Cymreig, heblaw offeryn sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol;
(d)
nodiadau esboniadol ar gyfer Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru, os yw Clerc y Senedd neu Weinidogion Cymru wedi gofyn am eu cyhoeddi.
(3)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru argraffu copi o’r ddogfen a’i anfon i’r cyfeiriad a bennir gan y person a wnaeth y cais.
(4)
Ond caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru osod tâl am argraffu ac anfon copi o ddogfen yn unol ag is-adran (2), ac nid oes rhaid iddo argraffu ac anfon copi o’r ddogfen hyd nes bod y tâl wedi ei dalu.
Cyhoeddi is-ddeddfwriaeth nas gwneir drwy offeryn statudol Cymreig
37ZGweinidogion Cymru i gyhoeddi is-ddeddfwriaeth nas gweir drwy offeryn statudol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i is-offeryn Cymreig, o fewn yr ystyr a roddir gan adran 3(2), nad yw ond yn cynnwys is-ddeddfwriaeth—
(a)
a wneir gan Weinidogion Cymru, a
(b)
nad yw’n ofynnol ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig (ac o ganlyniad nad yw’n ddarostyngedig i’r gofynion sy’n gymwys i offeryn o’r fath o dan y Rhan hon).
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi penderfyniad ynghylch rhifo a dosbarthu offerynnau statudol Cymreig y mae’r adran hon yn gymwys iddynt.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud offeryn o’r fath—
(a)
dyrannu rhif a blwyddyn i’r offeryn yn unol â’r penderfyniad,
(b)
dosbarthu’r offeryn yn unol â phwnc yr offeryn neu unrhyw fater arall y cyfeirir ato yn y penderfyniad, ac
(c)
cyhoeddi’r offeryn ar-lein.
Cyffredinol
37Z1Cyfeiriadau at offerynnau statudol Cymreig
Caniateir cyfeirio at offeryn statudol Cymreig—
(a)
yn ôl ei enw yn Gymraeg neu Saesneg (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r enw mewn grym ai peidio), neu
(b)
yn ôl y rhagddodiad “O.S.C.” a’i flwyddyn a rhif (er enghraifft “O.S.C. 2026/1”), pan mai—
(i)
y flwyddyn yw blwyddyn galendr y gyfres o offerynnau statudol Cymreig y dyrannwyd yr offeryn iddi yn unol ag adran 37P(1)(a);
(ii)
y rhif yw’r rhif a roddwyd i’r offeryn yn unol ag adran 37P(1)(b).
37Z2Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru: dirprwyo swyddogaethau
(1)
Caniateir i swyddogaeth a roddir i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru o dan y Rhan hon gael ei chyflawni ar ran Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gan berson arall sydd wedi ei awdurdodi gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.
(2)
Pan fo swyddogaeth yn cael ei chyflawni gan berson arall yn rhinwedd is-adran (1)—
(a)
mae Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflawni’r swyddogaeth, a
(b)
mae unrhyw beth a wneir gan y person sydd wedi ei awdurdodi o dan yr is-adran honno yn unol â’r awdurdodiad i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.”
RHAN 3DIDDYMIADAU I DDEDDFWRIAETH CYMRU
4Diddymiadau a diwygiadau cysylltiedig
Mae Atodlen 1 yn cynnwys—
(a)
diddymiadau i ddeddfiadau penodol (gan gynnwys drwy ddiwygio’r deddfiadau hynny i’w datgymhwyso o ran Cymru) nad ydynt o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd mwyach;
(b)
darpariaeth mewn cysylltiad â’r diddymiadau hynny.
RHAN 4CYFFREDINOL
5Craffu ar ôl deddfu
“42AAdolygu Rhannau 2A a 2B o’r Ddeddf hon
(1)
Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol adolygu gweithrediad ac effaith Rhannau 2A a 2B.
(2)
Rhaid i’r adolygiad gael ei gynnal yn ystod y cyfnod—
(a)
sy’n dechrau ddwy flynedd ar ôl y diwrnod y daw’r Rhannau hynny i rym, a
(b)
sy’n dod i ben heb fod yn hwyrach na thair blynedd ar ôl y diwrnod hwnnw.
(3)
Fel rhan o’r adolygiad, rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol ymgynghori â’r Llywydd a Chlerc y Senedd, ac unrhyw berson arall y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn ei ystyried yn briodol.
(4)
Rhaid i’r adroddiad blynyddol nesaf a lunnir gan y Cwnsler Cyffredinol o dan adran 2(7) ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau gynnwys—
(a)
gwybodaeth am y materion a ystyriwyd fel rhan o’r adolygiad, a
(b)
casgliadau’r Cwnsler Cyffredinol.”
6Gweithgareddau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru
“(e)
datrys unrhyw amwysedd, a chywiro unrhyw wallau, yng nghyfraith Cymru.”
7Mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019
Mae Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).
8Diwygiadau canlyniadol
Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y Ddeddf hon.
9Dod i rym
(1)
Daw’r adran hon ac adran 10 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
adran 2, ac eithrio bod y cyfeiriadau at “offeryn statudol Cymreig” yn y testun a fewnosodir gan is-adrannau (1) a (2) i’w darllen fel “offeryn statudol” hyd nes y daw Rhan 2A o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 i rym;
(b)
adran 4;
(c)
adran 7;
(d)
Atodlen 1;
(e)
Atodlen 2.
(3)
Ond os nad yw paragraff 29(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 (p. 55) (diwygio adran 1(1) o Ddeddf Cynllunio ac Ynni 2008 (p. 21)) mewn grym ar ddiwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2), daw paragraff 22(2)(a)(i) o Atodlen 1 i rym pan ddaw paragraff 29(2) o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno i rym.
(4)
Daw’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod (neu ddiwrnodau) a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(5)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (4) gynnwys darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed.
10Enw byr
Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—
(a)
Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025, neu
(b)
the Legislation (Procedure, Publication and Repeals) (Wales) Act 2025.
