RHAN 4CYFFREDINOL

5Craffu ar ôl deddfu

Ar ôl adran 42 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4), mewnosoder—

“42AAdolygu Rhannau 2A a 2B o’r Ddeddf hon

(1)

Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol adolygu gweithrediad ac effaith Rhannau 2A a 2B.

(2)

Rhaid i’r adolygiad gael ei gynnal yn ystod y cyfnod—

(a)

sy’n dechrau ddwy flynedd ar ôl y diwrnod y daw’r Rhannau hynny i rym, a

(b)

sy’n dod i ben heb fod yn hwyrach na thair blynedd ar ôl y diwrnod hwnnw.

(3)

Fel rhan o’r adolygiad, rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol ymgynghori â’r Llywydd a Chlerc y Senedd, ac unrhyw berson arall y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn ei ystyried yn briodol.

(4)

Rhaid i’r adroddiad blynyddol nesaf a lunnir gan y Cwnsler Cyffredinol o dan adran 2(7) ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau gynnwys—

(a)

gwybodaeth am y materion a ystyriwyd fel rhan o’r adolygiad, a

(b)

casgliadau’r Cwnsler Cyffredinol.”