Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i DEDDF DEDDFWRIAETH (GWEITHDREFN, CYHOEDDI A DIDDYMIADAU) (CYMRU) 2025

Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 a basiwyd gan Senedd Cymru ar 20 Mai 2025 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Gorffennaf 2025. Fe’u lluniwyd gan Swyddfa Cwnsleriaid Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

Crynodeb a Chefndir

2.Diben y Ddeddf yw:

a.

rhoi’r canlynol at ei gilydd a’u ffurfioli:

i.

y trefniadau gweithdrefnol ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth Cymru, a

ii.

y gofynion o ran cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymreig, ac is-ddeddfwriaeth arall nas gwneir drwy offeryn statudol.

b.

gwella hygyrchedd cyfraith Cymru drwy:

i.

diddymu, diwygio a datgymhwyso fel arall o ran Cymru ddeddfiadau nad ydynt o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd mwyach;

ii.

gwneud diwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

3.Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar Fil drafft yn ymwneud â diddymiadau ym mis Hydref 2022, ac ystyriwyd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw wrth ddatblygu’r Ddeddf.

4.Mae’r Ddeddf yn rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cymru i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch ac i egluro a symleiddio gweithrediad deddfwriaeth Cymru.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1 – Y Weithdrefn Ar Gyfer Gwneud is-Ddeddfwriaeth Cymru

5.Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn diwygio Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) (‘Deddf 2019’) i wneud darpariaeth ynghylch gweithdrefnau yn y Senedd ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth Cymru. Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn diwygio Deddf 2019 i wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi a chadw deddfwriaeth Cymru. Ar hyn o bryd mae Deddf 2019 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru yn ogystal â gosod dyletswyddau ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

6.Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn diwygio Deddf 2019 drwy fewnosod Rhan 2A newydd (ac Atodlenni 1A, 1B ac 1C). Mae Rhan 2A newydd o Ddeddf 2019 yn rhoi’r cysyniad o “offeryn statudol Cymreig” ar sail statudol; mae hefyd yn nodi ac yn enwi mathau penodol o weithdrefnau y mae angen i is-ddeddfwriaeth Cymru y mae’n ofynnol ei gwneud drwy offeryn statudol eu dilyn yn y Senedd.

7.Ar ôl i Ran 2A newydd ddod i rym, os yw deddfiad (megis Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Senedd y DU, ond gweler Atodlen 1 i Ddeddf 2019 ar gyfer y diffiniad o “deddfiad”) yn darparu bod darn penodol o is-ddeddfwriaeth o’r fath yn ddarostyngedig i weithdrefn benodol a enwir yn Rhan 2A, bydd gofynion y weithdrefn honno yn gymwys i’r broses o wneud yr is-ddeddfwriaeth honno. Mae hyn yn golygu y bydd modd i ddeddfiadau gymhwyso’r gweithdrefnau penodol a nodir yn Rhan 2A heb orfod disgrifio manylion y gweithdrefnau hynny bob tro.

8.Mae Rhan 2A hefyd yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag is-ddeddfwriaeth newydd Cymru sydd i’w gwneud o dan ddeddfiadau a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym. Mewn achosion o’r fath, bydd y rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth bellach yn cael ei gwneud fel offeryn statudol Cymreig (yn hytrach nag fel offeryn statudol o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36)). Bydd yn ddarostyngedig i un o’r gweithdrefnau yn y Senedd a nodir yn Rhan 2A, er nad oedd y deddfiad y gwneir yr is-ddeddfwriaeth odano yn defnyddio un o’r termau a ddefnyddir i ddisgrifio’r weithdrefn honno.

9.Mae offerynnau a wneir gan Weinidogion Cymru yn gweithredu ar y cyd ag, er enghraifft, Ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth y DU, neu offerynnau a wneir fel Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, yn ddarostyngedig i fersiynau addasedig o’r gweithdrefnau newydd yn y Senedd.

10.Mae Rhan 1 o’r Ddeddf hefyd yn diwygio Deddf Priffyrdd 1980 (p. 66) a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p. 27) fel nad yw’n ofynnol gwneud gorchmynion traffig ffyrdd dros dro drwy offeryn statudol (neu offeryn statudol Cymreig) mwyach.

Adran 1Rhan 2A newydd o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

11.Mae’r adran hon yn diwygio Deddf 2019 drwy fewnosod Rhan 2A newydd a thair Atodlen newydd. Mae Rhan 2A newydd yn cynnwys adrannau 37A i 37H ac Atodlenni 1A, 1B ac 1C, y mae gwybodaeth amdanynt wedi ei nodi isod.

Adran 37A – Offerynnau statudol Cymreig

12.Mae adran 37A yn cynnwys y diffiniad o “offeryn statudol Cymreig”. Mae’n ddogfen sy’n cynnwys “is-ddeddfwriaeth Cymru”. Mae’r term “is-ddeddfwriaeth” ei hun wedi ei ddiffinio yn Atodlen 1 i Ddeddf 2019 ac mae’n golygu pethau fel gorchmynion, rheoliadau a rheolau. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod pethau o’r fath yn dod o fewn ystyr y term “is-ddeddfwriaeth Cymru”, rhaid i’r ddeddfwriaeth gael ei gwneud gan Weinidogion Cymru neu awdurdod Cymreig datganoledig. Diben y gofyniad hwn yw os yw Gweinidogion Cymru yn gweithredu ar y cyd â pherson arall nad yw’n awdurdod Cymreig datganoledig i wneud yr is-ddeddfwriaeth (er enghraifft, Ysgrifennydd Gwladol), yna bydd yr offeryn sy’n deillio o hynny’n parhau i gael ei wneud fel offeryn statudol. Yn yr un modd, byddai Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir o ran Cymru yn unig yn parhau i gael ei wneud fel offeryn statudol.

13.Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (‘Deddf 2006’) yn darparu ystyr “Gweinidogion Cymru” (gweler adran 48). Fodd bynnag, at ddibenion diffinio “offeryn statudol Cymreig” mae’r term “Gweinidogion Cymru” yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) (gweler adran 37A(4)). O dan Ddeddf 1998 roedd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwnnw rychwant o bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth, y trosglwyddwyd y rhan fwyaf ohonynt wedyn i Weinidogion Cymru gan Ddeddf 2006. Mae rhoi offerynnau sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol hwnnw yn y diffiniad o “offeryn statudol Cymreig” yn berthnasol i rai o’r darpariaethau ynghylch offerynnau statudol Cymreig yn Rhan 2B newydd o Ddeddf 2019, ond nid i’r darpariaethau gweithdrefnol yn Rhan 2A.

14.Mae Deddf 2006 hefyd yn diffinio “awdurdod Cymreig datganoledig” (gweler adran 157A). Mae awdurdod Cymreig datganoledig yn cynnwys cyrff fel Tribiwnlys y Gymraeg.

15.Un o effeithiau adran 37A yw y daw’r holl offerynnau statudol presennol a wnaed gan Weinidogion Cymru neu awdurdod Cymreig datganoledig, pan na wnaed y ddeddfwriaeth ar y cyd â pherson arall, yn offerynnau statudol Cymreig. Er na fydd prin ddim newid yn ymarferol o ganlyniad i hyn, mae’n rhoi sail statudol i’r dosbarthiad yr oedd Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin wedi bod yn ei ddefnyddio i nodi offerynnau statudol a wnaed gan Weinidogion Cymru (a chan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn hynny) ers 1999.

16.Effaith arall yw na fydd Deddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36) (‘Deddf 1946’) yn gymwys mwyach i’r offerynnau presennol sy’n dod o fewn y diffiniad o “offeryn statudol Cymreig” (nac offerynnau statudol Cymreig yn y dyfodol, o ran hynny), ond yn hytrach bydd Rhan 2B newydd o Ddeddf 2019 yn gymwys iddynt. Mae paragraff 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf yn datgymhwyso Deddf 1946 i offerynnau a wneir gan Weinidogion Cymru.

17.Mae gofynion presennol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau Cymreig datganoledig wneud darnau penodol o is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol wedi eu ’trosi’ yn ofynion i wneud y ddeddfwriaeth honno fel offeryn statudol Cymreig. Dyma effaith adran 37H ac Atodlen 1A (gweler isod).

18.Yn hytrach na darparu bod darn penodol o is-ddeddfwriaeth i’w wneud fel “offeryn statudol” (gan fod yn ddarostyngedig i ofynion Deddf 1946), bydd Deddfau Senedd Cymru yn y dyfodol yn darparu bod y darn penodol hwnnw o is-ddeddfwriaeth i’w wneud fel “offeryn statudol Cymreig”. Bydd yr offeryn hwn wedyn yn ddarostyngedig i’r agweddau perthnasol ar Ran 2B o ran rhifo, cyhoeddi a chadw offerynnau o’r fath. Os bydd Deddf gan Senedd y DU yn y dyfodol yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru neu awdurdod Cymreig datganoledig arall i wneud is-ddeddfwriaeth (i’w harfer wrth weithredu ar eu pennau eu hunain yn hytrach na, dyweder, ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol), dylai’r Deddfau hynny hefyd ddarparu y gwneir yr is-ddeddfwriaeth fel “offeryn statudol Cymreig”.

Adran 37B – Dehongli

19.Mae’r adran hon yn nodi ystyr y term “awdurdod cyfrifol” a ddefnyddir yn Rhan 2A a Rhan 2B. Mae’n golygu’r corff neu’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth o dan sylw, ac eithrio yn achos is-ddeddfwriaeth a gadarnhawyd neu a gymeradwywyd hefyd gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol. Mewn achos o’r fath yr “awdurdod cyfrifol” yw Gweinidogion Cymru.

20.Mae gan berson sy’n “awdurdod cyfrifol” swyddogaethau penodol o dan y ddwy Ran. Er enghraifft, os yw darn penodol o is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd” ac yn cael ei annilysu, rhaid i Weinidogion Cymru (fel yr “awdurdod cyfrifol” ar gyfer y ddeddfwriaeth honno) ddirymu’r is-ddeddfwriaeth (gweler adran 37E(4)).

21.Fel enghraifft arall, o dan adran 37N rhaid i’r awdurdod cyfrifol ar gyfer offeryn statudol Cymreig anfon copi ardystiedig o’r offeryn hwnnw i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (fel y gellir ei gadw) ac at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru (felly gellir ei gyhoeddi).

22.Mae’r adran hon hefyd yn egluro sut y mae penderfyniad gan yr awdurdod cyfrifol i ddosbarthu offeryn statudol Cymreig yn “offeryn lleol” i’w wneud. Mae offerynnau lleol yn tueddu i fod yn gymwys i ardal benodol neu unigolion neu bersonau penodol yn unig, ac felly maent yn annhebygol o fod yn gymwys yn gyffredinol neu o ddiddordeb cyffredinol. Nid oes angen gosod offerynnau lleol gerbron y Senedd (o dan adran 37F) na’u hanfon i Lyfrgell Genedlaethol Cymru i’w cadw (o dan adran 37N).

Adran 37C – Gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd

23.Mae adran 37C yn diffinio’r hyn y mae’n ei olygu pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud fel offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.

24.Ni ellir ond gwneud is-ddeddfwriaeth o’r fath os yw drafft o’r offeryn statudol Cymreig wedi ei osod gerbron y Senedd ac wedi ei gymeradwyo ganddi wedyn. Mae’r Senedd yn cymeradwyo offerynnau drwy benderfyniad (yn yr achos hwn, penderfyniad yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn).

25.Mae adran 12A newydd o Ddeddf 2019 yn egluro’r hyn a olygir gan osod dogfen gerbron Senedd Cymru (gweler hefyd baragraff 215 isod).

26.Ar gyfer cymhwyso’r weithdrefn hon i is-ddeddfwriaeth newydd a wneir gan awdurdod cyfrifol o dan ddeddfiadau a wnaed neu a ddeddfwyd cyn i Ran 2A ddod i rym, gweler adran 37H ac Atodlen 1A. Ar gyfer is-ddeddfwriaeth o’r fath a wneir gan Weinidogion Cymru yn gweithredu ar y cyd â pherson arall (nid awdurdod Cymreig datganoledig) neu is-ddeddfwriaeth a wneir fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, gweler Atodlenni 1B ac 1C yn y drefn honno.

Adran 37D – Gweithdrefn gadarnhau’r Senedd

27.Mae adran 37D yn diffinio’r hyn a olygir pan fydd deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud fel offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gadarnhau’r Senedd”.

28.Mae’r weithdrefn hon yn cyfateb i’r hyn a elwir y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ a welir mewn deddfwriaeth bresennol benodol. Mae seneddau (gan gynnwys Senedd Cymru) wedi pasio deddfwriaeth sy’n caniatáu i is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud o dan y weithdrefn hon pan ddisgwylir y byddai angen i’r sawl sy’n gwneud yr is-ddeddfwriaeth gymryd camau brys. Fodd bynnag, mae angen i gamau o’r fath gael eu cadarnhau gan y ddeddfwrfa er mwyn i’r trefniadau hynny ddod yn barhaol, er enghraifft, mewn perthynas ag argyfwng diogelu iechyd fel pandemig y coronafeirws a gafwyd yn ddiweddar, neu i newid trothwyon treth neu eithriadau treth yn gyflym.

29.Caiff is-ddeddfwriaeth a wneir yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd ei gwneud gan y person sydd â’r pŵer i wneud y ddeddfwriaeth. Yna caiff yr offeryn statudol Cymreig ei osod gerbron y Senedd, cyn gynted â phosibl ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud. Ni chaiff yr is-ddeddfwriaeth barhau i gael effaith na dod i rym ar unrhyw adeg yn y dyfodol, oni bai bod y Senedd yn ei chadarnhau wedyn drwy benderfyniad.

30.Bydd deddfiadau sy’n rhagnodi bod darn penodol o is-ddeddfwriaeth i’w wneud drwy weithdrefn gadarnhau’r Senedd fel arfer hefyd yn rhagnodi’r adeg erbyn pryd y mae rhaid i’r Senedd fod wedi cadarnhau’r is-ddeddfwriaeth. Fel arall, caiff y deddfiad bennu digwyddiad penodol erbyn pryd y mae rhaid i’r Senedd fod wedi ei chadarnhau. Er enghraifft, caiff y deddfiad ragnodi bod rhaid i’r Senedd fod wedi cadarnhau’r is-ddeddfwriaeth o fewn 28 o ddiwrnodau i’w gwneud, heb gyfrif unrhyw adeg pan fo’r Senedd ar doriad neu wedi ei diddymu. Neu, i roi enghraifft arall, gallai’r deddfiad ragnodi bod rhaid i’r Senedd fod wedi cadarnhau’r is-ddeddfwriaeth cyn y gellir pasio penderfyniad cyllideb.

31.Mae is-ddeddfwriaeth a wneir o dan weithdrefn gadarnhau’r Senedd, felly, yn peidio â chael effaith os nad yw’r Senedd yn ei chadarnhau am nad yw’n cytuno y dylai’r is-ddeddfwriaeth barhau (ni chaiff y penderfyniad ei basio), neu os yw’r cyfnod o amser y mae’n gallu aros mewn grym ynddo wedi dod i ben, neu os yw’r sefyllfa sy’n ymwneud â’r digwyddiad a ragnodwyd yn digwydd (sy’n golygu na ellir gofyn i’r Senedd ei chadarnhau).

32.Mae is-adran (4) yn darparu pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn peidio â chael effaith, os nad yw eisoes mewn grym ni fydd yn dod i rym (ac os yw mewn grym yn rhannol ni fydd yn dod i rym yn llawn). Pan oedd yr is-ddeddfwriaeth eisoes mewn grym neu mewn grym yn rhannol ar yr adeg y peidiodd â chael effaith, ni ellir gwneud dim byd pellach odani na dibynnu ar ddim byd pellach odani. Yna, rhaid i’r awdurdod cyfrifol, drwy orchymyn a wneir o dan adran 37D(4)(c), ei ddirymu. Bydd dirymu yn helpu i osgoi dryswch i ddarllenwyr y ddeddfwriaeth yn y dyfodol, a allai fod heb sylweddoli fel arall nad yw’r is-ddeddfwriaeth yn cael effaith mwyach. Rhaid gosod y gorchymyn sy’n dirymu’r is-ddeddfwriaeth gerbron y Senedd yn unol ag adran 37F a rhaid iddo gael ei wneud drwy offeryn statudol Cymreig.

33.Pan fo is-ddeddfwriaeth yn peidio â chael effaith, mae unrhyw beth a wnaed odani yn parhau’n ddilys a gellir gwneud is-ddeddfwriaeth bellach o hyd (gweler is-adran (5)).

34.Mae adran 12A newydd o Ddeddf 2019 yn egluro’r hyn a olygir gan osod dogfen gerbron Senedd Cymru (gweler hefyd baragraff 215 isod).

35.Ar gyfer cymhwyso’r weithdrefn hon i is-ddeddfwriaeth newydd a wneir gan awdurdod cyfrifol o dan ddeddfiadau a wnaed neu a ddeddfwyd cyn i Ran 2A ddod i rym, gweler adran 37H ac Atodlen 1A. Ar gyfer is-ddeddfwriaeth o’r fath a wneir gan Weinidogion Cymru yn gweithredu ar y cyd â pherson arall (nid awdurdod Cymreig datganoledig) gweler Atodlen 1B.

Adran 37E – Gweithdrefn annilysu’r Senedd

36.Mae adran 37E yn diffinio’r hyn a olygir pan fydd deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud fel offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.

37.O dan y weithdrefn hon caiff y ddeddfwriaeth ei gwneud gan y person sydd â’r pŵer i’w gwneud, caiff ei gosod gerbron y Senedd a daw i rym. Fodd bynnag, os bydd y Senedd yn penderfynu, cyn diwedd 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodwyd yr is-ddeddfwriaeth ger ei bron, na ddylai’r ddeddfwriaeth barhau mewn effaith, nid yw’r ddeddfwriaeth yn cael effaith mwyach.