ATODLEN 1DIDDYMIADAU A DIWYGIADAU CYSYLLTIEDIG
RHAN 1BYRDDAU DATBLYGU GWLEDIG
Deddf Amaethyddiaeth 1967 (p. 22)
1
(1)
Mae Deddf Amaethyddiaeth 1967 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 45 (Byrddau Datblygu Gwledig)—
(a)
yn is-adran (1), ar ôl “any area” mewnosoder “, other than an area in Wales,”;
(b)
hepgorer is-adran (10).
(3)
Yn adran 46(3) (swyddogaethau Byrddau Datblygu Gwledig) hepgorer y geiriau o “, and, in relation to Wales,” hyd at y diwedd.
(4)
Yn adran 49(8) (rheoli gwerthu tir penodol), ym mharagraff (i) o’r diffiniad o “appropriate tribunal” hepgorer “and Wales”.
(5)
Yn adran 50(3)(g) (rheoli gwerthu tir: eithriadau) hepgorer “, the Natural Resources Body for Wales”.
(6)
Yn adran 51, hepgorer is-adran (8) (cynlluniau ad-drefnu neu gyfuno: ystyr “appropriate Minister”).
(7)
Yn adran 52, hepgorer is-adran (16) (apelau: ystyr “appropriate Minister”).
(8)
Yn adran 54, hepgorer is-adran (5) (cyfarwyddydau: ystyr “appropriate Minister”).
(9)
Yn adran 57(1) (dehongli Rhan 3), yn y diffiniad o “appropriate forestry authority” hepgorer “and the Natural Resources Body for Wales in relation to Wales”.
(10)
Yn adran 75(2) (dehongli), yn y diffiniad o “local authority” hepgorer “, in Wales, the council of a county or county borough”.
Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)
2
Yn Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraff 30 a’r pennawd italig o’i flaen.
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
3
Yn Atodlen 3A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (swyddogaethau Gweinidogion y Goron etc. sy’n arferadwy yn gydredol neu ar y cyd â Gweinidogion Cymru), yn y tabl ym mharagraff 1(2), hepgorer y cofnod ar gyfer Deddf Amaethyddiaeth 1967.
RHAN 2ARDALOEDD PARTHAU MENTER
Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p. 65)
4
(1)
Mae Atodlen 32 i Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (parthau menter) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff 1 (gwahoddiad i lunio cynllun)—
(a)
yn is-baragraff (1)—
(i)
hepgorer “and Wales”;
(ii)
hepgorer paragraff (aa);
(b)
yn is-baragraff (3), hepgorer “county, county borough”.
(3)
Ym mharagraff 2(2)(a) (cynllun drafft) hepgorer is-baragraff (iia) (ond nid yr “and” ar ei ôl).
(4)
Ym mharagraff 7(2) (hawl mynediad) hepgorer “and Wales”.
Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)
5
(a)
hepgorer paragraffau (a) a (b), a’r “and” ar eu holau;
(b)
ym mharagraff (c), hepgorer y geiriau o “and after” hyd at y diwedd.
Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dccc 6)
6
Yn adran 39(4) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dehongli), hepgorer y geiriau o “, ac mae unrhyw gyfeiriad” hyd at y diwedd.
RHAN 3YMDDIRIEDOLAETHAU GWEITHREDU TAI
Deddf Tai 1988 (p. 50)
7
(1)
Mae Rhan 3 o Ddeddf Tai 1988 (ardaloedd ymddiriedolaethau gweithredu tai) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 60(1) (ardaloedd ymddiriedolaethau gweithredu tai), ar ôl “land” mewnosoder “in England”.
(3)
Yn adran 61 (ymgynghori a chyhoeddusrwydd)—
(a)
hepgorer is-adran (1);
(b)
yn is-adran (2), hepgorer “or secure contract-holders or introductory standard contract-holders”;
(c)
hepgorer is-adran (6).
(4)
Yn adran 66(4) (rheolaeth gynllunio)—
(a)
ym mharagraff (a) hepgorer “Wales,”;
(b)
ym mharagraff (b) ar ôl “land” mewnosoder “in England”.
(5)
Yn adran 75(3) (darpariaeth atodol o ran gorchmynion trosglwyddo), hepgorer “, tenant who is a secure contract-holder or tenant who is an introductory standard contract-holder”.
(6)
Yn adran 79 (gwaredu tir)—
(a)
yn is-adran (2)—
(i)
hepgorer “, a tenancy which is a secure contract or a tenancy which is an introductory standard contract”;
(ii)
ar ddiwedd paragraff (za) mewnosoder “or”;
(iii)
hepgorer paragraff (a) a’r “or” ar ei ôl;
(b)
yn is-adran (5A) hepgorer “, tenancies which are secure contracts and tenancies which are introductory standard contracts”.
(7)
Yn adran 82 (cymorth cyfreithiol)—
(a)
yn is-adran (1)—
(i)
ym mharagraff (a) yn lle “, introductory tenant, secure contract holder or introductory standard contract-holder” rhodder “or the introductory tenant”;
(ii)
ym mharagraff (b) yn lle “, introductory tenant, secure contract-holder, or introductory standard contract-holder” rhodder “or the introductory tenant”;
(b)
yn is-adran (5), hepgorer paragraff (b), a’r “and” o’i flaen.
(8)
Yn adran 84 (darpariaethau sy’n gymwys i denantiaethau diogel etc.)—
(a)
yn is-adran (1)(a)—
(i)
yn lle “, introductory tenancies, tenancies which are secure contracts or tenancies which are introductory standard contracts” rhodder “or introductory tenancies”;
(ii)
yn lle “, an introductory tenant, a tenant who is a secure contract-holder or a tenant who is an introductory contract-holder” rhodder “or an introductory tenant”;
(b)
yn is-adran (4)—
(i)
hepgorer “the tenant who is the secure contract-holder, the tenant who is the introductory standard contract-holder,”;
(ii)
ym mharagraff (c) hepgorer “tenant who is a secure contract-holder, tenant who is an introductory contract-holder,”.
