RHAN 4CYFFREDINOL

5Craffu ar ôl deddfu

Ar ôl adran 42 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4), mewnosoder—

“42AAdolygu Rhannau 2A a 2B o’r Ddeddf hon

(1)

Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol adolygu gweithrediad ac effaith Rhannau 2A a 2B.

(2)

Rhaid i’r adolygiad gael ei gynnal yn ystod y cyfnod—

(a)

sy’n dechrau ddwy flynedd ar ôl y diwrnod y daw’r Rhannau hynny i rym, a

(b)

sy’n dod i ben heb fod yn hwyrach na thair blynedd ar ôl y diwrnod hwnnw.

(3)

Fel rhan o’r adolygiad, rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol ymgynghori â’r Llywydd a Chlerc y Senedd, ac unrhyw berson arall y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn ei ystyried yn briodol.

(4)

Rhaid i’r adroddiad blynyddol nesaf a lunnir gan y Cwnsler Cyffredinol o dan adran 2(7) ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau gynnwys—

(a)

gwybodaeth am y materion a ystyriwyd fel rhan o’r adolygiad, a

(b)

casgliadau’r Cwnsler Cyffredinol.”

Annotations:
Commencement Information

I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 9(4)

6Gweithgareddau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru

Ar ôl paragraff (d) o adran 2(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4), mewnosoder—

“(e)

datrys unrhyw amwysedd, a chywiro unrhyw wallau, yng nghyfraith Cymru.”

Annotations:
Commencement Information

I2A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 9(4)

7Mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

Mae Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

Annotations:
Commencement Information

I3A. 7 mewn grym ar 10.9.2025, gweler a. 9(2)(c)

8Diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y Ddeddf hon.

Annotations:
Commencement Information

I4A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 9(4)

9Dod i rym

(1)

Daw’r adran hon ac adran 10 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)

adran 2, ac eithrio bod y cyfeiriadau at “offeryn statudol Cymreig” yn y testun a fewnosodir gan is-adrannau (1) a (2) i’w darllen fel “offeryn statudol” hyd nes y daw Rhan 2A o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 i rym;

(b)

adran 4;

(c)

adran 7;

(d)

Atodlen 1;

(e)

Atodlen 2.

(3)

Ond os nad yw paragraff 29(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 (p. 55) (diwygio adran 1(1) o Ddeddf Cynllunio ac Ynni 2008 (p. 21)) mewn grym ar ddiwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2), daw paragraff 22(2)(a)(i) o Atodlen 1 i rym pan ddaw paragraff 29(2) o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno i rym.

(4)

Daw’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod (neu ddiwrnodau) a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5)

Caiff gorchymyn o dan is-adran (4) gynnwys darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed.

Annotations:
Commencement Information

I5A. 9 mewn grym ar 11.7.2025, gweler a. 9(1)

10Enw byr

Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—

(a)

Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025, neu

(b)

the Legislation (Procedure, Publication and Repeals) (Wales) Act 2025.