38.Felly mae adran 37E yn darparu:

a.

bod rhaid gosod yr is-ddeddfwriaeth gerbron y Senedd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddi gael ei gwneud (is-adran (2)). At hynny, dylid ei gosod o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn iddi ddod i rym. Os daw i rym lai na 21 o ddiwrnodau ar ôl iddi gael ei gosod, yna rhaid i’r awdurdod cyfrifol ysgrifennu at Lywydd y Senedd i egluro pam (gweler is-adrannau (6) a (7)).

b.

gan ddechrau â’r dyddiad y gosodwyd yr is-ddeddfwriaeth, fod gan y Senedd 40 niwrnod i ystyried a yw’n dymuno penderfynu y dylid annilysu’r ddeddfwriaeth (is-adran (3)). Yn ymarferol byddai hyn yn golygu bod Aelod o’r Senedd yn gosod gerbron y Senedd gynnig y dylid annilysu’r ddeddfwriaeth, bod y Senedd yn cynnal dadl ar y cynnig hwn a bod mwyafrif yr aelodau sy’n pleidleisio yn cytuno â’r cynnig.

c.

os yw’r is-ddeddfwriaeth wedi ei hannilysu, fod is-adran (4) yn darparu os nad yw eisoes mewn grym na fydd yn dod i rym, neu os yw mewn grym yn rhannol na fydd yn dod i rym yn llawn; neu pan oedd yr is-ddeddfwriaeth eisoes mewn grym (neu mewn grym yn rhannol) ar yr adeg neu wedi ei hannilysu, na chaniateir gwneud dim byd pellach odani na dibynnu ar ddim byd pellach odani. Yna rhaid i’r awdurdod cyfrifol, drwy orchymyn, ddirymu’r is-ddeddfwriaeth. Rhaid gosod y gorchymyn hwnnw gerbron y Senedd yn unol ag adran 37F a rhaid iddo gael ei wneud drwy offeryn statudol Cymreig.

d.

pan fo is-ddeddfwriaeth wedi ei hannilysu, fod unrhyw beth a wnaed odani yn parhau’n ddilys, ac y caniateir gwneud is-ddeddfwriaeth bellach o hyd (is-adran (5)).

39.Mae’r cyfnodau o 21 o ddiwrnodau a 40 niwrnod yn yr adran hon i’w cyfrifo gan anwybyddu unrhyw amser pan fydd y Senedd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod neu wedi ei diddymu (is-adran (8)).

40.Mae adran 12A newydd o Ddeddf 2019 yn egluro’r hyn a olygir gan osod dogfen gerbron Senedd Cymru (gweler hefyd baragraff 215 isod).

41.Ar gyfer cymhwyso’r weithdrefn hon i is-ddeddfwriaeth newydd a wneir gan awdurdod cyfrifol o dan ddeddfiadau a wnaed neu a ddeddfwyd cyn i Ran 2A ddod i rym, gweler adran 37H ac Atodlen 1A. Ar gyfer is-ddeddfwriaeth o’r fath a wneir gan Weinidogion Cymru yn gweithredu ar y cyd â pherson arall (nid awdurdod Cymreig datganoledig) neu is-ddeddfwriaeth a wneir fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, gweler Atodlenni 1B ac 1C yn y drefn honno.

Adran 37F – Offerynnau statudol Cymreig eraill sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru

42.Mae adran 37F yn darparu sefyllfa ’ddiofyn’ ar gyfer yr hyn sydd i ddigwydd mewn perthynas â’r holl is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol Cymreig nad yw’n ddarostyngedig i un o’r gweithdrefnau a nodir yn adrannau 37C, 37D neu 37E. Mewn achosion o’r fath, rhaid ei gosod gerbron y Senedd.

43.Rhaid gosod yr offeryn gerbron y Senedd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei wneud. Os yw hynny ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym, rhaid i’r awdurdod cyfrifol egluro i’r Llywydd, yn ysgrifenedig, pam na osodwyd yr is-ddeddfwriaeth cyn iddi ddod i rym (is-adrannau (4) a (5)).

44.Mae adran 12A newydd o Ddeddf 2019 yn egluro’r hyn a olygir gan osod dogfen gerbron Senedd Cymru (gweler hefyd baragraff 215 isod).

45.Er bod adran 37F yn darparu’r sefyllfa ddiofyn hon, yn rhinwedd is-adran (2) nid yw’n cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir mewn offeryn statudol Cymreig sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol (gweler adran 37B(4) ynghylch hynny), nac offeryn a wneir o dan weithdrefn arbennig y Senedd (gweler is-adran (6) a Rheol Sefydlog 28 y Senedd ynghylch hynny) nac offeryn a wneir o dan ddeddfiad a restrir mewn rheoliadau’r dyfodol a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 37F(2)(c). Rhaid i unrhyw reoliadau o’r fath gael eu gwneud yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd a nodir yn adran 37C (gweler adran 43 o Ddeddf 2019, fel y’i hamnewidiwyd gan Atodlen 3 i’r Ddeddf hon).

46.Ar gyfer cymhwyso’r gofyniad hwn i is-ddeddfwriaeth newydd a wneir gan awdurdod cyfrifol o dan ddeddfiadau a wnaed neu a ddeddfwyd cyn i Ran 2A ddod i rym, gweler adran 37H ac Atodlen 1A. Ar gyfer is-ddeddfwriaeth o’r fath a wneir gan Weinidogion Cymru yn gweithredu ar y cyd â pherson arall (nid awdurdod Cymreig datganoledig) neu is-ddeddfwriaeth a wneir fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, gweler Atodlenni 1B ac 1C yn y drefn honno. Mae hyn yn golygu, mewn achosion pan na fyddai wedi bod yn ofynnol gosod is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol (neu fel offeryn statudol Cymreig bellach) gerbron y Senedd, y bydd yr is-ddeddfwriaeth bellach yn cael ei gosod.

47.Y canlyniad yw y bydd yr holl is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol Cymreig (yn ogystal ag offerynnau statudol penodol a Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor) ac nad yw’n ddarostyngedig i weithdrefn yn y Senedd, oni bai bod is-adran (2) neu’r hyn sy’n cyfateb iddi yn yr Atodlen berthnasol yn gymwys, yn cael ei gosod gerbron y Senedd.

Adran 37G – Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y Senedd

48.Mae adran 37G yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfuno mewn un offeryn statudol Cymreig is-ddeddfwriaeth a wneir gan awdurdod cyfrifol drwy ddefnyddio pwerau gwahanol y mae gweithdrefnau gwahanol yn y Senedd yn gymwys iddynt. Mae’n sicrhau bod yr offeryn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn lymaf o’r gweithdrefnau a fyddai fel arall yn gymwys. Er enghraifft, os yw offeryn statudol yn cynnwys rhai darpariaethau a fyddai’n ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd a rhai darpariaethau a fyddai’n ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd, mae’r adran hon yn golygu bod gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd yn gymwys i’r offeryn cyfan (ac nad yw gweithdrefn annilysu’r Senedd yn gymwys).

49.Mae llawer o Ddeddfau eisoes yn ystyried cyfuno, mewn un offeryn, is- ddeddfwriaeth a wneir o dan bwerau gwahanol o fewn yr un Ddeddf, hyd yn oed pan fyddai’r pwerau hynny fel arfer yn ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol. Er enghraifft, caiff Deddf ddarparu bod unrhyw offeryn sy’n cynnwys rheoliadau o dan bwerau penodol yn y Ddeddf yn ddarostyngedig (neu y byddai’n cael ei ddarllen fel pe bai’n ddarostyngedig) i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd (pa un a yw hefyd yn cynnwys rheoliadau o dan bwerau eraill ai peidio), a bod gweithdrefn annilysu’r Senedd yn gymwys i unrhyw offeryn arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf (h.y. unrhyw offeryn nad yw’n cynnwys rheoliadau o dan y pwerau sy’n ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd).

50.Fodd bynnag, nid yw darpariaethau ynghylch gweithdrefnau yn y Senedd ar gyfer offerynnau statudol Cymreig bob amser yn ymdrin â’r mater hwn, ac fel arfer nid ydynt yn darparu ar gyfer cyfuno yn yr un offeryn ddarpariaethau sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol a wneir o dan Ddeddfau gwahanol. Diben adran 37G yw hwyluso cyfuno mewn un offeryn statudol ddarpariaethau sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol, pa un a ydynt wedi eu gwneud o dan bwerau yn yr un Ddeddf neu mewn Deddfau gwahanol, ac er mwyn osgoi unrhyw drafferthion gweithdrefnol a fyddai’n deillio o gyfuno darpariaethau yn y ffordd hon.

51.Mae is-adran (2) yn cyflawni hyn drwy ddarparu, pan fyddai mwy nag un weithdrefn yn y Senedd yn gymwys, mai dim ond pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny a grybwyllir gyntaf yn is-adran (3) sy’n gymwys. Mae is-adran (3) wedyn yn rhestru’r mathau gwahanol o weithdrefnau yn y Senedd mewn trefn ddisgynnol gan ddechrau â’r weithdrefn lymaf, sef gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd ym mharagraff (a), a chan gorffen â dim gweithdrefn ym mharagraff (d).

52.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn glir nad yw gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol cyfun y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn atal yr awdurdod cyfrifol rhag gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offerynnau ar wahân yn y dyfodol, nac yn effeithio ar y weithdrefn sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw offerynnau ar wahân a wneir ganddynt. Er enghraifft, os yw rheoliadau o dan bŵer a fyddai fel arfer yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd wedi cael eu cynnwys mewn offeryn statudol Cymreig sy’n ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau pellach o dan y pŵer hwnnw mewn offeryn statudol Cymreig ar wahân sy’n ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.

53.Adran 40 o Ddeddf 2019 fu’r adran hon yn wreiddiol, ond mae wedi ei hailddatgan yn Neddf 2019 fel adran 37G a’i haddasu er mwyn:

a.

yn gyntaf, adlewyrchu’r gweithdrefnau symlach a chodeiddiedig yn y Senedd,

b.

yn ail, estyn y pŵer fel ei fod ar gael i bob awdurdod cyfrifol sy’n cael gwneud offeryn statudol Cymreig yn lle bod ar gael i Weinidogion Cymru yn unig, ac

c.

yn drydydd, adlewyrchu’r ffaith na fydd angen gosod y rhan fwyaf o offerynnau statudol Cymreig gerbron y Senedd.

54.Mae’r pŵer i gyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y Senedd yn berthnasol i ddeddfwriaeth a wneir o dan ddeddfiadau yn y dyfodol yn ogystal â deddfwriaeth a wneir o dan ddeddfiadau cyn-gychwyn (yn rhinwedd adran 37H ac Atodlen 1A).

Adran 37H – Cymhwyso’r Rhan hon mewn amgylchiadau gwahanol

55.Mae Adran 37H yn cyflwyno Atodlenni 1A, 1B ac 1C sy’n cymhwyso’r darpariaethau yn Rhan 2A (gydag addasiadau mewn rhai achosion) i is-ddeddfwriaeth a wneir o dan ddeddfiadau presennol a rhai’r dyfodol mewn amgylchiadau penodol.

Atodlen 1A - Cymhwyso Rhan 2A i ddeddfiadau cyn-gychwyn

56.Mae’r Atodlen hon yn cymhwyso darpariaethau Rhan 2A i is-ddeddfwriaeth Cymru a wneir drwy offeryn statudol o dan “ddeddfiadau cyn-gychwyn”, sef deddfiadau a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym.

57.Mae Atodlen 1A yn cael yr effaith, pan fo pwerau presennol Gweinidogion Cymru neu awdurdod Cymreig datganoledig yn darparu bod is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y pwerau hynny i’w gwneud fel “offeryn statudol” (o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf 1946), y caiff ei gwneud fel offeryn statudol Cymreig yn lle hynny. Mae Atodlen 1A hefyd yn darparu, pan fo deddfiad presennol yn rhagnodi gweithdrefn benodol sydd i’w defnyddio i wneud is-ddeddfwriaeth, y gwneir yr is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio un o’r gweithdrefnau codeiddiedig newydd a nodir yn adran 37C, 37D neu 37E yn lle hynny. Pan nad yw deddfiad presennol yn rhagnodi gweithdrefn, rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth o dan adran 37F. Mae hyn wedi ei grynhoi yn Nhabl A isod:

Tabl A – Effaith Atodlen 1A ar ddeddfiadau cyn-gychwyn
Darpariaethau deddfiad cyn-gychwynEffaith Atodlen 1A
Caiff drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad (gelwir hwn yn offeryn ‘cadarnhaol drafft’) – gweler paragraff 3(1)(a) o Atodlen 1AGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol Cymreig o dan weithdrefn gymeradwyo’r Senedd – paragraff 3(2) o Atodlen 1A
Gwneir yr is-ddeddfwriaeth ond ni chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad (gelwir hwn yn offeryn ‘cadarnhaol’) – gweler paragraff 3(1)(b) o Atodlen 1A
Gwneir yr is-ddeddfwriaeth ond mae’n peidio â chael effaith oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn — (a) diwedd cyfnod a bennir yn y deddfiad, neu (b) digwyddiad a bennir yn y deddfiad (gelwir hwn yn offeryn ‘cadarnhaol gwnaed’) – gweler paragraff 4(1) o Atodlen 1AGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol Cymreig o dan weithdrefn gadarnhau’r Senedd – gweler paragraff 4(2) o Atodlen 1A
Gwneir yr is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol ond mae’n ddarostyngedig i’w hannilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru (gelwir hwn yn offeryn ‘negyddol’) – gweler paragraff 5(1)(a) o Atodlen 1AGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol Cymreig o dan weithdrefn annilysu’r Senedd – gweler paragraff 5(2) o Atodlen 1A
Caniateir gosod yr offeryn statudol gerbron Senedd Cymru ar ffurf ddrafft ond ni chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth os yw Senedd Cymru yn penderfynu na ddylid ei gwneud o fewn 40 niwrnod i’w gosod (gelwir hwn yn offeryn ‘negyddol drafft’) – gweler paragraff 5(1)(b) o Atodlen 1A
Nid yw’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ond rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys gerbron y Senedd (gelwir hyn yn ‘dim gweithdrefn ond fe’i gosodir’) – gweler paragraff 6(1) o Atodlen 1ACaiff is-ddeddfwriaeth ei gwneud fel offeryn statudol Cymreig a’i gosod gerbron y Senedd – gweler paragraff 6(2), a noder yr eithriadau ym mharagraff 6(3), o Atodlen 1A
Nid yw’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ac nid yw’n ofynnol gosod yr offeryn statudol gerbron y Senedd (gelwir hyn yn ‘dim gweithdrefn’) – gweler paragraff 6(1) o Atodlen 1A

58.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio deddfiadau i adlewyrchu effaith Atodlen 1A (gweler paragraff 7 o’r Atodlen hon). Gellid defnyddio hyn, er enghraifft, i roi yn lle cyfeiriadau presennol at offerynnau sy’n “ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru”, gyfeiriad at yr offeryn statudol Cymreig yn cael ei wneud “o dan weithdrefn annilysu’r Senedd”.

Atodlen 1B – Cymhwyso Rhan 2A i ddeddfwriaeth ar y cyd neu ddeddfwriaeth gyfansawdd

59.Mae’r Atodlen hon yn cymhwyso darpariaethau Rhan 2A i is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru a pherson arall (heblaw awdurdod Cymreig datganoledig) drwy offeryn statudol. Mae rhai deddfiadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth ar y cyd â pherson arall, er enghraifft Ysgrifennydd Gwladol (gelwir yr offeryn sy’n deillio o hyn yn “offeryn ar y cyd”). Weithiau gall Gweinidogion Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol ddewis arfer eu pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth mewn un offeryn (gelwir hwn yn “offeryn cyfansawdd”). Mae Atodlen 1B yn cymhwyso Rhan 2A i offerynnau ar y cyd neu offerynnau cyfansawdd a wneir o dan ddeddfiadau “cyn-gychwyn” ac “ôl-gychwyn”, sef deddfiadau a ddeddfwyd neu a wnaed cyn ac ar ôl i Ran 2A ddod i rym.