(9)
Yn adran 84A (trosglwyddo drwy orchymyn)—
(a)
yn is-adran (6) hepgorer “a tenancy which is a secure contract, a tenancy which is an introductory standard contract,”;
(b)
yn is-adran (7)(a) hepgorer “tenancies which are secure contracts or tenancies which are introductory standard contracts”.
(10)
Yn adran 85 (rhenti), hepgorer is-adran (3).
(11)
Yn adran 86(1) (cynyddu rhent), yn lle “an introductory tenancy, or an occupation contract” rhodder “or an introductory tenancy”.
(12)
Yn adran 92 (dehongli Rhan 3), hepgorer is-adran (1A).
(13)
“(3)
Any sums required by the Treasury for fulfilling a guarantee under this paragraph are to be charged on and issued out of the Consolidated Fund.”
Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10)
8
Yn adran 3(5C) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (awdurdodau sylweddau peryglus) hepgorer “or (5)”.
Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)
9
Yn Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, ym mharagraff 9—
(a)
hepgorer is-baragraff (1) (diwygio Rhan 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50));
(b)
yn is-baragraff (2), yn lle “that Act” rhodder “the Housing Act 1988”.
Deddf Tai 1996 (p. 52)
10
Yn Atodlen 3 i Ddeddf Tai 1996 (y sector rhentu cymdeithasol: mân ddiwygiadau), hepgorer paragraff 11.
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)
11
Yn Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 hepgorer paragraff 3 (ymddiriedolaethau gweithredu tai yng Nghymru).
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
12
Yn Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 hepgorer paragraff 33 (mewnosod paragraff 5(3) yn Atodlen 8 i Ddeddf Tai 1988) a’r pennawd italig o’i flaen.
Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p. 48)
13
Yn adran 53(9) o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 hepgorer paragraff (c) (mae “relevant Welsh landlord” yn cynnwys ymddiriedolaeth gweithredu tai).
Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12)
14
Yn adran 20(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (dehongli etc.), yn y diffiniad o “housing provider”, ar ddechrau paragraff (b) mewnosoder “in relation to England,”.
Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20)
15
Yn Atodlen 22 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 hepgorer paragraff 9 (dynodi ardaloedd ymddiriedolaethau gweithredu tai: ymgynghori o ran Cymru) a’r pennawd italig o’i flaen.
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1)
16
(1)
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 9(2) (landlordiaid cymunedol), hepgorer paragraff (c).
(3)
Yn adran 243 (ystyr “awdurdod lleol” etc.), hepgorer is-adran (4).
(4)
Yn adran 253 (mynegai), yn nhabl 2 hepgorer y cofnod ar gyfer ymddiriedolaeth gweithredu tai.
(5)
Yn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), ym mharagraff 7(2) hepgorer paragraff (c).
Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1)
17
Yn Atodlen 15 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017—
(a)
ym mharagraff 2(3) (gwerthiannau â disgownt gan gyrff sector cyhoeddus), hepgorer paragraff (e);
(b)
ym mharagraff 9(3) (cyrff sy’n rhoi lesoedd rhanberchnogaeth), hepgorer paragraff (c);
(c)
ym mharagraff 10(8) (buddiolwyr ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth), hepgorer paragraff (c);
(d)
ym mharagraff 19(3) (gwerthiannau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig), yn y diffiniad o “corff cymwys”, hepgorer paragraff (b).
RHAN 4CYNLLUNIAU LLEOL, CYNLLUNIAU STRWYTHUR A CHYNLLUNIAU DATBLYGU UNEDOL
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8)
18
Yn Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, hepgorer Rhan 1A (cynlluniau datblygu: darpariaethau trosiannol o ran Cymru).
Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)
19
(1)
Mae Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 20 (cynlluniau datblygu unedol a Pharciau Cenedlaethol) hepgorer is-adrannau (2) a (3)(b) ac (c).
(3)
Yn Atodlen 5 (cynlluniau datblygu unedol yng Nghymru), hepgorer Rhannau 2 a 3.
(4)
Yn Atodlen 17 (darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol), hepgorer paragraffau 16 a 17.
Deddf Cynllunio 2008 (p. 29)
20
(1)
Mae Deddf Cynllunio 2008 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Hepgorer adran 186 (pŵer yr Uchel Lys i anfon yn ôl gynlluniau datblygu unedol yng Nghymru).
(3)
Yn adran 204 (Cymru: darpariaeth drosiannol mewn perthynas â thir o dan falltod)—
(a)
yn is-adran (1), yn lle “1 to” rhodder “3 and”;
(b)
yn is-adran (2), hepgorer “1, 2,”;
(c)
yn is-adran (3)—
(i)
hepgorer paragraffau (a) a (b);
(ii)
ym mharagraff (c), hepgorer “in the case of land falling within paragraphs 3 or 4 of Schedule 13 to TCPA 1990,”;
(d)
yn is-adran (5), yn lle “1 to” rhodder “3 and”.
(4)
Yn adran 241 (cychwyn), yn is-adran (5)—
(a)
yn lle “Section 186 and the” rhodder “The”;
(b)
yn lle “come” rhodder “comes”.
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 (O.S. 2005/2847)
21
Yn Atodlen 2 i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005, ar ôl “Part 2” mewnosoder “except section 28A”.
RHAN 5POLISÏAU YNNI MEWN CYNLLUNIAU DATBLYGU
Deddf Cynllunio ac Ynni 2008 (p. 21)
22
(1)
Mae Deddf Cynllunio ac Ynni 2008 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 1 (polisïau ynni)—
(a)
yn is-adran (1)—
(i)
yn yr is-adran honno fel y’i diwygiwyd gan baragraff 29(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 (p. 55), yn lle “supplementary plan,” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “supplementary plan and”;
(ii)
hepgorer “, a corporate joint committee may in their strategic development plan, and a local planning authority in Wales may in their local development plan,”;
(b)
yn is-adran (2), yn y diffiniad o “energy efficiency standards”, yn lle “appropriate national authority” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Secretary of State”;
(c)
hepgorer is-adran (3);
(d)
yn is-adran (4)—
(i)
yn lle “(5) to (7)” rhodder “(5) and (7)”;
(ii)
hepgorer paragraffau (aa) a (b);
(e)
hepgorer is-adran (6).
(3)
Yn adran 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “corporate joint committee”.
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4)
23
Yn Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, hepgorer paragraffau 30 a 31 (diwygio adran 1 o Ddeddf Cynllunio ac Ynni 2008) a’r pennawd italig o’u blaenau.
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)
24
(1)
Mae Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (cyd-bwyllgorau corfforedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Hepgorer paragraff 12(f) (diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4)).
(3)
Hepgorer paragraffau 40 ac 41(a) (diwygio Deddf Cynllunio ac Ynni 2008 (p. 21)).
RHAN 6Y DROSEDD O SYMUD YMAITH BRIDD HEB GYDSYNIAD
Deddf Tir Amaethyddol (Symud Ymaith Bridd Arwyneb) 1953 (p. 10)
25
“(4)
The reference in subsection (1) of this section to agricultural land does not include agricultural land in Wales.”
RHAN 7MESUR DIOGELWCH TÂN DOMESTIG (CYMRU) 2011
Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (mccc 3)
26
Mae Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 wedi ei ddiddymu.
RHAN 8AD-DREFNU LLYWODRAETH LEOL
Pwyllgorau gwasanaethau cymdeithasol
27
Yn adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (cyflawni swyddogaethau), hepgorer is-adran (10A).
28
Yn Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972), hepgorer paragraff 26.
Y Corff Gweddilliol a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)
29
(1)
Mae Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 25 (un prif gyngor newydd yn darparu gwasanaethau ar gyfer un arall), hepgorer is-adran (9).
(3)
Yn Rhan 5 (ad-drefnu llywodraeth leol Cymru: materion gweddilliol a staff)—
(a)
hepgorer adran 39 (the Residuary Body for Wales neu Gorff Gweddilliol Cymru);
(b)
yn adran 42(3) (trosglwyddo staff), hepgorer “or the Residuary Body”;
(c)
yn adran 43(1)(a) (digollediad am golli swydd etc.), yn lle “, a new principal council or the Residuary Body”, rhodder “or a new principal council”;
(d)
yn adran 44(2) (taliadau dileu swydd)—
(i)
ym mharagraff (a)(ii), hepgorer “or to the Residuary Body”;
(ii)
ym mharagraff (b), hepgorer is-baragraff (ii) a’r “or” o’i flaen;
(e)
hepgorer Atodlen 13 (darpariaeth bellach yn ymwneud â’r Corff Gweddilliol).
(4)
Yn Rhan 6 (darpariaethau trosiannol), yn adran 54(2)(c) (pŵer i wneud darpariaeth atodol)—
(a)
hepgorer “or the Residuary Body”;
(b)
hepgorer “or to the Residuary Body”.
(5)
Yn Rhan 7 (amrywiol ac atodol), yn adran 64(1) (dehongli) hepgorer y diffiniad o “the Residuary Body”.
(6)
Yn Atodlen 17 (arbedion a darpariaethau trosiannol), ym mharagraff 12(4)(a) hepgorer “or of the Residuary Body”.
30
Yn adran 14(1) o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (buddiant landlord sy’n eiddo i awdurdod lleol etc.), hepgorer paragraff (i).
31
Yn adran 33(9) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p. 30) (y gallu i orfodi cyfamodau penodol sy’n ymwneud â thir)—
(a)
ym mharagraff (a) hepgorer “the Residuary Body for Wales (Corff Gweddilliol Cymru),”;
(b)
ym mharagraff (b) hepgorer “in relation to the Residuary Body for Wales (Corff Gweddilliol Cymru) means Wales”.
32
Yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (tenantiaethau na allant fod yn denantiaethau sicr), ym mharagraff 12(1), hepgorer paragraff (gg).
33
Yn adran 252(12) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (y weithdrefn ar gyfer gwneud gorchmynion), yn y diffiniad o “local authority”, hepgorer “, the Residuary Body for Wales (Corff Gweddilliol Cymru)”.
34
Yn adran 19(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) (eithriad i esemptiad y Goron), hepgorer paragraff (g).
35
Yn adran 79(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (dehongli Rhan 3), yn y diffiniad o “public authority”—
(a)
ar ôl “Local Government Act 1992,” mewnosoder “or”;
(b)
hepgorer y geiriau o “, any joint authority established under section 34” hyd at y diwedd.
36
Yn Atodlen 18 i Ddeddf Tai 1996 (p. 52), hepgorer paragraff 30 (diwygio Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)).
37
Yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), hepgorer adran 150 (diddymu Corff Gweddilliol Cymru).
Darpariaeth drosiannol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)
38
Yn Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (darpariaethau trosiannol) hepgorer—
(a)
adran 46 (pwyllgorau o gynghorau presennol i ystyried materion penodol);
(b)
adran 48 (grwpiau o gymunedau);
(c)
adran 51 (rheoli gwarediadau a chontractau);
(d)
adran 52 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 (p. 9) yn ystod y cyfnod trosiannol);
(e)
adran 56 (cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid).
39
Yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraff 57.
Cynlluniau datganoli a chydweithio o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994
40
(1)
Mae Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Hepgorer Rhan 3 (cynlluniau datganoli (sy’n ymwneud â phwyllgorau ardal) a chydweithio).
(3)
Yn adran 64(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “decentralisation scheme”.
41
Yn Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau 123 a 124 (diwygio Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) a’r pennawd italig o’u blaenau.