60.Mewn perthynas â deddfiadau cyn-gychwyn, effaith Atodlen 1B yw y bydd yr is-ddeddfwriaeth yn parhau i gael ei gwneud fel “offeryn statudol” (yn hytrach nag fel offeryn statudol Cymreig), ond pan fo deddfiad presennol yn rhagnodi gweithdrefn benodol sydd i’w defnyddio i wneud is-ddeddfwriaeth, y weithdrefn yn lle hynny fydd fel fersiwn addasedig o un o’r gweithdrefnau newydd a nodir yn adrannau 37C, 37D neu 37E. Pan nad yw deddfiad presennol yn rhagnodi gweithdrefn, rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth o dan adran 37F addasedig. Mae hyn wedi ei grynhoi yn Nhabl B isod:

Tabl B – Effaith Atodlen 1B ar gyfer deddfiadau cyn-gychwyn (offerynnau ar y cyd neu offerynnau cyfansawdd)
Darpariaethau deddfiad cyn-gychwynEffaith Atodlen 1B
Caiff drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad (gelwir hwn yn offeryn ‘cadarnhaol drafft’) – gweler paragraff 3(1)(a) o Atodlen 1BGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol o dan weithdrefn gymeradwyo addasedig y Senedd a nodir ym mharagraff 12 o Atodlen 1B
Gwneir yr is-ddeddfwriaeth ond ni chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad (gelwir hwn yn offeryn ‘cadarnhaol’) – gweler paragraff 3(1)(b) o Atodlen 1B
Gwneir yr is-ddeddfwriaeth ond mae’n peidio â chael effaith oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn — (a) diwedd cyfnod a bennir yn y deddfiad, neu (b) digwyddiad a bennir yn y deddfiad (gelwir hwn yn offeryn ‘cadarnhaol gwnaed’) – gweler paragraff 4(1) o Atodlen 1BGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol o dan weithdrefn gadarnhau addasedig y Senedd a nodir ym mharagraff 13 o Atodlen 1B
Gwneir yr is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol ond mae’n ddarostyngedig i’w hannilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru (gelwir hwn yn offeryn ‘negyddol’) – gweler paragraff 5(1)(a) o Atodlen 1BGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol o dan weithdrefn annilysu addasedig y Senedd a nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 1B
Caniateir gosod yr offeryn statudol gerbron Senedd Cymru ar ffurf ddrafft ond ni chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth os yw Senedd Cymru yn penderfynu na ddylid ei gwneud o fewn 40 niwrnod i’w gosod (gelwir hwn yn offeryn ‘negyddol drafft’) – gweler paragraff 5(1)(b) o Atodlen 1B
Nid yw’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ond rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys gerbron y Senedd (gelwir hyn yn ‘dim gweithdrefn ond fe’i gosodir’) – gweler paragraff 6(1) o Atodlen 1BGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol ac fe’i gosodir gerbron y Senedd o dan adran 37F fel y’i haddesir (gweler paragraff 15 o Atodlen 1B)
Nid yw’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ac nid yw’n ofynnol gosod yr offeryn statudol gerbron y Senedd (gelwir hyn yn ‘dim gweithdrefn’) – gweler paragraff 6(1) o Atodlen 1B

61.Mewn perthynas â deddfiadau ôl-gychwyn, gwneir yr is-ddeddfwriaeth fel “offeryn statudol” (yn hytrach nag fel offeryn statudol Cymreig) ac os yw’r deddfiad yn rhagnodi gweithdrefn yn y Senedd (mewn cysylltiad â phwerau Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth), gwneir yr is-ddeddfwriaeth o dan fersiwn addasedig o adran 37C, 37D neu 37E yn y drefn honno (neu fe’i gosodir o dan adran 37F addasedig). Mae hyn wedi ei grynhoi yn Nhabl C isod:

Tabl C – Effaith Atodlen 1B ar gyfer deddfiadau ôl-gychwyn (offerynnau ar y cyd neu offerynnau cyfansawdd)
Darpariaethau deddfiad ôl-gychwynEffaith Atodlen 1B
Is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd” – gweler paragraff 8(1) o Atodlen 1BGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol o dan weithdrefn gymeradwyo addasedig y Senedd a nodir ym mharagraff 12 o Atodlen 1B
Is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i “gweithdrefn gadarnhau’r Senedd” – gweler paragraff 9(1) o Atodlen 1BGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol o dan weithdrefn gadarnhau addasedig y Senedd a nodir ym mharagraff 13 o Atodlen 1B
Is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd” – gweler paragraff 10(1) o Atodlen 1BGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol o dan weithdrefn annilysu addasedig y Senedd a nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 1B
Nid yw’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn yn y Senedd – gweler paragraff 11(1) o Atodlen 1BGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol ac fe’i gosodir gerbron y Senedd o dan adran 37F fel y’i haddesir (gweler paragraff 15 o Atodlen 1B)

62.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio deddfiadau er mwyn gwneud darpariaeth i adlewyrchu effaith Atodlen 1B (gweler paragraff 16 o’r Atodlen hon).

Atodlen 1C – Cymhwyso Rhan 2A i Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor

63.Mae’r Atodlen hon yn cymhwyso darpariaethau Rhan 2A i is-ddeddfwriaeth a wneir fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor pan fydd rhaid gosod yr offeryn statudol gerbron y Senedd. Mae Atodlen 1C yn cymhwyso Rhan 2A i Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wneir o dan ddeddfiadau “cyn-gychwyn” ac “ôl-gychwyn”, sef deddfiadau a ddeddfwyd neu a wnaed cyn ac ar ôl i Ran 2A ddod i rym.

64.Mewn perthynas â deddfiadau cyn-gychwyn, mae Atodlen 1C yn sicrhau y bydd y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn parhau i gael ei wneud fel “offeryn statudol” (yn hytrach nag fel offeryn statudol Cymreig), ond pan fo deddfiad presennol yn rhagnodi gweithdrefn benodol sydd i’w defnyddio i wneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, y weithdrefn yn lle hynny fydd fersiwn addasedig o naill ai gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd (adran 37C) neu weithdrefn annilysu’r Senedd (adran 37E). Pan na fo deddfiad presennol yn rhagnodi gweithdrefn yn y Senedd, rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 37F addasedig. Mae hyn wedi ei grynhoi yn Nhabl D isod:

Tabl D – Effaith Atodlen 1C ar gyfer deddfiadau cyn-gychwyn (Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor)
Darpariaethau deddfiad cyn-gychwynEffaith Atodlen 1C
Caiff drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad (gelwir hwn yn offeryn ‘cadarnhaol drafft’) – gweler paragraff 3(1)(a) o Atodlen 1CGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol o dan weithdrefn gymeradwyo addasedig y Senedd a nodir ym mharagraff 10 o Atodlen 1C
Caniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ond ni chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei gynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad (gelwir hwn yn offeryn ‘cadarnhaol’) – gweler paragraff 3(1)(b) o Atodlen 1C
Gwneir y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor fel offeryn statudol ond mae’n ddarostyngedig i’w annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru (gelwir hwn yn offeryn ‘negyddol’) – gweler paragraff 4(1) o Atodlen 1CGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol o dan weithdrefn annilysu addasedig y Senedd a nodir ym mharagraff 11 o Atodlen 1C
Nid yw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ond rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n ei gynnwys gerbron y Senedd (gelwir hyn yn ‘dim gweithdrefn ond fe’i gosodir’) – gweler paragraff 5(1) o Atodlen 1CGwneir is-ddeddfwriaeth fel offeryn statudol ac fe’i gosodir gerbron y Senedd o dan adran 37F fel y’i haddesir (gweler paragraff 12 o Atodlen 1C)
Nid yw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ac nid yw’n ofynnol gosod yr offeryn statudol gerbron y Senedd (gelwir hyn yn ‘dim gweithdrefn’) – gweler paragraff 5(2) o Atodlen 1C

65.Mewn perthynas â deddfiadau ôl-gychwyn, gwneir y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor fel “offeryn statudol” (yn hytrach nag fel offeryn statudol Cymreig) a phan fo deddfiad yn rhagnodi gweithdrefn yn y Senedd, mae Atodlen 1C yn addasu adrannau 37C, 37E a 37F yn unol â hynny. Mae hyn wedi ei grynhoi yn Nhabl E isod:

Tabl E – Effaith Atodlen 1C ar gyfer deddfiadau ôl-gychwyn (Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor)
Darpariaethau deddfiad ôl-gychwynEffaith Atodlen 1C
Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sy’n ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd” – gweler paragraff 7(1) o Atodlen 1CGorchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir fel offeryn statudol o dan weithdrefn gymeradwyo addasedig y Senedd a nodir ym mharagraff 10 o Atodlen 1C
Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sy’n ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd” – gweler paragraff 8(1) o Atodlen 1CGorchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir fel offeryn statudol o dan weithdrefn annilysu addasedig y Senedd a nodir ym mharagraff 11 o Atodlen 1C
Nid yw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ond rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n ei gynnwys gerbron y Senedd – gweler paragraff 9(1) o Atodlen 1CGorchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir fel offeryn statudol ac a osodir gerbron y Senedd o dan adran 37F fel y’i haddesir (gweler paragraff 12 o Atodlen 1C)
Nid yw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ac nid yw’n ofynnol gosod yr offeryn statudol gerbron y Senedd – gweler paragraff 9(2) o Atodlen 1C

66.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio deddfiadau i adlewyrchu effaith Atodlen 1C (gweler paragraff 13 o’r Atodlen hon).

Adran 2 – Dim gofyniad i wneud gorchmynion traffig ffyrdd drwy offeryn statudol Cymreig

67.Mae adran 2 yn diwygio Deddf Priffyrdd 1980 (p. 66) a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p. 27) fel nad yw’n ofynnol gwneud rhai gorchmynion traffig ffyrdd penodol drwy offeryn statudol Cymreig (neu offeryn statudol) mwyach.

68.Mae’r gorchmynion hyn yn lleol eu natur, hynny yw, maent yn gymwys i ffordd benodol, neu ran ohoni, at ddiben penodol ac am gyfnod penodol. Nid ydynt yn gymwys yn ehangach nac o ddiddordeb ehangach. Er enghraifft, caniateir eu defnyddio i gau ffordd i alluogi cynnal digwyddiad. I roi enghraifft arall, gellid defnyddio gorchmynion o’r fath hefyd i ostwng dros dro’r terfyn cyflymder uchaf a ganiateir ar ffordd neu ffyrdd penodol tra bo gwaith atgyweirio yn cael ei wneud.

69.Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r holl orchmynion traffig ffyrdd o’r fath ar ei gwefan (www.llyw.cymru), ar y cyd ag is-ddeddfwriaeth arall y gellir ei defnyddio at ddibenion tebyg ond nad yw’n ofynnol ei gwneud fel offeryn statudol.

70.Nid yw’r diwygiadau hyn i Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn gymwys i orchmynion nac is-ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys yn gyffredinol ac o ddiddordeb cyffredinol (neu nad ydynt dros dro) – byddai is-ddeddfwriaeth o’r fath, yn rhinwedd Rhan 2A newydd o Ddeddf 2019, yn cael ei gwneud fel offeryn statudol Cymreig.

Rhan 2 – Cyhoeddi Etc. Ddeddfwriaeth Cymru

Adran 3Rhan 2B newydd o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

71.Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn cynnwys adran 3, sy’n diwygio Deddf 2019 drwy fewnosod Rhan 2B newydd. Mae’r Rhan newydd hon yn ymdrin â chyhoeddi, cadw, rhifo a dosbarthu Deddfau Senedd Cymru, offerynnau statudol Cymreig ac is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru (nid fel offeryn statudol Cymreig). Mae Rhan 2B newydd yn cynnwys adrannau 37I i 37Z2, y mae gwybodaeth amdanynt wedi ei nodi isod.

Adran 37I – Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru

72.Mae hanes cyhoeddi deddfwriaeth ym Mhrydain ac yna’r Deyrnas Unedig yn ymestyn yn ôl i’r 18fed ganrif. Sefydlwyd Llyfrfa Ei Fawrhydi (HMSO) yn 1786. Mae’n dal hawlfraint y Goron, a hon yw argraffydd a chyhoeddwr swyddogol pob Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig ers 1889. Rhwng 2003 a 2006, bu HMSO yn un o bedwar corff llywodraeth a ddaeth at ei gilydd i ffurfio’r Archifau Gwladol, yr archif llywodraeth swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Deyrnas Unedig.

73.Erbyn hyn, mae cyhoeddi holl ddeddfwriaeth y DU yn rhan hanfodol o gylch gwaith Ceidwad y Cofnodion Cyhoeddus (yn rhinwedd ei swydd fel Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin ac Argraffydd Llywodraeth Gogledd Iwerddon) ac Argraffydd y Brenin ar gyfer yr Alban. Y Ceidwad hefyd yw Rheolwr HMSO a Phrif Weithredwr yr Archifau Gwladol. Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn sôn am rôl Argraffydd y Brenin o ran cyhoeddi deddfwriaeth Cymru, ond yn ymarferol mae hyn hefyd yn cael ei wneud gan ac ar ran Argraffydd y Brenin.

74.Caiff y fersiynau gwreiddiol (fel y’u deddfwyd) a fersiynau diwygiedig o ddeddfwriaeth eu cyhoeddi ar wefan legislation.gov.uk gan Reolwr HMSO ac o dan ei awdurdod. Rheolir y wefan gan yr Archifau Gwladol sydd hefyd yn gyfrifol am y Gazette, sef cofnod cyhoeddus swyddogol y DU. Rheolir y Gazette gan The Stationery Office, o dan oruchwyliaeth yr Archifau Gwladol.

75.Mae Rhan 2B yn gwneud darpariaeth i ffurfioli’r broses ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth Cymru drwy roi swyddogaethau i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Mae swyddogaethau Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru i gyhoeddi Deddfau Senedd Cymru, offerynnau statudol Cymreig a dogfennau cysylltiedig i’w harfer gan Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin.

Cadw a chyhoeddi Deddfau Senedd Cymru

76.Cychwynnwyd darpariaethau Deddfau’r Cynulliad (y Senedd erbyn hyn) yn Rhan 4 o Ddeddf 2006 ar 5 Mai 2011 gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cychwyn Darpariaethau Deddfau’r Cynulliad, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed ac Addasiadau) 2011 (O.S. 2011/1011 (Cy. 250) (C. 42)). Diwygiodd y Gorchymyn hwnnw adran 115 o Ddeddf 2006 hefyd i wneud darpariaeth ar gyfer cadw’r Breinlythyrau a’r Deddfau a chopïau ardystiedig o brintiau swyddogol o Ddeddfau, ac ar gyfer rhifo Deddfau. Mae’r darpariaethau ynghylch Deddfau Senedd Cymru a fewnosodwyd gan y Gorchymyn bellach wedi eu hailddatgan yn Neddf 2019 fel adrannau 37J i 37M (ac mae paragraff 5 o Atodlen 3 i’r Ddeddf yn diddymu’r darpariaethau hynny o adran 115 o Ddeddf 2006).

Adran 37J – Rhifo Deddfau Senedd Cymru

77.Mae adran 37J yn ymdrin â rhifo Deddfau Senedd Cymru drwy ailddatgan effaith adrannau 115(5A) a (5B) o Ddeddf 2006. At hynny, mae’n ei gwneud yn glir am y tro cyntaf sut y penderfynir y rhagddodiad a’r rhif ar gyfer Deddf gan Senedd Cymru. Sefydlwyd y dull presennol o rifo Deddfau gan Senedd y DU yn 1962, gan gymryd lle’r system o gyfeirio at Ddeddfau yn ôl sesiwn a phennod, am fod pobl gweld y system honno’n anghyfleus. Roedd y trefniadau ar gyfer rhifo Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn defnyddio system rifo debyg i’r trefniadau presennol ar gyfer Deddfau gan Senedd y DU (gan ddefnyddio’r rhagddodiad “mccc”); parhawyd â hyn pan ddechreuodd Deddfau gan y Cynulliad Cenedlaethol (ond gan ddefnyddio’r rhagddodiad “dccc”), ac erbyn hyn defnyddir y rhagddodiad “dsc” i ddynodi Deddfau Senedd Cymru.

Adran 37K – Printiau swyddogol a chopïau ardystiedig o Ddeddfau Senedd Cymru

78.Y cam cyntaf yn y broses o gyhoeddi a lledaenu darn o ddeddfwriaeth yw llunio’r testun sydd i’w gyhoeddi. Rhaid i hwn fod yn gofnod awdurdodol o’r ddeddfwriaeth. Y cofnod awdurdodol o Ddeddf gan y Senedd yw’r “print swyddogol” sy’n cael ei greu o dan adran 115(5C) o Ddeddf 2006 ar hyn o bryd, ond a gaiff ei greu yn y dyfodol o dan adran 37K, sydd hefyd yn ymgorffori’r gofynion a nodir ar hyn o bryd yn adrannau 115(5D) a (5E) o Ddeddf 2006.

79.O ganlyniad, mae’r print swyddogol o Ddeddf gan y Senedd yn cynnwys testun y Bil a basiwyd gan y Senedd ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol, yn ogystal â’r dyddiad a’r flwyddyn pan roddwyd hysbysiad o’r Cydsyniad hwnnw i Glerc y Senedd, y rhagddodiad “dsc” a’r rhif. Mae’r Clerc yn gwneud copi o’r print swyddogol o’r Ddeddf ac yn ei ardystio’n gopi gwir (a gaiff ei alw wedyn y “copi ardystiedig o’r print swyddogol”). Caiff y print swyddogol ei anfon i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, gweler isod, a chaiff y copi ardystiedig ei anfon at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.

Adran 37L – Cadw Deddfau Senedd Cymru

80.Ers 2011, mae adran 115(4A) a (5E) o Ddeddf 2006 wedi ei gwneud yn ofynnol anfon y Breinlythyrau a’r print gwreiddiol o bob Deddf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Effaith hyn yw sicrhau y caiff y cofnodion pwysig hyn eu cadw’n barhaol.

81.Parheir â’r gofyniad hwn i anfon y printiau gwreiddiol o Ddeddfau Senedd Cymru yn adran 37L. Mae’r gofyniad presennol ar gyfer y Breinlythyrau yn aros yn adran 115(4A) o Ddeddf 2006.

Adran 37M – Cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru

82.Cyn y Ddeddf hon, nid oedd unrhyw rwymedigaeth benodol ar Argraffydd y Brenin i gyhoeddi Deddfau Senedd Cymru. Mae adran 37M yn ei gwneud yn glir bod rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi’r copi ardystiedig o’r print swyddogol o Ddeddf, a rhaid iddo hefyd gyhoeddi dogfennau sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf os bydd Clerc y Senedd neu Weinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny. Disgwylir y bydd dogfennau o’r fath yn cynnwys Nodiadau Esboniadol, ac ar gyfer Deddfau cydgrynhoi byddant yn cynnwys tablau tarddiadau a thrawsleoli a nodiadau drafftwyr; ond gallant hefyd gynnwys asesiadau effaith neu ddeunyddiau eraill yn y dyfodol.