RHAN 9DATGANIADAU O ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG
Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 (p. 33)
42
Yn adran 5 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 (asesu anghenion yn dilyn hysbysiad bod personau anabl yn gadael addysg)—
(a)
yn is-adran (1)(a), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;
(b)
yn is-adran (2)—
(i)
ym mharagraff (a), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;
(ii)
ym mharagraff (b), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;
(c)
yn is-adran (9)—
(i)
yn y diffiniad o “prescribed”, ar ôl “made” mewnosoder “by the Secretary of State;”;
(ii)
yn y diffiniad hwnnw, hepgorer paragraffau (a) a (b);
(iii)
yn y diffiniad o “the responsible authority”, ym mharagraff (c) hepgorer “or the National Assembly for Wales”;
(iv)
yn y paragraff hwnnw hepgorer “or the National Assembly as the case may be”;
(d)
yn is-adran (10), hepgorer “and Wales”;
(e)
yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.
Deddf Addysg 1996 (p. 56)
43
Yn Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (diwygiadau canlyniadol), ym mharagraff 64 hepgorer is-baragraff (3).
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)
44
Yn Atodlen 2 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (ystyr “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol”), yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986, yn y golofn gyntaf, yn lle “, 2 a 5(5)” rhodder “a 2”.
RHAN 10BYRDDAU CYNLLUNIO PARCIAU CENEDLAETHOL
Deddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25)
45
(1)
Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 64 hepgorer is-adrannau (1) i (7) a (9) (awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru).
(3)
Yn adran 65 hepgorer is-adran (4) (awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru: swyddogaethau).
(4)
Yn adran 75(2) (gorchmynion)—
(a)
hepgorer “, except in the case of a statutory instrument made by virtue of section 64 above which only—”;
(b)
hepgorer paragraffau (a) i (e).
(5)
Yn adran 79(1) (dehongli), ym mharagraff (a) o’r diffiniad o “existing authority”, hepgorer “or constituted by an order under paragraph 3A of that Schedule or section 2(1B) of the Town and Country Planning Act 1990”.
(6)
Yn Atodlen 7, ym mharagraff 14 (swyddog Parc Cenedlaethol)—
(a)
hepgorer is-baragraff (2)(b) a’r “or” o’i flaen;
(b)
hepgorer is-baragraff (4).
(7)
Yn Atodlen 10 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol yn ymwneud â Pharciau Cenedlaethol), ym mharagraff 30 hepgorer is-baragraffau (4) a (5).
(8)
Yn Atodlen 22 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(a)
hepgorer paragraff 42;
(b)
ym mharagraff 43, yn lle “that Act” rhodder “the Town and Country Planning Act 1990”.
(9)
Yn Atodlen 23 (darpariaethau trosiannol a darfodol ac arbedion), hepgorer—
(a)
paragraff 7 a’r pennawd italig o’i flaen;
(b)
paragraff 11;
(c)
paragraff 15 a’r pennawd italig o’i flaen.
RHAN 11AWDURDOD DATBLYGU CYMRU
Deddf Diwydiant 1979 (p. 32)
46
Mae Deddf Diwydiant 1979 wedi ei diddymu.
Deddf Diwydiant 1980 (p. 33)
47
(1)
Mae Deddf Diwydiant 1980 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Hepgorer adran 4 (cyfalaf difidend cyhoeddus).
(3)
Yn adran 5 (terfynau ariannol), hepgorer is-adran (1).
(4)
Hepgorer adran 6 (cyfyngiadau ar bwerau i gaffael cyfranddaliadau).
(5)
Yn adran 21 (darpariaeth drosiannol), hepgorer is-adran (2).
Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1997 (p. 37)
48
Mae Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1997 wedi ei diddymu.
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)
49
Yn Atodlen 14 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998—
(a)
yn Rhan 1 (diwygio Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (p. 70))—
(i)
hepgorer paragraffau 2 a 3 a’r penawdau italig o flaen y ddau ohonynt;
(ii)
hepgorer paragraff 5;
(iii)
hepgorer paragraffau 7 i 9 a’r penawdau italig o flaen pob un ohonynt;
(iv)
ym mharagraff 11, hepgorer is-baragraff (3);
(v)
hepgorer paragraff 12 a’r pennawd italig o’i flaen;
(b)
yn Rhan 2 (diwygio deddfiadau eraill)—
(i)
hepgorer paragraff 13 (diwygio Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960 (p. 67)), y pennawd italig o’i flaen a’r pennawd italig ar ei ôl;
(ii)
hepgorer paragraffau 17 ac 20 (diwygio Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67)).
RHAN 12BWRDD DATBLYGU CYMRU WLEDIG
Deddf Datblygu Cymru Wledig 1976 (p. 75)
50
Mae Deddf Datblygu Cymru Wledig 1976 wedi ei diddymu.
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)
51
(1)
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Hepgorer y darpariaethau a ganlyn (Bwrdd Datblygu Cymru Wledig yn dod i ben a darpariaethau cysylltiedig)—
(a)
yn adran 129, is-adran (1);
(b)
yn adran 130, is-adrannau (1) a (3) i (5);
(c)
yn adran 131, is-adrannau (2) i (4);
(d)
adran 133.
(3)
Yn adran 154 (gorchmynion a chyfarwyddydau)—
(a)
yn is-adran (3)(b), hepgorer “133(3),”;
(b)
yn is-adran (6)(a), hepgorer “130(4), 133(3),”.
(4)
Yn Atodlen 14, hepgorer paragraff 15 (diwygio Deddf Datblygu Cymru Wledig 1976 (p. 75)) a’r pennawd italig o’i flaen.
(5)
Yn Atodlen 15, hepgorer paragraff 2 (diwygio Deddf y Comisiynydd Seneddol 1967 (p. 13)).
RHAN 13AWDURDOD TIR CYMRU
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)
52
(1)
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Hepgorer y darpariaethau a ganlyn (Awdurdod Tir Cymru yn dod i ben)—
(a)
adran 134;
(b)
yn adran 135, is-adran (1);
(c)
yn adran 136, is-adrannau (1) a (3) i (5);
(d)
adran 139.
(3)
Yn adran 137 (darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud ag Awdurdod Tir Cymru yn dod i ben)—
(a)
yn is-adran (1), hepgorer “134 or”;
(b)
hepgorer is-adrannau (2) i (4).
(4)
Yn adran 154 (gorchmynion a chyfarwyddydau)—
(a)
yn is-adran (3)(b), hepgorer “139(3),”;
(b)
yn is-adran (6)(a), hepgorer “136(4), 139(3),”.
RHAN 14DIWYGIO ATODLEN 9 I DDEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69)
53
Yn Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (anifeiliaid a phlanhigion y mae adran 14 yn gymwys iddynt)—
(a)
yn Rhan 1 (anifeiliaid estron sydd wedi ymsefydlu yn y gwyllt)—
(i)
yn y golofn gyntaf (common name) hepgorer “Flatworm, New Zealand” a’r ddarpariaeth gyfatebol “Artiposthia triangulata” yn yr ail golofn (scientific name);
(ii)
yn y golofn gyntaf (common name) hepgorer “Pumpkinseed (otherwise known as Sun-fish or Pond-perch)” a’r ddarpariaeth gyfatebol “Lepomis gibbosus” yn yr ail golofn (scientific name);
(b)
yn Rhan 2 (planhigion), yn y golofn gyntaf (common name) hepgorer “Salvinia, Giant” a’r ddarpariaeth gyfatebol “Salvinia molesta” yn yr ail golofn (scientific name).
RHAN 15HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS SYDD HEB EU COFNODI
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37)
54
(1)
Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 53 (diddymu hawliau tramwy sydd heb eu cofnodi)—
(a)
yn is-adran (1), ar ôl “applies to a highway” mewnosoder “in England”;
(b)
yn is-adran (3), ar ôl “public right of way” mewnosoder “over land in England”;
(c)
yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.
(3)
Yn adran 54 (priffyrdd a hawliau tramwy a eithrir)—
(a)
yn is-adran (1)(d), yn lle’r geiriau o “made” hyd at “National Assembly for Wales” rhodder “made by the Secretary of State”;
(b)
yn is-adran (5)(c), yn lle’r geiriau o “made” hyd at “National Assembly for Wales” rhodder “made by the Secretary of State”;
(c)
yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.
(4)
Yn adran 55 (hawliau llwybrau ceffylau)—
(a)
yn is-adran (1), ar ôl “over any way” mewnosoder “in England”;
(b)
yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.
(5)
Yn adran 56 (terfyn amser ar gyfer diddymu etc.)—
(a)
yn is-adran (2)—
(i)
hepgorer y geiriau o “(as respects England)” hyd at “(as respects Wales)”;
(ii)
ym mharagraff (b) hepgorer “or the National Assembly for Wales (as the case may be)”;
(b)
yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.
55
Ym mharagraff 4 o Atodlen 5 (mapiau a datganiadau diffiniol a chilffyrdd cyfyngedig), yn yr adran 54A a fewnosodir yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) (cilffyrdd sy’n agored i bob traffig i beidio â chael eu hychwanegu at fap diffiniol)—
(a)
yn is-adran (1), ar ôl “any way” mewnosoder “in England”;
(b)
yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.
RHAN 16DIWYGIADAU AMRYWIOL SY’N YMWNEUD Â DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 1998
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)
56
(1)
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 28 (pŵer Gweinidogion Cymru i drosglwyddo swyddogaethau i gyrff penodol)—
(a)
yn is-adran (1)—
(i)
hepgorer “or II”;
(ii)
ym mharagraff (b) hepgorer “II or”;
(b)
yn is-adran (2) hepgorer “or II”;
(c)
yn is-adran (3)—
(i)
hepgorer “or II”;
(ii)
hepgorer paragraff (b), a’r “, or” o’i flaen.
(3)
Yn Atodlen 4 (cyrff cyhoeddus y caniateir trosglwyddo eu swyddogaethau)—
(a)
ym mharagraff 3A, yn lle “The Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”;
(b)
hepgorer—
(i)
paragraff 4 (pwyllgor cynghori i Gymru o dan adran 11 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25));
(ii)
paragraff 8 (Cyngor Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (Cymru));
(iii)
paragraff 10 (Bwrdd Croeso Cymru);
(iv)
paragraff 11 (Awdurdod Datblygu Cymru);
(c)
hepgorer Rhan 2 (pwyllgorau cynghori i Gymru o dan adran 19 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49)).
(4)
Yn Atodlen 10 (diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 (p. 46) sy’n ymwneud â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23))—
(a)
ym mharagraff 3, hepgorer is-baragraff (4);
(b)
hepgorer paragraff 10;
(c)
hepgorer paragraff 13;
(d)
ym mharagraff 14, yn is-baragraff (2), hepgorer y geiriau o “after paragraph (b)” hyd at “and”;
(e)
ym mharagraff 16, hepgorer is-baragraffau (5), (6) ac (8).
(5)
Yn Atodlen 12 (diwygio deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004)—
(a)
ym mharagraff 17 (diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1974 (p. 7)), yn is-baragraff (2)—
(i)
hepgorer y geiriau o “before “or”” hyd at “and”;
(ii)
hepgorer y geiriau o “and after” hyd at y diwedd;
(b)
hepgorer paragraffau 21 a 22 (diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20)) a’r pennawd italig o’u blaenau;
(c)
hepgorer paragraff 36(b) a’r “and” o’i flaen (diwygio Deddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40)).
(6)
Yn Atodlen 16 (diwygiadau sy’n ymwneud â diddymu Tai Cymru)—
(a)
hepgorer paragraff 1 (diwygio Deddf Cymdeithasau Cyfeillgar a Diwydiannol a Darbodus 1968 (p. 55));
(b)
hepgorer paragraff 12 (diwygio Deddf Tai 1985 (p. 68));
(c)
hepgorer paragraffau 56 a 57 (diwygio Deddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 (p. 1));
(d)
hepgorer paragraff 68 (diwygio Deddf Tai 1988 (p. 50));
(e)
hepgorer paragraff 84 ac, ym mharagraff 96, hepgorer is-baragraffau (1) i (5) ac (8) (diwygio Deddf Tai 1996 (p. 52));
(f)
hepgorer paragraffau 98 i 100 (diwygio Deddf y Comisiwn Archwilio 1998 (p. 18)) a’r pennawd italig o’u blaenau.