83.Mae is-adran (3) yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl yn edrych ar ddeddfwriaeth ar-lein yn hytrach nag mewn print erbyn hyn. Ar hyn o bryd mae holl Ddeddfau Senedd Cymru a Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gael ar wefan legislation.gov.uk. Gellir defnyddio’r adnodd hwn am ddim ac mae’r holl gynnwys arno ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (oni nodir fel arall). O ganlyniad anogir defnyddwyr i ddefnyddio ac ailddefnyddio’r wybodaeth yn rhydd ac mewn modd hyblyg, gyda nifer bach o amodau yn unig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/.

84.Caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd argraffu a gwerthu copïau o Ddeddfau Senedd Cymru a rhaid iddo ddarparu copïau print ar gais os telir unrhyw daliadau am wneud hynny (gweler adran 37Y).

Cadw a chyhoeddi offerynnau statudol Cymreig

85.Cyn i’r Ddeddf hon ddod i rym, mae is-ddeddfwriaeth y mae’n ofynnol ei gwneud fel “offeryn statudol” yn ddarostyngedig i’r gofynion o ran rhifo, dosbarthu a chyhoeddi a nodir yn Neddf 1946 a Rheoliadau Offerynnau Statudol 1947 (O.S. 1948/1) (‘Rheoliadau 1947’). Mae Deddf 1946 yn gymwys i Weinidogion Cymru, ac i offerynnau a wneir ganddynt, yn rhinwedd adrannau 1(1A) ac 11A o’r Ddeddf honno.

86.O ganlyniad i Ran 1 o’r Ddeddf hon, bydd is-ddeddfwriaeth a wneir gan awdurdod cyfrifol (gweler adran 37B), sy’n cynnwys Gweinidogion Cymru, yn cael ei gwneud fel offeryn statudol Cymreig, yn hytrach nag fel offeryn statudol y mae Deddf 1946 yn gymwys iddo. Mae’r gofynion o ran rhifo, dosbarthu, cyhoeddi a chadw offerynnau statudol Cymreig wedi eu nodi yn adrannau 37N i 37S newydd o Ddeddf 2019, a ddisgrifir isod.

Adran 37N – Fersiynau swyddogol a chopïau ardystiedig o offerynnau statudol Cymreig

87.Yn yr un modd ag ar gyfer Deddfau Senedd Cymru, y cam cyntaf yn y broses o gyhoeddi a lledaenu offeryn statudol Cymreig yw llunio’r testun sydd i’w gyhoeddi. Rhaid i hwn fod yn gofnod awdurdodol o’r ddeddfwriaeth. Yn achos Deddfau Senedd Cymru, ar hyn o bryd, mae dogfen ffisegol y mae rhaid i’r Clerc ysgrifennu gwybodaeth benodol arni (gweler adran 37K(2)). Nid yw hyn yn wir o reidrwydd yn achos offerynnau statudol Cymreig, y caniateir eu gwneud yn electronig ac felly mae’r ystyriaethau ar gyfer sicrhau bod cofnod awdurdodol ychydig yn wahanol.

88.Mae adran 37N(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cyfrifol wneud copïau ardystiedig o’r offeryn a wnaed: anfonir un copi ardystiedig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac anfonir copi ardystiedig arall at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Mae is-adran (3)(b) yn darparu y caiff copi ardystiedig fod ar ffurf electronig. Yr unig eithriad i’r rheol hon yw os yw’r offeryn statudol Cymreig wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol (gweler adran 37B ynghylch hynny); mewn achos o’r fath nid anfonir copi ardystiedig o’r offeryn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (is-adran (4)). Caiff offerynnau lleol eu hanfon at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru o hyd er mwyn sicrhau y bodlonir y gofynion cyhoeddi yn adran 37Q.

89.Wrth anfon copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, mae’n ofynnol i’r awdurdod cyfrifol hefyd ddarparu’r wybodaeth a nodir yn adran 37N(2). Caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio yn ei thro i fodloni’r gofynion cyhoeddi ar gyfer offerynnau statudol Cymreig.

Adran 37O – Cadw offerynnau statudol Cymreig

90.Er mwyn cyflwyno cysondeb â Deddfau Senedd Cymru a sicrhau bod cofnodion pwysig yn cael eu cadw’n barhaol, mae adran 37O yn ei gwneud yn ofynnol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddal a rhoi ar gael y copïau ardystiedig o offerynnau statudol Cymreig sy’n dod i’w llaw gan yr awdurdod cyfrifol.

Adran 37P – Rhifo a dosbarthu offerynnau statudol Cymreig

91.Mae adran 37P yn nodi sut y mae rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru rifo offerynnau statudol Cymreig. Yr effaith yw y caiff offerynnau o’r fath eu rhifo’n olynol ar gyfer pob blwyddyn galendr (gan ddechrau â rhif 1). Mae hyn yn dilyn y dull a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer offerynnau statudol a deddfwriaeth arall (gan gynnwys Deddfau Senedd Cymru, offerynnau statudol Albanaidd, Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon, etc.)

92.Mae is-adran (3) yn caniatáu i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ddefnyddio is-rif yn ogystal â’r rhif o’r gyfres o offerynnau statudol Cymreig. Dechreuodd yr arfer o ddefnyddio is-rifau ar gyfer offerynnau a rifwyd o dan Ddeddf 1946 a Rheoliadau 1947 yn y 1950au, ac mae wedi datblygu dros amser. Er enghraifft, rhoddir is-rif gydag “C” o’i flaen i orchmynion cychwyn neu reoliadau cychwyn. Mae offerynnau statudol sydd wedi eu gwneud ers 1999 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (yn wreiddiol) a chan Weinidogion Cymru (wedi hynny) wedi eu nodi drwy roi is-rifau iddynt gyda “Cy.” (yn Gymraeg) neu “W.” (yn Saesneg) o’u blaenau. Yn ymarferol, nid yw’n debygol y bydd angen rhifau o’r fath yn y dyfodol gan y bydd yr holl offerynnau hynny yn cael eu gwneud fel offerynnau statudol Cymreig, a’u rhifo o dan y gyfres o offerynnau statudol Cymreig.

Adran 37Q – Cyhoeddi offerynnau statudol Cymreig

93.Mae adran 37Q yn parhau â’r rhwymedigaethau a sefydlwyd o dan Reoliadau 1947 ar gyfer cyhoeddi offerynnau statudol ac yn sicrhau bod rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi offerynnau statudol Cymreig. Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd gyhoeddi dogfennau sy’n gysylltiedig ag offeryn os bydd yr awdurdod cyfrifol yn gofyn iddo wneud hynny. Ar hyn o bryd, caiff offerynnau statudol eu cyhoeddi ar ffurf sy’n cynnwys y Nodyn Esboniadol i’r offeryn, a’r disgwyl yw y bydd hyn yn parhau. Fodd bynnag, gallai dogfennau ychwanegol gynnwys mapiau sy’n ymwneud ag offeryn, asesiadau effaith neu ddeunyddiau eraill.

94.Mae is-adran (2) yn nodi gwybodaeth benodol y mae rhaid ei chynnwys gyda’r is-ddeddfwriaeth pan fydd Argraffydd y Brenin yn cyhoeddi’r offeryn statudol Cymreig. Er bod y dyddiad y gwnaed yr offeryn fel arfer yn cael ei gynnwys ar ddiwedd yr offeryn (o dan enw’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth), mae hefyd i’w weld fel arfer ar flaen y ddogfen mewn nodyn defnyddiol o dan yr enw. At hyn, mae is-adran (2)(e) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Argraffydd y Brenin gynnwys y dyddiad neu’r dyddiadau y daw’r offeryn i rym, neu ddisgrifiad o sut y daw’r offeryn i rym. Mae’r gofyniad hwn yn adlewyrchu’r ffaith y caiff darpariaethau gwahanol yn yr is-ddeddfwriaeth ddod i rym ar adegau gwahanol a chânt fod yn gysylltiedig â digwyddiadau neu drefniadau penodol. Mae hefyd yn golygu, pan fo’r sefyllfa’n gymhleth, y caiff y nodyn enwi’r darpariaethau yn yr offeryn sy’n pennu pryd y bydd yn dod i rym (er enghraifft, drwy nodi bod yr offeryn yn dod i rym “yn unol â rheoliad 1”), yn hytrach na gorfod nodi manylion y darpariaethau hynny’n llawn.

95.Gan adlewyrchu’r trefniadau ar gyfer cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru, mae is-adran (4) yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl yn edrych ar ddeddfwriaeth ar-lein yn hytrach nag mewn print. Caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd argraffu a gwerthu copïau o offerynnau statudol Cymreig (gweler adran 37Y).

Adran 37R – Cyhoeddi offerynnau statudol Cymreig sy’n ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd

96.Pan fo is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd (gweler adran 37D a pharagraffau 28 i 36 uchod ynghylch hynny), mae adran 37R yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cyfrifol hysbysu Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru os yw’r is-ddeddfwriaeth wedi ei chadarnhau gan y Senedd neu wedi peidio â chael effaith (os nas cadarnhawyd). Bydd hyn yn galluogi Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru i gynnwys gwybodaeth am y cadarnhad gyda’r offeryn cyhoeddedig. Pan nad yw offeryn wedi ei gadarnhau gan y Senedd, mae adran 37E(4)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cyfrifol ddirymu’r is-ddeddfwriaeth. Yn ymarferol, cofnodir y dirymiad hwn yn erbyn y fersiwn ar-lein o’r offeryn cyhoeddedig.

Adran 37S – Achos am drosedd o dan offeryn statudol Cymreig nas cyhoeddwyd: amddiffyniad

97.Mae adran 3(2) o Ddeddf 1946 yn darparu amddiffyniad i achos am drosedd o dorri offeryn statudol, os nad oedd yr offeryn hwnnw wedi ei gyhoeddi gan Argraffydd y Brenin ar yr adeg pan gyflawnwyd y drosedd. Ystyriodd Cyd-bwyllgor Senedd y DU ar Offerynnau Statudol y ddarpariaeth hon yn ei adroddiad Transparency and Accountability in Subordinate Legislation,(1) gan nodi:

The Committee believes that this provision—which represents a significant exception to the principle that ignorance of the law is no excuse—illustrates the importance attached by Parliament to prompt publication of law once made, and the inherent unfairness of expecting citizens to comply with law that has not been published.

98.Mae adran 37S yn gwneud darpariaeth debyg mewn cysylltiad ag is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn statudol Cymreig, er ar ffurf fwy modern.

99.Mae adran 37W (gweler isod ynghylch hynny) yn ei gwneud yn ofynnol i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi’r dyddiad y cyhoeddwyd pob offeryn statudol Cymreig. Caniateir defnyddio hyn mewn achos pan fydd angen cadarnhau pryd y cyhoeddwyd offeryn am y tro cyntaf gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru (gweler adran 37X).

Adran 37T – Offerynnau statudol Cymreig drafft

100.Er bod copïau o rai offerynnau statudol drafft, offerynnau statudol Albanaidd drafft a rheolau statudol drafft Gogledd Iwerddon yn cael eu cyhoeddi ar-lein yn www.legislation.gov.uk, nid yw Gweinidogion Cymru fel arfer yn gofyn am gyhoeddi yno ddrafftiau o offerynnau statudol y maent yn bwriadu eu gwneud. Y rheswm am hyn yw bod yr holl offerynnau statudol drafft sy’n ddarostyngedig i’w cymeradwyo gan y Senedd cyn y gellir eu gwneud yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Senedd ei hun (www.senedd.cymru). Mae hon yn darparu cofnod cynhwysfawr o offerynnau drafft, gyda gwefan legislation.gov.uk yn darparu cofnod llawn o’r holl offerynnau statudol a wnaed.

101.Serch hynny, mae adran 37T yn darparu, os yw’r awdurdod cyfrifol yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi offeryn statudol Cymreig drafft, fod rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi hwn ar-lein. Gallai Gweinidogion Cymru, er enghraifft, ofyn i offeryn drafft penodol gael ei gyhoeddi os ystyriwyd bod hyn yn briodol. O dan adran 37Y caiff Argraffydd y Brenin argraffu a gwerthu copïau caled o offeryn statudol Cymreig drafft (ond nid yw’n ofynnol iddo wneud hynny).

Adran 37U – Cyhoeddi effeithiau deddfwriaeth

102.O dan reoliad 10 o Reoliadau 1947 rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol “beri cynhyrchu” dogfen brint a elwir y “rhifyn blynyddol”. Mae rheoliad 10 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin ac HMSO argraffu a chyhoeddi’r rhifyn blynyddol. Mae’r rhifyn blynyddol yn cynnwys (ac yn unol â rheoliad 10(d)) dablau yn dangos yr effaith y mae unrhyw ddiwygiadau a wneir i ddeddfiadau presennol gan yr offerynnau statudol yn y rhifyn blynyddol hwnnw (sef, yr offerynnau statudol a wnaed yn y flwyddyn galendr y mae’r rhifyn blynyddol yn ymwneud â hi) yn ei chael ar y deddfiadau hynny.

103.Mae’r wefan a gynhelir gan yr Archifau Gwladol (ar ran Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin), www.legislation.gov.uk, yn rhoi’r rhan fwyaf o fathau o ddeddfwriaeth a’u dogfennau esboniadol cysylltiedig (ond nid pob un) ar gael am ddim. Mae hyn yn cynnwys offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion Cymru (a chan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn hynny), Deddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad Cenedlaethol.

104.Ar y cyd â chopïau o ddeddfiadau fel y’u gwnaed neu fel y’u deddfwyd, mae’r wefan hefyd yn cyhoeddi fersiynau o’r deddfiadau ar ‘ffurf ddiwygiedig’. Mae ‘diwygiedig’ yn y cyd-destun hwn yn golygu bod diwygiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi eu hymgorffori yn y testun a ddangosir ar-lein. Ar gyfer pob deddfiad, mae’r wefan hefyd yn cynnwys tabl yn rhestru pob diwygiad y mae’r deddfiad yn ei wneud i ddeddfwriaeth gynharach, a thabl yn rhestru pob diwygiad y mae’r ddeddfwriaeth ddilynol honno’n ei wneud i’r deddfiad ac yn dangos tarddiad y diwygiad.

105.Felly, mae Adran 37U yn ei gwneud yn ofynnol i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi ar-lein dablau’n dangos yr effeithiau y mae Deddfau Senedd Cymru neu offerynnau statudol Cymreig yn eu cael ar ddeddfiadau. Yn ymarferol, caiff yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ar wefan legislation.gov.uk (mae’n ymddangos ar hyn o bryd o dan y tab “Rhagor o Adnoddau” ar gyfer Deddf neu offeryn).

Adran 37V – Cyhoeddi deddfwriaeth Cymru fel y'i diwygiwyd

106.Fel y nodwyd uchod mae gwefan legislation.gov.uk yn cyhoeddi deddfwriaeth ar ‘ffurf ddiwygiedig’. Mae hyn yn golygu bod diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth gan ddeddfwriaeth ddilynol yn ymddangos wedi eu hymgorffori yn y testun. Mewn geiriau eraill, caiff y ddeddfwriaeth ei chyhoeddi ar ffurf wedi ei diweddaru.

107.Cafodd ychydig o ddeddfwriaeth ar ffurf ddiwygiedig ei rhoi ar gael ar-lein i’r cyhoedd am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2006 ar Gronfa Ddata Cyfraith Statud y DU. Ym mis Gorffennaf 2010, lansiwyd gwefan legislation.gov.uk, gan ymgorffori’r ddeddfwriaeth ddiwygiedig o’r Gronfa Ddata Cyfraith Statud a’r ddeddfwriaeth ‘fel y’i deddfwyd’ o wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (neu OPSI). Defnyddiwyd nifer o wahanol ffynonellau i greu’r cofnodion o ddeddfwriaeth ddiwygiedig, ac am nifer o flynyddoedd bu ymdrechion yn canolbwyntio ar ymgorffori diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol, fel bod Deddfau’r bedair ddeddfwrfa yn y Deyrnas ar ffurf ddiwygiedig yn cael eu rhoi ar gael. Yn fwy diweddar mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i roi offerynnau statudol ar gael hefyd ar ffurf ddiwygiedig. Yn ogystal ag adlewyrchu diwygiadau newydd i offerynnau statudol ar wefan legislation.gov.uk, mae gwaith hefyd yn cael ei wneud ar ôl-groniad tebyg o ddiwygiadau sydd eisoes wedi eu gwneud.

108.Mae Adran 37V yn ei gwneud yn ofynnol i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi, ar-lein, ddeddfwriaeth Cymru fel y’i diwygiwyd gan unrhyw ddeddfiad arall. Yn ymarferol, y ddeddfwriaeth hon fydd y ffurf ddiwygiedig ar Ddeddfau Senedd Cymru, Mesurau’r Cynulliad ac offerynnau statudol Cymreig, sy’n cael eu rhoi ar gael ar wefan legislation.gov.uk. Gwneir hyn “i’r graddau y bo’n ymarferol” o’r adeg y daw diwygiad i rym. Bydd y graddau y mae hyn yn ymarferol yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys yr amser rhwng deddfu neu wneud y ddeddfwriaeth sy’n rhoi effaith i’r newid a’r adeg y daw i rym, swm (cyffredinol) y ddeddfwriaeth a gyhoeddir yn ystod y cyfnod hwnnw, cymhlethdod y darpariaethau a’r graddau y bydd angen dangos diwygiadau hŷn hefyd er mwyn i ddeddfiad fod wedi ei diweddaru.

Adran 37W – Cofnod o ddeddfwriaeth Cymru

109.Mae adran 37W yn ei gwneud yn ofynnol i Argraffydd y Brenin gynnal a chadw a chyhoeddi cofnod ar-lein o wybodaeth sylfaenol ynghylch pob Deddf gan Senedd Cymru a phob offeryn statudol Cymreig. Mae hyn yn cynnwys y dyddiad y cyhoeddwyd pob un. Yn ymarferol y dyddiad hwn yw’r dyddiad y’i cyhoeddwyd am y tro cyntaf (gwybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn penderfynu a all yr amddiffyniad yn adran 37S o ran deddfwriaeth nas cyhoeddwyd fod yn berthnasol), ynghyd â dyddiadau unrhyw gyhoeddiad ychwanegol ar ôl hynny.