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
57
Yn Atodlen 10 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—
(a)
hepgorer paragraff 44 (Comisiynwyr Coedwigaeth);
(b)
hepgorer paragraff 51 (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn i wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd);
(c)
hepgorer paragraff 55 (Comisiynwyr Coedwigaeth).
RHAN 17DARPARIAETH DROSIANNOL MEWN PERTHYNAS Â DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 2006
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
58
Yn Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (darpariaethau trosiannol)—
(a)
hepgorer paragraffau 3 i 7 (etholiadau) a’r penawdau italig o flaen pob un ohonynt;
(b)
hepgorer paragraff 9 (cyfnod swydd aelodau’r Cynulliad a etholwyd yn etholiad Cynulliad 2007) a’r pennawd italig o’i flaen;
(c)
hepgorer paragraff 11 (anghymhwyso Arglwyddi Apêl Sefydlog) a’r pennawd italig o’i flaen;
(d)
hepgorer paragraffau 14 i 19 (trefniadau pellach mewn perthynas ag etholiad 2007 a’r “initial period”) a’r penawdau italig o flaen pob un ohonynt;
(e)
hepgorer paragraffau 22 i 25 (arfer swyddogaethau cyn penodi’r Prif Weinidog cyntaf) a’r pennawd italig o’u blaenau;
(f)
hepgorer paragraff 28(1) (dynodiadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68));
(g)
hepgorer paragraff 29 (y tro cyntaf yr enwebir Prif Weinidog) a’r pennawd italig o’i flaen;
(h)
ym mharagraff 35(3), yn Nhabl 1 (rhestr o’r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth y mae’r weithdrefn gadarnhaol yn gymwys iddi), hepgorer—
(i)
y cofnod ar gyfer adran 20(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 4);
(ii)
y cofnodion ar gyfer adrannau 96 a 101(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43);
(i)
ym mharagraff 35(4), yn Nhabl 2 (rhestr o’r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth y mae’r weithdrefn negyddol yn gymwys iddi)—
(i)
hepgorer y cofnodion ar gyfer adrannau 79S(2) a 79T(2) o Ddeddf Plant 1989 (p. 41);
(ii)
hepgorer y cofnod ar gyfer adran 16A(3) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25);
(iii)
hepgorer y cofnodion ar gyfer paragraffau 5(2), 12(2)(d) a 17(2) o Atodlen 7 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31);
(iv)
hepgorer y cofnod ar gyfer adran 109(6)(b) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38);
(v)
hepgorer y cofnod ar gyfer adran 20(6) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41);
(vi)
hepgorer y cofnodion ar gyfer adrannau 139(1), 192 a 193 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32);
(vii)
yn y cofnod ar gyfer adran 197 o Ddeddf Addysg 2002, yn y golofn gyntaf, yn lle “that Act” rhodder “the Education Act 2002 (c. 32)”;
(viii)
hepgorer y cofnodion ar gyfer adrannau 94(6), 96 a 101(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43);
(ix)
hepgorer y cofnodion ar gyfer adran 18(2)(c) ac adran 21(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23);
(x)
yn y cofnod ar gyfer adran 39(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, yn y golofn gyntaf, yn lle “that Act” rhodder “the Public Audit (Wales) Act 2004 (c. 23)”;
(j)
hepgorer paragraffau 50 a 51 (Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sy’n diwygio Atodlen 5 hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol) a’r pennawd italig o’u blaenau;
(k)
hepgorer paragraffau 53, 53A a 53B (taliadau i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru) a’r pennawd italig o’u blaenau;
(l)
hepgorer paragraffau 54 i 56 a 58 i 63 (darpariaethau ariannol sy’n gymwys dros dro) a’r penawdau italig o flaen pob un o baragraffau 54 i 56, 58, a 60 i 63;
(m)
hepgorer paragraffau 64, 64B, 64C, 64F a 64G (Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru) a’r penawdau italig o flaen pob un o baragraffau 64, 64B, 64F a 64G;
(n)
hepgorer paragraff 65 (darpariaeth drosiannol hyd nes y bydd swydd Adfocad Cyffredinol Gogledd Iwerddon yn cael ei chreu) a’r pennawd italig o’i flaen;
(o)
hepgorer paragraffau 66 a 67 (darpariaeth drosiannol hyd nes y bydd y Goruchaf Lys yn cael ei sefydlu) a’r pennawd italig o’u blaenau.
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43)
59
Yn Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (addasiadau darfodol), hepgorer paragraff 10.
Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1)
60
Yn yr Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), ym mharagraff 22, hepgorer paragraff (c).
RHAN 18DEDDF ETHOLIADAU CYMRU (CORONAFEIRWS) 2021
Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
61
Mae Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 wedi ei diddymu.
RHAN 19CYLLID LLYWODRAETH LEOL
Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 (dsc 5)
62
Yn adran 16 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024, hepgorer is-adran (8) ac ailrifer is-adran (9) yn is-adran (8).
ATODLEN 2MÂN DDIWYGIADAU I DDEDDF DEDDFWRIAETH (CYMRU) 2019
Cyflwyniad
1
Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Cyfeiriadau at “is-offeryn Cymreig”
2
“(3)
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Ddeddf gan Senedd Cymru (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at Ddeddf gan Senedd Cymru y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi yn rhinwedd is-adran (1).
(3A)
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at yr is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn rhinwedd is-adran (1).”
Gosod dogfennau gerbron Senedd Cymru
3
“Gosod dogfennau gerbron Senedd Cymru
12AYstyr cyfeiriadau at osod dogfennau gerbron Senedd Cymru
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol gosod unrhyw ddogfen (gan gynnwys offeryn statudol Cymreig) gerbron Senedd Cymru.