Adran 37Y – Argraffu a gwerthu deddfwriaeth Cymru a dogfennau cysylltiedig

110.Mae adran 37Y yn darparu i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru argraffu a gwerthu deddfwriaeth Cymru a dogfennau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth sydd eisoes wedi ei deddfu neu wedi ei gwneud gan Weinidogion Cymru, Senedd Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru gynt. Mae hefyd yn darparu’r sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer argraffu a gwerthu deddfiadau yn y dyfodol (Deddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymreig).

111.Yn unol â Deddf Llyfrgelloedd Adneuo Cyfreithiol 2003 (p. 28), ar hyn o bryd mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r llyfrgelloedd adneuo cyfreithiol eraill(2) yn cael copïau o bob offeryn statudol print a wneir gan Weinidogion Cymru (sef, yr holl offerynnau nad ydynt wedi eu dosbarthu’n offerynnau lleol) a chopi o bob Deddf gan Senedd Cymru. Darperir y rhain iddynt ar ran Argraffydd y Brenin. Bydd y trefniant hwn yn parhau ac ni fydd adran 37Y na Rhan 2B yn ehangach yn effeithio arno.

Adran 37Z – Gweinidogion Cymru i gyhoeddi is-ddeddfwriaeth nas gwneir drwy offeryn statudol

112.O bryd i’w gilydd gwneir darpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru ynghylch cyhoeddi is-ddeddfwriaeth nad yw ar ffurf offeryn statudol. Er enghraifft, o dan adran 15 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddydau cyffredinol a roddir ganddynt i Awdurdod Cyllid Cymru. Yn yr un modd, mae adran 19 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi Cod Ymarfer.

113.Fodd bynnag, yn ehangach, nid oes unrhyw ofynion cyffredinol ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi is-ddeddfwriaeth a wneir ganddynt pan nad yw ar ffurf offeryn statudol (neu offeryn statudol Cymreig). Yn ymarferol, cyhoeddir y rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth nad yw ar ffurf offeryn statudol ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru.

114.Serch hynny, mae’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru, yn eu rhaglen i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch (Dyfodol Cyfraith Cymru (diwygiwyd 2023), Llywodraeth Cymru), wedi ymrwymo i wella’r trefniadau ar gyfer cyhoeddi is-ddeddfwriaeth. Mae adran 37Z yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i rifo, dosbarthu a chyhoeddi ar-lein yr holl is-ddeddfwriaeth a wneir ganddynt pan nad yw ar ffurf offeryn statudol Cymreig.

115.Nid yw adran 37Z yn rhoi manylion am y trefniadau ar gyfer rhifo a dosbarthu is-ddeddfwriaeth, ond yn lle hynny mae adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi penderfyniad ar y trefniadau hyn.

Adran 37Z1 – Cyfeiriadau at offerynnau statudol Cymreig

116.Mae adran 37Z1 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caniateir cyfeirio at offeryn statudol Cymreig (neu sut y caniateir ‘enwi’ offeryn, pan fo’r cyfeiriad mewn deddfwriaeth arall). Yn gyntaf, mae’n darparu y caniateir cyfeirio at yr offeryn statudol Cymreig yn ôl ei enw yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae pob offeryn statudol ar hyn o bryd yn cynnwys darpariaeth (fel arfer yn y rheoliad cyntaf, y rheol gyntaf neu’r erthygl gyntaf yn yr is-ddeddfwriaeth) ynghylch enw’r offeryn. Fodd bynnag, gellir dadlau na ddaw’r ddarpariaeth honno i rym tan y dyddiad a bennir yn y ddarpariaeth gychwyn. Felly dilëir unrhyw amwysedd ynghylch a ganiateir cyfeirio at yr offeryn yn ôl ei enw cyn i’r ddarpariaeth honno fod mewn grym, ac yn lle hynny mae adran 37Z1 yn sicrhau y caniateir cyfeirio at yr offeryn yn ôl ei enw o’r eiliad y’i gwneir.

117.Mae Adran 37Z1 hefyd yn darparu y caniateir cyfeirio at offeryn statudol Cymreig yn ôl ei rhagddodiad, blwyddyn a rhif. Yr enghraifft a roddir yn adran 37Z1 yw “O.S.C. 2026/1”. Nid oes gofyniad na disgwyliad bod unrhyw is-rif a roddir i’r offeryn (gweler adran 37P(3)) yn ffurfio rhan o’r cyfeirnod y caniateir ei ddefnyddio wrth gyfeirio at offeryn.

Adran 37Z2 – Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru: dirprwyo swyddogaethau

118.Mae adran 37Z2 yn ei gwneud yn glir y caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddo gan Ran 2B (wrth barhau i fod yn gyfrifol am gyflawni’r swyddogaethau, ac mae unrhyw beth a wneir gan y person y dirprwyir iddo i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru).

119.Mae Adran 37Z2 yn galluogi Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru i gontractio allan y gwaith o argraffu a gwerthu offerynnau statudol Cymreig, er enghraifft, fel y’i gwneir ar hyn o bryd mewn perthynas ag offerynnau statudol.

Rhan 3 – Diddymiadau I Ddeddfwriaeth Cymru

Adran 4 – Diddymiadau a diwygiadau cysylltiedigAtodlen 1 – Diddymiadau a diwygiadau cysylltiedig

120.Mae Atodlen 1 (a gyflwynir gan adran 4) yn cynnwys diddymiadau o ddeddfiadau amrywiol a diwygiadau iddynt.

Rhan 1 – Byrddau Datblygu Gwledig

121.Nod Rhan 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1967 (‘Deddf 1967’) oedd hyrwyddo defnydd gwell o diroedd mynydd, a rhoddodd bwerau i Weinidogion i sefydlu Byrddau Datblygu Gwledig a allai lunio rhaglenni i ymdrin â’r “special problems … of rural areas of hills and uplands, and the special needs of such areas” (adran 45(1)). Mae Atodlen 5 i Ddeddf 1967 yn rhagnodi’r mecanwaith ar gyfer sefydlu Bwrdd o’r fath a’i gyfansoddiad. Mae swyddogaethau sefydlu Byrddau Datblygu Gwledig o ran Cymru bellach wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

122.Nid oes Byrddau Datblygu Gwledig wedi eu sefydlu o ran Cymru o dan Ddeddf 1967.

123.Mae paragraff 1 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf yn diwygio Deddf 1967 er mwyn datgymhwyso darpariaethau yn Rhan 3 o’r Ddeddf honno o ran Cymru, gan gynnwys diwygio’r darpariaethau dehongli perthnasol i hepgor cyfeiriadau at Gymru na fyddai eu hangen mwyach. Mae Atodlen 5 i Ddeddf 1967 yn cael ei chyflwyno gan adran 45(5) o’r Ddeddf honno. Gan na fydd yn bosibl sefydlu Bwrdd Datblygu Gwledig ar gyfer ardal yng Nghymru mwyach, ni fydd Atodlen 5 yn gymwys yng Nghymru.

124.Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ac i Atodlen 3A i Ddeddf 2006.

Rhan 2 – Ardaloedd parthau menter

125.Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (‘Deddf 1980’) bwerau i sefydlu ‘parthau menter’ i weld sut y gallai llacio rheolaeth gynllunio, esemptio rhag ardrethi annomestig a chymhellion cyllidol penodol eraill helpu i adfywio ardaloedd trefol adfeiliedig a diffaith. Yn y degawdau canlynol, gwnaed tua 35 o orchmynion, gan ddynodi rhyngddynt ychydig dros 100 parth. O’r rheini, dynododd pedwar gorchymyn 15 parth yng Nghymru.(3)

126.Mae paragraff 4 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf yn diwygio Atodlen 32 i Ddeddf 1980 er mwyn datgymhwyso’r darpariaethau hyn o ran Cymru. Effaith hyn yw dileu pŵer Gweinidogion Cymru i ddynodi parthau menter. Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

127.Darparwyd ar gyfer ail fath o barth menter wedyn yn Neddf Lwfansau Cyfalaf 2001, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid 2012; nod y rhain yw annog twf economaidd a buddsoddiad. Mae wyth parth menter yn weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd, pob un yn arbenigo mewn sector busnes penodol. Nid yw’r Ddeddf yn effeithio ar yr ail fath hwn o barth menter.

Rhan 3 – Ymddiriedolaethau gweithredu tai

128.Mae Rhan 3 o Ddeddf Tai 1988 (‘Deddf 1988’) yn gwneud darpariaeth ynghylch ‘ardaloedd ymddiriedolaethau gweithredu tai’. Mae’r rhain yn ardaloedd lle y mae Gweinidogion Cymru (neu yn Lloegr, yr Ysgrifennydd Gwladol) yn ystyried y gallai amodau byw trigolion lleol, yr amodau cymdeithasol a’r amgylchedd cyffredinol gael eu gwella drwy sefydlu ymddiriedolaeth gweithredu tai. Rhwng 1991 a 1994, dynodwyd chwe ardal yn ardaloedd ymddiriedolaethau gweithredu tai, a phob un ohonynt yn Lloegr. Nid oes yr un ardal ymddiriedolaeth gweithredu tai wedi ei dynodi yng Nghymru.

129.Gellid dynodi ymddiriedolaeth o’r fath yn awdurdod cynllunio lleol yn ei hardal (o dan adran 8 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990). Ni ddynodwyd yr un o’r ymddiriedolaethau yn awdurdod cynllunio lleol. Cafodd pob un o’r ymddiriedolaethau a sefydlwyd ar gyfer ardaloedd yn Lloegr eu dirwyn i ben ar wahanol ddyddiadau rhwng 1999 a 2005.

130.Mae paragraff 7 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf yn diwygio Rhan 3 o Ddeddf 1988 fel na fydd yn gymwys o ran Cymru. Bydd hyn yn golygu na ellir sefydlu ymddiriedolaethau gweithredu tai ond ar gyfer ardaloedd yn Lloegr, ac na allant ond arfer swyddogaethau mewn ardaloedd yn Lloegr. O ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig i Ddeddf 1988, mae angen diwygiadau i Ddeddfau amrywiol eraill.

Rhan 4 – Cynlluniau lleol, cynlluniau strwythur a chynlluniau datblygu unedol

131.Mae’r system gynllunio yng Nghymru yn un ’sy’n cael ei harwain gan gynlluniau datblygu’, sy’n golygu mai cynlluniau datblygu yw’r man cychwyn wrth wneud penderfyniadau cynllunio. Pan fydd cynllun datblygu wedi cael ei fabwysiadu, bydd penderfyniadau ar geisiadau cynllunio’n cael eu gwneud yn unol â’r cynllun datblygu, oni bai bod ystyriaethau perthnasol eraill yn nodi fel arall. Mae’r system cynlluniau datblygu yng Nghymru yn cynnwys tair haen gyda chynlluniau’n cael eu llunio ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.

132.Arferai’r ddeddfwriaeth sylfaenol ynghylch llunio cynlluniau datblygu fod yn Rhan 2 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (‘Deddf 1990’). Roedd Rhan 2 yn darparu, yn gyffredinol, y dylai fod cynllun strwythur (wedi ei lunio fel arfer gan y cyngor ar gyfer sir gyfan) a chyfres o gynlluniau lleol (pob un wedi ei lunio gan y cyngor dosbarth perthnasol, gan gwmpasu’r cyfan neu ran o’i ardal) ar gyfer pob ardal. Mewn achosion lle roedd system un haen o gynghorau bwrdeistref, darparai Deddf 1990 hefyd ar gyfer cynlluniau datblygu unedol (CDUau). Pan gyflwynwyd y system un haen bresennol o lywodraeth leol yng Nghymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (‘Deddf 1994’), roedd yn ofynnol i’r awdurdodau unedol newydd lunio CDUau ar gyfer eu hardaloedd.

133.Wedi hynny, cyflwynodd Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (‘Deddf 2004’) Gynllun Gofodol Cymru, sef cynllun newydd ar gyfer Cymru gyfan, a oedd i’w lunio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd). Cyflwynodd ofyniad hefyd i awdurdodau cynllunio lleol lunio cynlluniau datblygu lleol (CDLlau) a fyddai, o’u mabwysiadu, yn cymryd lle cynlluniau a fabwysiadwyd o dan y systemau blaenorol.

134.Diwygiodd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 Ddeddf 2004 drwy gyflwyno Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru (FfDC), a ddaeth yn rhan o’r cynllun datblygu gan gymryd lle Cynllun Gofodol Cymru (o 24 Chwefror 2021). Roedd hefyd yn darparu ar gyfer llunio cynlluniau datblygu strategol (CDSau) ar lefel ranbarthol, gyda Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig eu llunio.

135.Yn ei hanfod felly, bu’r dilyniant dros amser fel a ganlyn: cynlluniau lleol/cynlluniau strwythur (hyd at 1996); CDUau (1996-2005); CDLlau, CDSau ac FfDC (o 2005 ymlaen). Bob tro y mae’r system wedi newid mae’r ddeddfwriaeth ddiwygio wedi darparu ar gyfer trefniadau trosiannol. Roedd y trefniadau hyn yn rhoi cyfle i awdurdodau sydd wrthi’n llunio cynlluniau o dan un system i barhau i wneud hynny, gan symud ymlaen i’r system newydd pan fydd yr hen gynllun wedi ei gwblhau. Pan ddaeth Deddf 2004 i rym, roedd rhai awdurdodau yng Nghymru yn dal i fod â chynlluniau lleol neu gynlluniau strwythur a berthynai i’r system a fodolai cyn 1996 yn ogystal â rhai oedd â CDUau a berthynai i’r system a fodolai cyn 2004.

136.Diwygiodd Deddf 1994 Ran 2 o Ddeddf 1990 i gymhwyso’r darpariaethau ynghylch CDUau i Gymru, ac i ddarparu ar gyfer trefniadau trosiannol ynghylch statws cynlluniau lleol a chynlluniau strwythur hyd nes y bo awdurdodau wedi mabwysiadu CDUau. Mabwysiadwyd yr CDU olaf yng Nghymru yn 2011, ac felly mae’r darpariaethau trosiannol bellach wedi eu disbyddu a gellir eu diddymu. Mae’r Ddeddf felly yn hepgor:

a.

Rhan 1A o Atodlen 2 i Ddeddf 1990: a

b.

adran 20(2) a (3)(b) ac (c) o Ddeddf 1994 ynghyd â Rhannau 2 a 3 o Atodlen 5 a pharagraffau 16 a 17 o Atodlen 17 iddi.

137.Dygwyd darpariaethau Deddf 2004 i rym gan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005,(4) gan roi effaith i CDLlau a chan ddiddymu Rhan 2 o Ddeddf 1990. Roedd Gorchymyn 2005 yn cynnwys darpariaethau a oedd yn diogelu effaith cynlluniau presennol yn ystod y cyfnod trosiannol cyn i bob awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu ei CDLl. Gwnaeth adran 204 o Ddeddf Cynllunio 2008 ddarpariaethau trosiannol pellach i sicrhau bod y weithdrefn hysbysiad malltod yn parhau i fod yn gymwys i dir yr oedd cynlluniau a fabwysiadwyd o dan y systemau blaenorol yn effeithio arno. I’r graddau yr oeddent yn gymwys i ardaloedd a oedd yn dal i fod â chynlluniau lleol neu gynlluniau strwythur pan ddaeth Deddf 2004 i rym, nid oes angen y darpariaethau trosiannol hyn mwyach; mae’r Ddeddf yn diwygio Gorchymyn 2005 ac adran 204 o Ddeddf Cynllunio 2008 i’w dileu.

138.Mae’r Ddeddf hefyd yn hepgor adran 186 o Ddeddf Cynllunio 2008 (ym mharagraff 20(2) o’r Atodlen hon i’r Ddeddf), nad yw erioed wedi ei dwyn i rym. Mae’n ymwneud â phwerau’r Uchel Lys mewn perthynas â heriau cyfreithiol i CDUau a fabwysiadwyd o dan Ran 2 o Ddeddf 1990. Byddai rhaid i heriau cyfreithiol i CDUau fod wedi eu dwyn o fewn ychydig wythnosau ar ôl eu mabwysiadu, roedd unrhyw obaith o her o’r fath wedi diflannu erbyn 2012.

Rhan 5 – Polisïau ynni mewn cynlluniau datblygu

139.Nod Deddf Cynllunio ac Ynni 2008 (‘Deddf 2008’), Bil Aelodau Preifat yn wreiddiol, oedd annog microgynhyrchu ac adeiladau sy’n defnyddio ynni yn fwy effeithlon, yn hytrach na chyflwyno gofyniad ar gyrff i weithredu rhwymedigaethau newydd. Ystyriodd Comisiwn y Gyfraith a ddylid nodi darpariaethau o’r fath mewn canllawiau “am eu bod yn annog a chaniatáu cynnwys polisïau o’r fath, yn hytrach na gosod unrhyw rwymedigaethau llymach ar awdurdodau cynllunio.”(5)

140.Mae Polisi Cynllunio Cymru (sy’n amlinellu polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru) yn nodi bod y materion hyn yn ystyriaethau penodol wrth lunio cynlluniau datblygu strategol a chynlluniau datblygu lleol. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag awdurdodau cynllunio o ran:

a.

pennu polisïau i ddatblygiadau ddefnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy a charbon isel lleol;

b.

cynnwys polisïau i bennu safonau effeithlonrwydd ynni sy’n rhagori ar y gofynion mewn rheoliadau adeiladu ar gyfer safleoedd datblygu strategol.(6)

141.Ychydig o wahaniaeth sydd o safbwynt effaith polisi rhwng nodau Deddf 2008 a’r hyn sydd wedi ei nodi ym Mholisi Cynllunio Cymru. Fodd bynnag, oherwydd bod rhaid i awdurdodau cynllunio a chyd-bwyllgorau corfforedig roi sylw i’r polisïau ym Mholisi Cynllunio Cymru, mae hyn yn gosod mwy o ofyniad arnynt na Deddf 2008 drwy ei gwneud yn ofynnol iddynt roi sylw i’r materion hyn wrth lunio eu cynlluniau datblygu lleol a’u cynlluniau datblygu strategol.