(2)
Mae’r cyfeiriad at osod y ddogfen yn gyfeiriad at gymryd y camau a bennir mewn perthynas â gosod dogfen gerbron Senedd Cymru yn rheolau sefydlog y Senedd.”
Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grym
4
Yn adran 16—
(a)
“(a)
gan ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru na ddaw i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol neu drannoeth y diwrnod hwnnw, neu”;
(b)
“(3A)
Nid yw is-adran (3) yn gymwys i arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth oni bai bod yr is-ddeddfwriaeth i ddod i rym cyn y ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd.”;
(c)
“(6)
Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriadau at ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio deddfiad arall.
(7)
Pan fo darpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn rhoi pŵer neu’n gosod dyletswydd drwy ddiwygio deddfiad arall, mae’r cyfeiriadau at Ddeddf neu offeryn yn is-adrannau (3)(a) a (b), (4) a (5) yn cynnwys y deddfiad arall fel y’i diwygiwyd.”
Mesurau gan Eglwys Loegr: effaith cyfeiriadau a diwygiadau
5
Yn adran 21(2) (cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau)—
(a)
“(ba)
Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;”;
(b)
ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.
6
Yn adran 25(4) (mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwyd)—
(a)
“(ba)
Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;”;
(b)
ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.
7
Yn adran 37 (ystyr diddymu a dirymu yn Rhan 2)—
(a)
ym mhennawd yr adran, yn lle “Ystyr” rhodder “Dehongli darpariaethau ynghylch diwygio,”;
(b)
“(3)
Yn adrannau 32 i 35, ac yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys at ddibenion yr adrannau hynny, mae “deddfiad yn cynnwys deddfiad sy’n Fesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr neu’n offeryn a wneir o dan Fesur o’r fath, neu sydd wedi ei gynnwys mewn Mesur neu offeryn o’r fath.”
Parhad is-ddeddfwriaeth: dim effaith ar gymhwyso i’r Goron
8
“(5)
Nid yw is-adran (3) yn peri i adran 28 gael effaith mewn perthynas ag unrhyw is-ddeddfwriaeth pan nad oedd yn cael effaith yn flaenorol.”
Cyfeirio at is-offerynnau Cymreig
9
Yn adran 36—
(a)
daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);
(b)
“(2)
Caniateir parhau i gyfeirio at is-offeryn Cymreig yn ôl ei enw er i’r offeryn gael ei ddirymu.”
(c)
daw’r pennawd yn “Cyfeirio at Ddeddf gan Senedd Cymru ar ôl iddi gael ei diddymu neu is-offeryn Cymreig ar ôl iddo gael ei ddirymu”.
ATODLEN 3DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Deddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36)
1
Yn Neddf Offerynnau Statudol 1946—
(a)
yn adran 1, hepgorer is-adran (1A);
(b)
hepgorer adran 11A.
Deddf Gosod Dogfennau gerbron y Senedd (Dehongli) 1948 (p. 59)
2
Yn Neddf Gosod Dogfennau gerbron y Senedd (Dehongli) 1948, yn adran 1(1A), ar ôl “any enactment” mewnosoder “to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 (anaw 4) does not apply”.
Deddf Marchnata Amaethyddol 1958 (p. 47)
3
“(12A)
Subsection (12) does not apply to the Welsh Ministers.”
Deddf Dehongli 1978 (p. 30)
4
“(1A)
In section 14(b), the reference to a statutory instrument includes a Welsh statutory instrument.”
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
5
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
6
Yn adran 115—
(a)
hepgorer is-adrannau (5A) i (5E);
(b)
yn is-adran (5F), hepgorer “official prints and”.
7
Yn Atodlen 10, hepgorer paragraffau 1 i 3 a’r pennawd italig o’u blaenau.
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)
8
Ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn adran 123(8), yn lle “offeryn statudol y mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys iddo fel pe bai’r offeryn yn cynnwys rheolau a wneir gan Weinidogion Cymru” rhodder “offeryn statudol Cymreig”.
Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4)
9
Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
10
Yn adran 3(2), o flaen “offeryn statudol” mewnosoder “offeryn statudol Cymreig neu’n”.
11
Yn adran 22(2)—
(a)
ar ôl “copi ardystiedig” mewnosoder “o’r print swyddogol”;
(b)
yn lle “Argraffydd y Frenhines” rhodder “Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru”;
(c)
yn lle “Ei Mawrhydi” rhodder “Ei Fawrhydi”.
12
Yn adran 23(2)—
(a)
yn lle “Argraffydd y Frenhines” rhodder “Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin”;
(b)
yn lle “Ei Mawrhydi” rhodder “Ei Fawrhydi”.
13
Yn adran 39—
(a)
yn is-adran (1), ar ôl “offeryn statudol”, yn y ddau le, mewnosoder “Cymreig”;
(b)
yn is-adran (2), ar ôl “offeryn statudol” mewnosoder “Cymreig”.
14
Hepgorer adran 40.
15
“43Rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon
(1)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)
yn arferadwy drwy offeryn statudol Cymreig;
(b)
yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(2)
Mae rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau a ganlyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd—
(a)
adran 6(2);
(b)
adran 37F(2)(c);
(c)
adran 42(1), pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru, Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;
(d)
paragraff 6(3)(c) o Atodlen 1A.
(3)
Mae rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau a ganlyn yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd—
(a)
adran 42(1), oni bai bod is-adran (2)(c) o’r adran hon yn gymwys;
(b)
paragraff 7 o Atodlen 1A;
(c)
paragraff 16 o Atodlen 1B;
(d)
paragraff 13 o Atodlen 1C.”
Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1)
16
Yn Atodlen 1 i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, ym mharagraff 5, hepgorer is-baragraffau (5) a (6).
Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (p. 28)
17
Yn Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, ym mharagraff 9, hepgorer is-baragraff (5).