142.Mae Rhan 5 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf yn diwygio Deddf 2008 fel na fydd yn gymwys mwyach o ran Cymru ac mae’n gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Rhan 6 – Y drosedd o symud ymaith bridd heb gydsyniad

143.Bwriedid i Ddeddf Tir Amaethyddol (Symud Ymaith Bridd Arwyneb) 1953 (‘Deddf 1953’) ymdrin â’r broblem bod uwchbridd yn cael ei dynnu ymaith oddi ar dir amaethyddol, er budd masnachol, gan adael tir na ellir ei drin ymhellach. O dan adran 1, mae’n drosedd tynnu ymaith fwy na phum llathen giwbig (sef 3.822 metr ciwbig) o bridd o dir amaethyddol mewn unrhyw gyfnod o dri mis gyda’r bwriad o’i werthu, ond dim ond pan fo gweithgaredd o’r fath yn gyfystyr â “datblygiad” o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (‘Deddf 1990’)(7) ac na chafwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer. Gellir erlyn person sy’n cyflawni trosedd o dan Ddeddf 1953 ac, ar euogfarn ddiannod, ei gosbi drwy ddirwy o hyd at Lefel 3 neu hyd yn oed drwy gyfnod o garchar(8) (gweler adran 2), ond dim ond gyda chydsyniad y Twrnai Cyffredinol neu’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (gweler adran 3) y gellir dwyn erlyniad.(9)

144.Pan fo person yn ymgymryd â datblygiad heb ganiatâd cynllunio, gall yr awdurdod cynllunio perthnasol ymdrin â hyn drwy gymryd camau gorfodi o dan Ddeddf 1990. Gall torri camau gorfodi arwain at erlyniad o dan Ddeddf 1990 a gall euogfarn arwain at ddirwy ddiderfyn, ond nid cyfnod o garchar. Cafodd y pwerau i atal datblygu anawdurdodedig yn gyflym eu cyflwyno’n wreiddiol yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1968, gan gael effaith o 1 Ionawr 1969. Deellir mai ychydig iawn o erlyniadau, os o gwbl, sydd wedi eu dwyn o dan Ddeddf 1953 ers 1969. Yn ddi-os, yr arfer heddiw yw mynd i’r afael ag achosion o dorri’r gofynion ar gyfer caniatâd cynllunio drwy Ddeddf 1990.

145.O ganlyniad, i’r graddau y mae’n gymwys yng Nghymru, nid yw Deddf 1953 o ddefnyddioldeb ymarferol mwyach. Mae’r Ddeddf felly yn datgymhwyso Deddf 1953 mewn perthynas â thir yng Nghymru.

Rhan 7 – Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011

146.Mae Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (‘Mesur 2011’) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud systemau llethu tân awtomatig – y cyfeirir atynt yn gyffredin fel systemau chwistrellu – yn orfodol ym mhob preswylfa newydd a phreswylfa wedi ei throsi.

147.Yn dilyn ymgynghoriad yn 2012 ar weithredu Mesur 2011 a throsglwyddo’r system rheoli adeiladu (yn enwedig y Rheoliadau Adeiladu) i Weinidogion Cymru, dim ond adran 1 o Fesur 2011 a ddygwyd i rym.(10) Mae’r ffaith nad yw darpariaethau gorfodi’r Mesur wedi eu dwyn i rym yn golygu, fel y mae pethau ar hyn o bryd, nad oes iddo effaith ymarferol. Dim ond i raddau cyfyngedig y cafodd adran 1 ei dwyn i rym, ac nid yw’n gymwys i amrywiaeth o adeiladau, gan gynnwys adeiladau rhestredig, adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth, ac adeiladau gydag amser defnyddio a gynlluniwyd o ddwy flynedd neu lai.(11)

148.Mae adran 1(3)(b) o Fesur 2011 yn nodi nad yw’n gymwys “os yw rheoliadau adeiladu sy’n gosod gofynion o ran darparu systemau llethu tân awtomatig yn gymwys i’r gwaith hwnnw neu os y byddai’n gymwys oni bai am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf [Adeiladu] 1984 sy’n hepgor gofynion o’r fath.” Mae rheoliad 37A o Reoliadau Adeiladu 2010 yn ei gwneud yn ofynnol darparu systemau llethu tân awtomatig mewn adeiladau penodol ac mae adran 6 o Fesur 2011 yn nodi’r preswylfeydd y mae’n gymwys iddynt.

149.Yn ymarferol, mae’r gofynion ynghylch gosod systemau llethu tân wedi eu nodi yn y Rheoliadau Adeiladu ac yn cael eu gorfodi drwyddynt. Mae paragraff 26 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf felly yn diddymu Mesur 2011 yn llawn.

Rhan 8 – Ad-drefnu llywodraeth leol

150.Mae pob un o’r 22 o gynghorau yng Nghymru yn awdurdodau unedol o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (‘Deddf 1994’) a ddiddymodd yr wyth sir a’r 37 o ddosbarthau llywodraeth leol a oedd wedi eu ffurfio ym 1974.

151.Mae’r Ddeddf yn mynd i’r afael â phedwar mater sy’n ymwneud ag ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru:

a.

Pwyllgorau gwasanaethau cymdeithasol – mae adran 101(10A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (‘Deddf 1972’), a oedd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phwyllgorau gwasanaethau cymdeithasol, yn croesgyfeirio at ddarpariaeth a ddiddymwyd gan Ddeddf Plant 2004 ac fe ddylai hithau hefyd fod wedi ei diddymu bryd hynny. Felly, mae’r Ddeddf yn hepgor adran 101(10A) o Ddeddf 1972, a’r ddarpariaeth yn Neddf 1994 a oedd yn wreiddiol yn mewnosod is-adran (10A) yn adran 101 o Ddeddf 1972.

b.

Corff Gweddilliol Cymru – sefydlodd Deddf 1994 Gorff Gweddilliol Cymru i ddal asedau awdurdodau wedi eu diddymu nad oedd modd eu trosglwyddo’n hawdd i awdurdod newydd fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru o dan Ddeddf 1994. Roedd y Corff Gweddilliol wedi cael gwared ar yr asedau hynny erbyn 1998, ac mae’r Corff ei hun wedi ei ddiddymu ers hynny,(12) felly mae’r darpariaethau hyn bellach wedi eu disbyddu. Mae paragraff 29 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf yn hepgor y darpariaethau a ddisbyddwyd yn Neddf 1994 ac mae paragraffu 30 i 37 yn hepgor cyfeiriadau at y Corff Gweddilliol yn:

i.

Deddf Rhenti 1977;

ii.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982;

iii.

Deddf Tai 1988;

iv.

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

v.

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

vi.

Deddf yr Amgylchedd 1995;

vii.

Deddf Tai 1996; ac

viii.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998.

c.

Darpariaeth drosiannol o dan Ddeddf 1994 – mae darpariaethau trosiannol sydd wedi eu disbyddu yn Neddf 1994 a diwygiad i’r darpariaethau hynny yn Neddf Llywodraeth Leol 2003 wedi eu hepgor.

d.

Cynlluniau datganoli a chydweithio – o dan Ran 3 o Ddeddf 1994 gallai prif gynghorau newydd sefydlu pwyllgorau ardal i gyflawni swyddogaethau’r cyngor drwy gyfrwng ‘cynllun datganoli’, a gallai’r Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddydau penodol mewn perthynas â threfniadau cydweithio a gwybodaeth gysylltiedig i brif gynghorau. Roedd rhaid i geisiadau am gynlluniau datganoli gael eu gwneud erbyn 1 Ionawr 1996 (a’u cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol heb fod yn hwyrach na 1 Gorffennaf 1996), a dim ond hyd at 31 Mawrth 1999 y gallai’r Ysgrifennydd Gwladol wneud cyfarwyddydau cydweithio – felly mae pob un o’r trefniadau hyn bellach wedi eu disbyddu.(13) Mae’r Ddeddf felly yn hepgor Rhan 3 o Ddeddf 1994 ac yn gwneud diwygiad canlyniadol i Ddeddf Addysg 1996.

Rhan 9 – Datganiadau o anghenion addysgol arbennig

152.Mae adran 5 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 (‘Deddf 1986’) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phersonau ag anabledd sy’n gadael addysg lawnamser pan fônt o dan bedair ar bymtheg mlwydd ac wyth mis oed ac sydd yn flaenorol wedi cael datganiad o anghenion addysgol arbennig (a oedd y system yng Nghymru, ond nid honno yw’r system mwyach) neu gynllun addysg, iechyd a gofal (sef y system yn Lloegr).

153.Nid yw adran 5 o Ddeddf 1986 yn cael unrhyw effaith o ran sylwedd yng Nghymru mwyach. Diddymodd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i bob pwrpas, o ran Cymru, y darpariaethau yn Neddf Addysg 1996 a oedd yn ymwneud â datganiadau o anghenion addysgol arbennig, a rhoi system newydd yn eu lle. Nid oes unrhyw bobl yng Nghymru sydd â datganiadau o dan Ddeddf 1996 mwyach, nac o dan systemau hŷn a nodir yn Neddfau Addysg 1981 a 1993. O ganlyniad, nid yw’r cyfeiriadau amrywiol yn adran 5 at ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig yn cael unrhyw effaith ystyrlon yng Nghymru.

154.Mae’r system asesu yn adran 5 hefyd wedi ei disodli gan ddatblygiadau cyfreithiol eraill yng Nghymru. Mae’r adran honno yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sydd wedi ei hysbysu am ymadawiad y person ag addysg lawnamser asesu angen y person am wasanaethau gan yr awdurdod o dan “y deddfiadau lles”. Mae adran 5 hefyd yn cynnwys dyletswyddau hysbysu. Yng Nghymru, ystyr “y deddfiadau lles” yw Rhannau 4 a 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘Deddf 2014’).

155.Mae Deddf 2014 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i asesu anghenion oedolion a phlant pan fo’n ymddangos y gall fod angen gofal a chymorth ar yr oedolion a’r plant hynny. Mae adran 19 o’r Ddeddf honno yn cynnwys y ddyletswydd mewn perthynas ag oedolion ac mae adran 21 yn cynnwys y ddyletswydd mewn perthynas â phlant.

156.Mae’r dyletswyddau asesu hyn yn gymwys yn ehangach na’r dyletswyddau asesu yn adran 5 o Ddeddf 1986, gan nad ydynt wedi eu cyfyngu i bersonau ag anableddau sydd wedi cael datganiad o anghenion arbennig ac sydd o dan oedran penodol. Caiff sefyllfa arbennig plant ag anableddau ei chydnabod yn benodol gan adran 21 o Ddeddf 2014, gan fod rhaid i asesiad o dan yr adran honno ddechrau â’r rhagdybiaeth bod angen gofal a chymorth ar blant ag anableddau (gweler adran 21(7)). Mae’r Cod Ymarfer sy’n ymwneud ag asesu anghenion unigolion o dan Ddeddf 2014(14) yn nodi proses ar gyfer asesu anghenion unigolion o ran gofal a chymorth a phroses adolygu ac ailasesu a fydd yn gymwys i asesiadau.

157.Pan fo asesiad o anghenion person wedi ei gynnal o dan adran 19 neu adran 21 o Ddeddf 2014, bydd Rhan 4 o’r Ddeddf honno a rheoliadau a wneir odani yn pennu’r camau nesaf. Mae Rhan 6 o Ddeddf 2014 yn ymdrin â dyletswyddau awdurdod lleol tuag at blentyn sydd yn ei ofal neu sy’n cael ei letya ganddo.

158.Mae’r Ddeddf yn diwygio adran 5 o Ddeddf 1986 i gyfyngu’n benodol ar gymhwysiad yr adran honno i Loegr ac i ddileu cyfeiriadau diangen at y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae’n gwneud diwygiadau canlyniadol cysylltiedig.

Rhan 10 – Byrddau Cynllunio Parciau Cenedlaethol

159.Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru: Arfordir Penfro (Pembrokeshire Coast), Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons) ac Eryri (Snowdonia). Mae’r rhain, a’r 10 yn Lloegr, wedi eu dynodi o dan Ran 2 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Ers i’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru gael eu dynodi gyntaf yn y 1950au, mae nifer o newidiadau wedi bod i’r trefniadau gweinyddol ar gyfer rheoli’r Parciau, gan gynnwys y rhai a wnaed gan Ddeddf Cefn Gwlad 1968, Deddf Llywodraeth Leol 1972, Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a Deddf yr Amgylchedd 1995 (‘Deddf 1995’). Cyn y newidiadau a wnaed gan Ddeddf 1995, roedd gan bob Parc Cenedlaethol yng Nghymru Bwyllgor Parc Cenedlaethol.(15) Roedd hefyd bwerau i sefydlu byrddau cydgynllunio neu fyrddau cynllunio arbennig ar gyfer Parciau Cenedlaethol,(16) ond nid oedd y pwerau hynny wedi eu defnyddio yng Nghymru.

160.Rhoddodd adran 63 o Ddeddf 1995 y pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud gorchymyn yn sefydlu awdurdod Parc Cenedlaethol lle roedd awdurdod yn bodoli eisoes ar gyfer Parc Cenedlaethol neu mewn cysylltiad â dynodi ardal yn Barc Cenedlaethol newydd. Ystyr awdurdod a oedd yn bodoli eisoes yn y cyd-destun hwn oedd bwrdd cydgynllunio, bwrdd cynllunio arbennig neu Bwyllgor Parc Cenedlaethol. Sefydlodd Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995(17) (‘Gorchymyn 1995’) awdurdodau Parciau Cenedlaethol ar gyfer y Parciau yng Nghymru, gan gael effaith o 23 Tachwedd 1995 ymlaen. Ysgwyddodd yr awdurdodau eu swyddogaethau o sylwedd, a pheidiodd y Pwyllgorau Parciau Cenedlaethol â bodoli, ar 1 Ebrill 1996.

161.Mae adran 64 o Ddeddf 1995, sy’n gymwys i Gymru yn unig, yn ymwneud yn bennaf â’r pontio o fyrddau cydgynllunio neu fyrddau cynllunio arbennig i awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Roedd is-adrannau (1) i (5) yn ymdrin â’r sefyllfa pan oedd bwrdd eisoes wedi ei sefydlu ar gyfer Parc Cenedlaethol, ond ni chawsant unrhyw effaith erioed gan na sefydlwyd byrddau o’r fath yng Nghymru erioed. Mae’r Ddeddf felly yn diddymu’r darpariaethau hyn, gan eu bod yn ddiangen.

162.Roedd adran 64(6) a (7) yn ymdrin â’r sefyllfa pan oedd camau wedi eu cymryd tuag at sefydlu bwrdd ond na chwblhawyd y gwaith, a phan oedd awdurdod Parc Cenedlaethol yn lle hynny i gael ei sefydlu cyn 31 Mawrth 1997. Mae’r Ddeddf felly yn diddymu’r is-adrannau hynny, gan y byddent wedi bod yn gymwys i bethau a wnaed yn ystod cyfnod a ddaeth i ben amser maith yn ôl ac sydd bellach wedi eu disbyddu.

163.Roedd is-adran (9) o adran 64 yn diffinio termau a ddefnyddiwyd yn is-adrannau (1) i (7), ac roedd adran 75(2) yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorchmynion o dan adran 64. Mae’r Ddeddf felly yn diddymu’r darpariaethau hyn hefyd, na fyddant yn arferadwy mwyach pan fydd y pwerau o sylwedd wedi eu diddymu.

164.Yn adran 65 o Ddeddf 1995, mae is-adran (3) yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau awdurdod Parc Cenedlaethol yn ystod unrhyw gyfnod rhwng sefydlu’r awdurdod a phan ddaw’r awdurdod yn awdurdod cynllunio lleol. Roedd is-adran (4) yn addasu is-adran (3) ar gyfer Cymru, ond dim ond mewn perthynas â phethau a wnaed cyn 1 Ebrill 1996. Mae is-adran (4) bellach wedi ei disbyddu ac mae hefyd wedi ei diddymu.

165.Mae’r diffiniad o “existing authority” yn adran 79(1) yn cynnwys cyfeiriadau at bwerau i sefydlu byrddau cydgynllunio a byrddau cynllunio arbennig ar gyfer Parciau Cenedlaethol yng Nghymru nas defnyddiwyd erioed ac nad ydynt ar gael mwyach. Mae’r Ddeddf felly yn diddymu’r darpariaethau hyn gan eu bod yn ddiangen.

166.Yn Atodlen 7 i Ddeddf 1995, mae paragraff 14(2)(b) a 14(4) yn cyfeirio at bethau a wnaed gan fwrdd cydgynllunio neu fwrdd cynllunio arbennig ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn diddymu’r darpariaethau hyn gan na chawsant effaith erioed ac na allant gael unrhyw effaith mwyach.

167.Yn Atodlen 10 i Ddeddf 1995, roedd paragraff 30 yn diwygio darpariaeth yn Atodlen 8 i Ddeddf Trydan 1989. Diwygiwyd y ddarpariaeth honno yn ogystal gan baragraff 22 o Atodlen 6 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (‘diwygiad 1994’), nad oedd mewn grym pan ddeddfwyd Deddf 1995. Roedd paragraff 30 o Atodlen 10 felly yn cynnwys diwygiadau gwahanol ar gyfer sefyllfaoedd pan oedd yn dod i rym cyn diwygiad 1994, ar ei ôl neu ar yr un pryd ag ef. Mewn gwirionedd, daeth paragraff 30 i rym cyn diwygiad 1994, felly nid oedd erioed angen y diwygiadau ar gyfer y sefyllfaoedd eraill.(18) Mae’r Ddeddf felly yn diddymu’r darpariaethau hyn, sydd wedi eu cynnwys ym mharagraff 30(4) a (5) o Atodlen 10.

168.Yn Atodlen 23 i Ddeddf 1995, darpariaethau trosiannol oedd paragraffau 7, 11 a 15 ar gyfer achosion pan oedd byrddau cydgynllunio a byrddau cynllunio arbennig wedi eu sefydlu ar gyfer Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Ni chafodd y paragraffau hynny eu dwyn i rym. Ni chododd y sefyllfa yr oeddent yn gymwys iddi, a hyd yn oed pe bai wedi codi byddai’r paragraffau bellach wedi eu disbyddu, felly mae’r Ddeddf yn eu diddymu.

Rhan 11 – Awdurdod Datblygu Cymru

169.Sefydlwyd Awdurdod Datblygu Cymru o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 ac roedd yn gyfrifol am annog datblygu busnes a buddsoddi yng Nghymru, clirio tir diffaith ac annog twf busnesau lleol. Cynyddodd Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1997 derfynau ariannol Awdurdod Datblygu Cymru.

170.Diddymwyd Awdurdod Datblygu Cymru yn 2006 a throsglwyddwyd ei swyddogaethau i Weinidogion Cymru.(19) Llywodraeth Cymru sydd bellach yn gyfrifol am gefnogi ac annog datblygu busnes a buddsoddi yng Nghymru.

171.Mae Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1997 yn ddiangen, ac felly mae paragraff 48 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf yn diddymu’r Ddeddf honno.

172.Cynyddodd Deddf Diwydiant 1979 (‘Deddf 1979’) derfynau benthyca’r Bwrdd Menter Cenedlaethol, Awdurdod Datblygu’r Alban ac Awdurdod Datblygu Cymru. Ynghyd ag Awdurdod Datblygu Cymru, mae’r ddau gorff arall wedi peidio â bodoli hefyd. Mae Deddf 1979 wedi ei diddymu eisoes i’r graddau y mae’n gymwys i’r Bwrdd Menter Cenedlaethol ac Awdurdod Datblygu’r Alban. Dim ond mewn perthynas ag Awdurdod Datblygu Cymru y mae’n parhau i fod heb ei diddymu. Gan nad yw’r corff hwn yn bodoli mwyach, nid yw Deddf 1979 yn arferadwy mwyach. Mae paragraff 46 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf felly hefyd yn diddymu Deddf 1979.

173.Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf Diwydiant 1980, a ddeddfwyd i leihau pwerau Awdurdod Datblygu Cymru, Awdurdod Datblygu’r Alban a’r Bwrdd Menter Cenedlaethol. Roedd y tri chorff hyn i beidio â dal cyfranddaliadau mewn cwmnïau, yn unol â pholisi’r Llywodraeth (bryd hynny) o grebachu’r sector cyhoeddus. Mae darpariaethau Deddf Diwydiant 1980 a ddiddymir gan y Ddeddf yn cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau eraill sydd i gyd yn ddiangen bellach.

174.Mae’r Ddeddf hefyd (ym mharagraff 49) yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (‘Deddf 1998’) mewn perthynas â diddymu Awdurdod Datblygu Cymru:

a.

yn gyntaf, drwy hepgor darpariaethau diangen o Ran 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno a oedd wedi diwygio Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975;

b.

yn ail, drwy hepgor darpariaethau a ddisbyddwyd o Ran 2 o Atodlen 14 a oedd yn diwygio deddfiadau eraill mewn perthynas ag Awdurdod Datblygu Cymru.

Rhan 12 – Bwrdd Datblygu Cymru Wledig

175.Drwy Ddeddf Datblygu Cymru Wledig 1976 (‘Deddf 1976’), y bwriad oedd hyrwyddo lles economaidd a chymdeithasol pobl mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru, yn enwedig lles y Canolbarth. Sefydlodd Deddf 1976 Fwrdd Datblygu Cymru Wledig a gymerodd drosodd waith Corfforaeth Datblygu Canolbarth Cymru a’r Comisiwn Datblygu, ymysg materion eraill.

176.Mae’r mwyafrif o ddarpariaethau Deddf 1976 wedi eu diddymu eisoes (yn bennaf gan Ddeddf 1998), gan adael adrannau 23, 26 a 35 yn unig. Peidiodd Bwrdd Datblygu Cymru Wledig â bodoli yn 1998, ac felly ystyrir bod y darpariaethau hyn sy’n weddill bellach wedi eu disbyddu. Felly, ymddengys yn briodol eu dileu o’r llyfr statud, ynghyd â’r darpariaethau yn Neddf 1998 a ddiddymodd y Bwrdd Datblygu.

177.Mae paragraff 50 o’r Atodlen felly yn diddymu Deddf 1976 (sydd â’r effaith o ddiddymu’r darpariaethau olaf sy’n weddill) ac mae paragraff 51 yn diwygio Deddf 1998 er mwyn:

a.

hepgor adrannau 129(1), 130(1) a (3) i (5), 131(2) i (4) ac adran 133, sy’n ymwneud â’r Bwrdd Datblygu yn dod i ben;

b.

diwygio adran 154 i ddileu’r cyfeiriadau diangen at adrannau 130 a 133; ac

c.

hepgor y diwygiadau sydd bellach wedi eu disbyddu a wnaed gan Ddeddf 1998 i Ddeddf y Comisiynydd Seneddol 1967 a Deddf 1976.

Rhan 13 – Awdurdod Tir Cymru

178.Sefydlwyd Awdurdod Tir Cymru yn 1976 o dan Ddeddf Tir Comin 1975. Ei rôl oedd prynu tir ar ran Llywodraeth y DU ar gyfer datblygu diwydiannol neu fathau eraill o ddatblygu er mwyn annog twf economaidd. Trosglwyddwyd ei swyddogaethau ar gyfer Cymru i Awdurdod Datblygu Cymru yn 1998 ac yna fe’i diddymwyd. Trosglwyddwyd swyddogaethau Awdurdod Datblygu Cymru wedyn i Weinidogion Cymru ar ôl i Awdurdod Datblygu Cymru gael ei ddiddymu.

179.Cafodd swyddogaethau Awdurdod Tir Cymru eu trosglwyddo, a pheidiodd â gweithredu, drwy Ddeddf 1998. Nid oes angen rhai o’r darpariaethau yn Neddf 1998 mwyach. Felly, mae paragraff 52 o Atodlen 1 yn diwygio’r Ddeddf honno oherwydd:

a.

daeth adran 134 â gweithrediad yr Awdurdod Tir i ben a chan fod hynny bellach wedi digwydd mae’r ddarpariaeth hon wedi ei disbyddu ac mae felly wedi ei hepgor;

b.

mae adran 135(1) yn disgrifio cysylltiad rhwng adrannau 134 a 135. Mae’r Ddeddf yn hepgor hyn oherwydd y gallai fod yn gamarweiniol unwaith y mae adran 134 wedi ei hepgor;

c.

roedd adran 136 yn gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddo staff, eiddo, etc. o Awdurdod Tir Cymru i Awdurdod Datblygu Cymru. Yn awr bod Awdurdod Tir Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru ill dau wedi peidio â bodoli, mae’r rhan fwyaf o’r adran wedi ei disbyddu. Mae’r Ddeddf felly yn hepgor adran 136(1) a (3) i (5). Mae adran 136(2) wedi ei chadw gan ei bod yn darparu cymorth o ran dangos tystiolaeth o drosglwyddiadau eiddo;

d.

mae adran 137 yn ymdrin ag arbedion a darpariaethau trosiannol. Mae’r croesgyfeiriad at adran 134 yn is-adran (1) wedi ei hepgor gan fod y Ddeddf yn diddymu adran 134, ac mae is-adrannau (2) i (4) yn ddarpariaethau trosiannol a ddisbyddwyd y gellir eu hepgor hefyd bellach;

e.

roedd adran 139 yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol i gyfarwyddo bod yr Awdurdod Tir yn peidio â bodoli. Mae’r pŵer hwn wedi ei arfer(20) ac felly mae’r adran hon wedi ei disbyddu. Mae’r Ddeddf yn hepgor yr adran hon; ac

f.

arferodd yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer o dan adran 139 (Diddymu etc.) i gyfarwyddo bod Awdurdod Tir Cymru yn peidio â bodoli felly mae’r adran hon wedi ei disbyddu ac mae wedi ei hepgor. Mae’r cyfeiriadau at adran 139(3) yn adran 154 o Ddeddf 1998 (sy’n gwneud darpariaeth ynghylch sut y caniateir arfer gorchmynion a chyfarwyddydau o dan y Ddeddf) hefyd wedi eu hepgor, yn ogystal â chyfeiriadau at bwerau yn adran 136(4).

Rhan 14 – Diwygio Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

180.Yn gyffredinol, rheolir rhywogaethau estron goresgynnol gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (‘Deddf 1981’). Mae Atodlen 9 i Ddeddf 1981 yn rhestru rhywogaethau estron goresgynnol penodol o blanhigion ac anifeiliaid sydd wedi ymsefydlu yn y gwyllt ym Mhrydain Fawr, ond y mae’r gyfraith yn ceisio eu hatal rhag lledaenu ymhellach. Mae adran 14(1) o Ddeddf 1981 yn ei gwneud yn drosedd i ryddhau neu i ganiatáu i ddianc i’r gwyllt unrhyw anifail nad yw’n breswylydd fel arfer ym Mhrydain Fawr ac nad yw’n ymwelydd rheolaidd â Phrydain Fawr mewn cyflwr gwyllt, neu sydd wedi ei restru yn Rhan 1, 1A neu 1B o Atodlen 9 i Ddeddf 1981. Mae hefyd yn drosedd o dan adran 14(2) i blannu neu i beri tyfu fel arall yn y gwyllt unrhyw blanhigyn a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 1981.

181.Mae pwerau ychwanegol ar gael o dan Reoliad Rhywogaethau Estron Goresgynnol 1143/2014 (y ’rheoliad a ddargedwir’, h.y. fersiwn cyfraith yr UE a ddargedwir o Reoliad (EU) Rhif 1143/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor o 22 Hydref 2014 ar atal a rheoli cyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol) a Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 (O.S. 2019/527) (‘Gorchymyn 2019’) i helpu i reoli rhywogaethau goresgynnol yr ystyrir eu bod yn peri risg uwch (a elwir yn “rhywogaethau o bryder i’r Undeb” o dan Reoliad yr UE neu’n “rhywogaethau o bryder arbennig” o dan y rheoliad a ddargedwir).

182.Mae’r rheoliad a ddargedwir yn gosod cyfyngiadau llym ar unrhyw beth yn y rhestr o rywogaethau o bryder arbennig. Mae’r rhain yn rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion y mae eu heffeithiau niweidiol posibl ledled Prydain Fawr yn golygu bod angen gweithredu ar y cyd. Mae’r cyfyngiadau ar y rhywogaethau hyn yn golygu na chaniateir yn fwriadol eu mewnforio, eu cadw, eu bridio, eu cludo, eu gwerthu na’u rhyddhau i’r amgylchedd. Mae Gorchymyn 2019 yn darparu ar gyfer y gyfundrefn orfodi ar gyfer y rheoliad a ddargedwir.

183.Cafodd rhai rhywogaethau estron goresgynnol a oedd yn cael eu rheoli gynt o dan Ddeddf 1981 eu dileu o Atodlen 9 yn 2019 i gael eu rheoleiddio o dan y Rheoliad Rhywogaethau Estron Goresgynnol. Roedd hyn at ddibenion cysondeb, gan sicrhau na fyddai troseddau tebyg yn gorgyffwrdd a chan leihau’r posibilrwydd o ddryswch ymhlith defnyddwyr y ddeddfwriaeth. Roedd Atodlen 4 i Orchymyn 2019 yn cynnwys darpariaeth i ddileu rhywogaethau o Atodlen 9 i Ddeddf 1981 sydd hefyd yn rhywogaethau o bryder arbennig. Cafodd y troseddau yn adran 14 o Ddeddf 1981 sy’n ymwneud â rhyddhau’r rhywogaethau hyn neu ganiatáu iddynt ddianc i’r gwyllt eu hailadrodd yng Ngorchymyn 2019 i sicrhau na fyddai llai o ddiogelwch.

184.Ym mis Gorffennaf 2019 diweddarodd Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2019/1262 y rhestr o rywogaethau o bryder i’r Undeb, gan gynnwys ychwanegu tair rhywogaeth sydd hefyd wedi eu rhestru yn Atodlen 9 i Ddeddf 1981 (sef llyngyren ledog Seland Newydd (arthurdendyus triangulatus, a elwir hefyd yn artiposthia triangulata), swilyn tagell-goch (lepomis gibbosus) a salfinia enfawr (salvinia molesta)).

185.Yn 2021 cyflwynodd Defra Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 9) (Lloegr) 2021 (O.S. 2021/236) (‘Gorchymyn 2021’) i ddileu’r tair rhywogaeth hyn o Atodlen 9 i Ddeddf 1981 o ran Lloegr, fel eu bod ond yn cael eu rheoleiddio o dan y Rheoliad Rhywogaethau Estron Goresgynnol. Nid oes unrhyw ddarpariaeth dacluso debyg wedi ei gwneud o ran Cymru hyd yma, sy’n golygu bod y rhywogaethau hyn wedi eu rhestru yn Atodlen 9 i Ddeddf 1981 ac yn cael eu rheoleiddio gan y Rheoliad Rhywogaethau Estron Goresgynnol.

186.Mae paragraff 53 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf bellach yn diwygio Atodlen 9 i Ddeddf 1981 i ddileu’r tair rhywogaeth o ran Cymru.

Rhan 15 – Hawliau tramwy cyhoeddus sydd heb eu cofnodi

187.Cafodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (‘Deddf 2000’) ei deddfu, yn rhannol, i wella mynediad cyhoeddus i gefn gwlad agored a thir comin cofrestredig wrth gydnabod buddiannau dilys y rhai sy’n berchen ar y tir o dan sylw ac yn ei reoli, gan gynnwys drwy ddiwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â hawliau tramwy.

188.Nid yw adrannau 53 i 56 o Ddeddf 2000 erioed wedi eu cychwyn gan Weinidogion Cymru ac felly nid ydynt mewn grym o ran Cymru. Maent yn rhagnodi dyddiad terfynol (1 Ionawr 2026) ar gyfer cofnodi llwybrau troed a llwybrau ceffylau a grëwyd cyn 1949 (gyda rhai eithriadau) mewn mapiau diffiniol.(21) Mae’r darpariaethau’n darparu y byddai hawliau tramwy cyhoeddus dros lwybrau troed a llwybrau ceffylau o’r fath nad ydynt wedi eu cofnodi erbyn y dyddiad terfynol yn cael eu diddymu. Mae adran 56 o Ddeddf 2000 yn darparu y gellir estyn y dyddiad terfynol o ran Cymru drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Nid oes unrhyw reoliadau o’r fath wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru gan nad yw adrannau 53 i 56 erioed wedi eu dwyn i rym.

189.Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (‘Deddf 1981’) yn ei gwneud yn ofynnol, ymhlith pethau eraill, i fapiau a datganiadau diffiniol gael eu hadolygu’n barhaus. Caiff yr awdurdod arolygu ar gyfer ardal wneud, drwy orchymyn, unrhyw addasiadau i fap a datganiad diffiniol y mae’n ystyried eu bod yn ofynnol. Pe bai paragraff 4 o Atodlen 5 i Ddeddf 2000 mewn grym byddai’n mewnosod adran newydd 54A yn Neddf 1981, a byddai’r adran honno’n atal awdurdod arolygu rhag gwneud gorchymyn ar ôl y dyddiad terfynol (1 Ionawr 2026) a fyddai’n addasu map a datganiad diffiniol at ddiben cofnodi cilffordd sy’n agored i bob traffig (a elwir yn “BOAT”), ac eithrio pan fo’r BOAT wedi ei gofnodi yn lle unrhyw ffordd arall sydd eisoes wedi ei chofnodi yn y map a’r datganiad. Gan nad yw paragraff 4 o Atodlen 5 i Ddeddf 2000 wedi ei ddwyn i rym o ran Cymru, nid yw adran newydd 54A o Ddeddf 1981 mewn grym ychwaith. Felly nid oes dyddiad terfynol i awdurdodau arolygu i wneud gorchmynion ar gyfer cynnwys BOATau mewn mapiau a datganiadau diffiniol.

190.Ers 2001 mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithredu darpariaethau o dan Ddeddf 2000, ond mae darpariaethau penodol nad ydynt wedi eu gweithredu eto, yn enwedig y rhai nad ydynt yn berthnasol mwyach neu nad ydynt yn cael eu hystyried yn gydnaws â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynediad. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn angenrheidiol mwyach neu sy’n ddwys o ran adnoddau ar gyfer awdurdodau lleol.

191.Mae paragraff 54 o’r Atodlen hon felly’n diwygio adrannau 53, 54, 55 a 56 o Ddeddf 2000, fel y bydd y darpariaethau hynny’n gymwys i dir yn Lloegr yn unig. Felly, ni fydd dyddiad terfynol erbyn pryd y mae rhaid cynnwys llwybrau troed hanesyddol a llwybrau ceffylau hanesyddol yng Nghymru mewn mapiau diffiniol, nac ar gyfer dileu hawliau tramwy penodol yng Nghymru nad ydynt wedi eu hawlio erbyn y dyddiad terfynol. Dyma’r sefyllfa bresennol yn y gyfraith (gan nad yw darpariaethau Deddf 2000 wedi eu cychwyn) ac mae’r newid a wneir gan y Ddeddf hon yn dileu’r posibilrwydd y bydd y sefyllfa bresennol yn newid heb wneud darpariaeth ddeddfwriaethol newydd.

192.Mae paragraff 55 o’r Atodlen hon yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 5 i Ddeddf 2000, fel y byddai adran newydd 54A o Ddeddf 1981 (os caiff ei dwyn i rym) yn gymwys i dir yn Lloegr yn unig. Felly, ni fydd dyddiad terfynol erbyn pryd y mae rhaid cynnwys BOATau yng Nghymru mewn mapiau a datganiadau diffiniol.

Rhan 16 – Diwygiadau amrywiol sy’n ymwneud â Deddf Llywodraeth Cymru 1998

193.Darparodd Deddf 1998 ar gyfer sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn wahanol i’r trefniadau datganoli a roddwyd ar waith ar yr un pryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid oedd Deddf 1998 yn darparu ar gyfer gwahanu’r ddeddfwrfa a’r weithrediaeth. Yn hytrach, sefydlwyd y Cynulliad Cenedlaethol fel un corff corfforedig, a oedd yn arfer ei swyddogaethau ar ran y Goron. Golygai hyn mai un sefydliad, y Cynulliad Cenedlaethol, oedd yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau deddfwriaethol a gweithredol.

194.Ysgwyddodd y Cynulliad y pwerau a’r dyletswyddau statudol yr oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi eu harfer yn y gorffennol. Gwnaed darpariaeth i Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor drosglwyddo’r cyfrifoldebau gweithredol hyn gan fwyaf i’r Cynulliad a rhoddodd Deddfau Seneddol dilynol bwerau ychwanegol i’r Cynulliad.

195.Ni allai’r Cynulliad ond gwneud is-ddeddfwriaeth, fel gorchmynion a rheoliadau, mewn meysydd datganoledig. Ni allai wneud deddfwriaeth sylfaenol i Gymru. Senedd y DU oedd yn gyfrifol am hynny o hyd mewn meysydd datganoledig a meysydd a gadwyd yn ôl.

196.Ym mis Mehefin 2005, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Bapur Gwyn, Trefn Lywodraethu Well i Gymru,(22) a oedd yn cynnwys cynigion i wahanu’n ffurfiol ganghennau gweithredol a deddfwriaethol y Cynulliad, diwygio’r trefniadau etholiadol presennol a chynyddu pwerau deddfu’r Cynulliad. Rhoddodd Deddf 2006 effaith i’r amcanion polisi eang yng nghynigion y Papur Gwyn. Er iddi ddiddymu’r rhan fwyaf o Ddeddf 1998, roedd darpariaethau penodol yn parhau i fod mewn grym.

197.Fel y nodir mewn mannau eraill yn y Nodiadau Esboniadol hyn, mae’r Ddeddf yn gwneud nifer o newidiadau i’r darpariaethau sy’n weddill o Ddeddf 1998. Mae Rhan 16 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau amrywiol i Ddeddf 1998 i ddileu cyfeiriadau at gyrff darfodedig, dileu darpariaethau trosiannol a ddisbyddwyd, diweddaru cyfeiriadau penodol at gyrff eraill a dileu diwygiadau penodol a wnaed gan Ddeddf 1998 i ddeddfiadau eraill gan nad oes angen y rhain mwyach o ganlyniad i ddiddymiadau ac amnewidiadau gan Ddeddfau diweddarach. Yn benodol:

a.

Diwygio cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru:

i.

mae adran 28 o Ddeddf 1998 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i orchymyn trosglwyddo un neu ragor o’r swyddogaethau sydd gan gyrff a restrir yn Atodlen 4 i Ddeddf 1998. Mae adran 28 wedi ei diwygio felly i ddileu cyfeiriad at Ran 2 o Atodlen 4, oherwydd y darparwyd ar gyfer pwyllgorau cynghori i Gymru gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a ddiddymwyd o 1 Mawrth 2007 ymlaen. Mae Rhan 2 o Atodlen 4 ei hun hefyd wedi ei hepgor, a hynny am yr un rheswm.

ii.

Mae Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 1998 wedi ei diwygio i hepgor cyrff cyhoeddus nad ydynt yn bodoli mwyach neu, yn achos y cyfeiriad at Gyngor Gofal Cymru, i adlewyrchu enw newydd y corff hwnnw, sef Gofal Cymdeithasol Cymru.(23)

b.

Mae Atodlen 10 i Ddeddf 1998 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993. Mae’r rhan fwyaf o’r diwygiadau hyn wedi eu disodli, a bydd y Ddeddf yn eu hepgor.

c.

Mae Atodlen 12 i Ddeddf 1998 yn ymdrin â mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004:

i.

mae’r diwygiad i baragraff 17 gan y Ddeddf yn hepgor darpariaeth sy’n diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1974 oherwydd bod y ddarpariaeth ddiwygiedig yn y Ddeddf honno wedi ei diddymu gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005;

ii.

cafodd y geiriau a fewnosodwyd gan baragraff 22 yn adran 134(3) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 eu hamnewid gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, ac felly mae paragraffau 21 a 22 wedi eu hepgor;

iii.

yn yr un modd, cafodd y geiriau a fewnosodwyd gan baragraff 36(b) eu hamnewid gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a gellir yn awr eu hepgor.

d.

Mae Atodlen 16 i Ddeddf 1998 yn ymdrin â diwygiadau sy’n codi o ganlyniad i ddiddymu Tai Cymru. Mae’r Ddeddf yn hepgor:

i.

paragraff 1 gan ei fod yn diwygio Deddf Cymdeithasau Cyfeillgar a Diwydiannol a Darbodus 1968 a ddiddymwyd gan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014;

ii.

paragraff 12 gan ei fod yn diwygio adran 157(4) o Ddeddf Tai 1985 ond hepgorwyd yr is-adran hon yn rhinwedd Deddf Tai 2004;

iii.

paragraffau 56 a 57 gan eu bod yn diwygio Deddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988. Diddymwyd darpariaethau perthnasol Deddf 1988 gan Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010;

iv.

paragraff 68 gan ei fod yn diwygio Deddf Tai 1988 ond hepgorwyd y ddarpariaeth berthnasol gan Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018;

v.

paragraff 84 gan ei fod yn diwygio adran 9 o Ddeddf Tai 1996 ond amnewidiwyd yr adran honno gan Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018;

vi.

paragraff 96 gan ei fod yn diwygio darpariaethau amrywiol yn Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1996, sydd ers hynny wedi eu hamnewid neu eu diddymu;

vii.

paragraffau 98 i 100 gan eu bod yn diwygio Deddf y Comisiwn Archwilio 1998. Diddymwyd y Ddeddf honno gan Ddeddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014.

198.Mae paragraff 57 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf hefyd yn diddymu paragraffau penodol yn Atodlen 10 i Ddeddf 2006. Roedd y paragraffau hynny’n diwygio Deddf 1998 i ddarparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau penodol mewn perthynas â choedwigaeth a’r amgylchedd o’r Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd ar y pryd) i Weinidogion Cymru. Daeth y swyddogaethau hynny i ben pan gafodd Corff Adnoddau Naturiol Cymru ei greu, a diddymwyd darpariaethau sylfaenol Deddf 1998.(24) Felly mae’r darpariaethau sy’n cael eu hepgor gan y Ddeddf wedi eu disbyddu.

Rhan 17 – Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Cymru 2006

199.O dan Ddeddf 2006, trosglwyddwyd pwerau a swyddogaethau’r Cynulliad, gan gynnwys y pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, i Weinidogion Cymru, a ddaeth yn atebol i’r Cynulliad.

200.Creodd Deddf 2006 system ar gyfer rhoi’r gallu i’r Cynulliad i basio Mesurau Cynulliad mewn 20 o feysydd diffiniedig drwy Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, yr oedd angen cydsyniad dau Dŷ Senedd y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar eu cyfer.

201.Rhoddodd hefyd y pŵer i’r Cynulliad i wneud Deddfau, yn amodol ar refferendwm. Cynhaliwyd y refferendwm hwn yn 2011 ac, yn dilyn canlyniad cadarnhaol i’r refferendwm, ysgwyddodd y Cynulliad bwerau newydd i basio deddfwriaeth sylfaenol (Deddfau gan y Cynulliad Cenedlaethol) heb fod angen cydsyniad Senedd y DU mewn meysydd penodedig.

202.Trosglwyddodd Deddf Cymru 2014 bwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a gwnaeth Deddf Cymru 2017 wedi hynny newidiadau pellach i Ddeddf 2006 a Deddf Cymru 2014, yn benodol newid o fodel “rhoi pwerau” i fodel “cadw pwerau” ar gyfer datganoli yng Nghymru. Ar 6 Mai 2020 daeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn “Senedd Cymru” neu “Llywodraeth Cymru” yn sgil newidiadau a gyflwynwyd gan adran 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

203.Yn ogystal â’r diwygiadau i Ddeddf 2006 sydd eisoes wedi eu nodi yn y Nodiadau Esboniadol hyn, mae Rhan 16 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf yn gwneud newidiadau i Atodlen 11 i Ddeddf 2006. Mae Atodlen 11 yn cynnwys darpariaethau trosiannol i ymdrin â throsglwyddo ym mis Mai 2007, pan gynhaliwyd etholiad cyntaf y Cynulliad ar ôl Deddf 2006, o’r gyfundrefn gyfreithiol a llywodraethol a grëwyd gan Ddeddf 1998 i’r gyfundrefn a nodwyd yn Neddf 2006. Mae’n nodi darpariaethau manwl sy’n ymdrin â’r trefniadau angenrheidiol i sicrhau trosi effeithiol. Gan fod y trosi wedi digwydd nid oes angen llawer o’r darpariaethau hynny mwyach, a bydd y Ddeddf yn dileu’r rhain o’r llyfr statud.

204.Mae’r diwygiadau i Atodlen 11 yn diwygio:

a.

Paragraffau 3 i 7 (sy’n ymdrin ag etholiadau) –

i.

mae paragraff 3 yn darparu i ddyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol a ddychwelir ar ôl etholiad 2007 gael ei osod drwy orchymyn a wneir gan yr ’hen Gynulliad’ (a oedd wedi ei gyfansoddi o dan Ddeddf 1998). Mae hyn wedi ei ddisbyddu yn awr bod y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad 2007 wedi ei gynnal;

ii.

mae paragraff 4 yn darparu i ddyddiad etholiad cyffredinol cyffredin cyntaf Cymru a gynhelir ar ôl 2007 gael ei gyfrifo drwy gyfeirio at etholiad 2007, a gafodd yr effaith o sicrhau y byddai’r etholiad cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal yn 2011. Mae hyn wedi ei ddisbyddu yn awr bod etholiad 2011 wedi ei gynnal;

iii.

mae paragraffau 5 a 6 wedi eu disbyddu hefyd gan eu bod yn diwygio adrannau 5 a 7 o Ddeddf 1998, a gafodd ill dwy eu diddymu gan Atodlen 12 i Ddeddf 2006;

iv.

mae paragraff 7 wedi ei ddisbyddu gan ei fod yn addasu adran 11 o Ddeddf 2006 tan yr etholiad cyffredinol cyntaf a chan ei fod yn ymwneud ag is-etholiadau’r Senedd cyn etholiad 2011.

b.

Paragraff 9, a oedd yn gwneud darpariaeth drosiannol ynghylch cyfnod swydd Aelodau’r Cynulliad a ddychwelwyd yn etholiad 2007 ac sydd felly bellach wedi ei ddisbyddu.

c.

Paragraff 11, sy’n anghymwyso Arglwydd Apêl Sefydlog rhag bod yn aelod o’r Senedd. Barnwyr oedd Arglwyddi Apêl Sefydlog, neu Arglwyddi’r Gyfraith, a benodid o dan Ddeddf Awdurdodaeth Apeliadau 1876, sydd bellach wedi ei diddymu, i Bwyllgor Apeliadol Tŷ’r Arglwyddi. Roeddent yn arfer swyddogaethau barnwrol Tŷ’r Arglwyddi, a oedd yn cynnwys gweithredu fel y llys apêl uchaf ar gyfer y mwyafrif o faterion domestig. Collodd Tŷ’r Arglwyddi ei swyddogaethau barnwrol pan sefydlwyd Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig ym mis Hydref 2009. Daeth Arglwyddi Apêl Sefydlog a oedd yn eu swyddi ar y pryd yn farnwyr Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yn awtomatig.(25) Mae adran 16 o Ddeddf 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020) yn anghymhwyso’r deiliaid swyddi a nodir yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A i Ddeddf 2006 rhag bod yn Aelod o’r Senedd a rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd. Mae’r rhain yn cynnwys deiliaid swyddi barnwrol penodol gan gynnwys Ustusiaid y Goruchaf Lys. Felly, nid oes angen paragraff 11 mwyach.

d.

Paragraffau 14 i 19 – mae’r rhain yn ddarpariaethau a ddisbyddwyd sy’n ymwneud â threfniadau ar ôl etholiad cyffredinol 2007 y Cynulliad Cenedlaethol, a’r “cyfnod cychwynnol”, hynny yw, y cyfnod sy’n dechrau ar ddechrau diwrnod pleidleisio 2007 (pan fyddai pob aelod o’r Cynulliad presennol, gan gynnwys Gweinidogion y Cynulliad, fel arfer yn peidio â gallu arfer y swyddogaethau hynny) ac sy’n gorffen pan benodir Prif Weinidog.

i.

Roedd paragraff 14 yn sicrhau bod y Cynulliad (a gyfansoddwyd o dan Ddeddf 2006) yn gyfrifol am gyhoeddi gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol aelodau’r Cynulliad mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2006-07 (h.y. yn ymwneud â blwyddyn olaf yr ’hen Gynulliad’ a’i aelodau).

ii.

Roedd paragraff 15 yn sicrhau bod penderfyniad a wnaed o dan adran 34A o Ddeddf 1998, a oedd mewn grym yn union cyn diddymu’r adran honno, yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r Cynulliad.

iii.

Roedd paragraff 16 yn sicrhau bod cynnal etholiad 2007 yn sbarduno dyletswydd y Cynulliad i ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd.

iv.

Roedd paragraff 17 yn sicrhau bod y person a oedd yn Glerc yr ’hen’ Gynulliad yn dod yn Glerc y Cynulliad at ddiben swyddogaethau o dan Ddeddf 2006.

v.

Roedd paragraff 18 yn darparu bod paragraffau 5 a 6 o Atodlen 2 (sy’n awdurdodi Comisiwn y Cynulliad i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r system etholiadol a’r llywodraeth ddatganoledig naill ai’n uniongyrchol neu drwy gymorth ariannol i’r Comisiwn Etholiadol) yn cael effaith hyd ddiwedd y cyfnod cychwynnol fel pe bai’r cyfeiriad at Gomisiwn y Cynulliad yn gyfeiriad at yr ‘hen Gynulliad’.

vi.

Roedd paragraff 19 yn sicrhau, hyd ddiwedd y cyfnod cychwynnol, pe bai Ei Mawrhydi yn gwneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan baragraff 12(1) o Atodlen 2 yn darparu i Gomisiwn y Cynulliad gael ei drin fel corff y Goron at ddibenion deddfiad, na chaniateir annilysu’r offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn ond gan y naill neu’r llall o ddau Dŷ Senedd y DU.

e.

Paragraffau 22 i 25, a oedd yn sicrhau y gallai swyddogaethau llywodraethol yr ’hen Gynulliad’ barhau i gael eu harfer yn ystod y cyfnod cychwynnol. Maent wedi eu disbyddu gan eu bod yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth a swyddogaethau’r Cynulliad a gyfansoddwyd gan Ddeddf 1998 yn ystod y cyfnod cychwynnol, a ddaeth i ben ar 25 Mai 2007.

f.

Paragraff 28(1) a oedd yn darparu ar gyfer parhad pwerau a roddwyd i’r ’hen Gynulliad’ i weithredu darnau penodol o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Nid oes ei angen mwyach oherwydd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

g.

Paragraff 29 sy’n cyfeirio at yr enwebiad cyntaf ar gyfer Prif Weinidog mewn cysylltiad â’r tymor Cynulliad ar ôl cynnal y bleidlais yn etholiad 2007. Mae’r ddarpariaeth hon bellach wedi ei disbyddu.

h.

Paragraffau 35(3) a 35(4), sy’n ymdrin â gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth. Maent wedi eu diwygio i ddileu cyfeiriadau at bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth sydd wedi eu diddymu.

i.

Paragraffau 50 a 51, sy’n ymdrin â’r broses ar gyfer gwneud Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol. Mae’r pŵer i wneud Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol wedi ei ddiddymu.

j.

Paragraffau 53, 53A a 53B, sy’n ddarpariaethau a ddisbyddwyd sy’n ymwneud â thaliadau i Gronfa Gyfunol Cymru.

k.

Paragraffau 54, 55, 56, 58, 59, 62 a 63, sy’n cynnwys addasiadau sy’n gymwys tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol yn unig. Daeth y cyfnod hwnnw i ben ar 27 Mai 2007.

l.

Paragraffau 60 a 61, sy’n addasu darpariaethau o ran eu cymhwyso ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2007 yn unig. Maent felly wedi eu disbyddu.

m.

Paragraffau 64, 64B, 64C, 64F a 64G, sy’n ddarpariaethau am gyfnod penodol yn ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac sydd wedi eu disbyddu.

n.

Paragraff 65 sy’n gwneud darpariaeth angenrheidiol ar gyfer y cyfnod cyn i adran 27(1) o Ddeddf Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon) 2002 ddod i rym. Mae wedi ei ddisbyddu gan fod adran 27 o’r Ddeddf honno wedi dod i rym ar 12 Ebrill 2010.

o.

Paragraffau 66 a 67 sy’n gwneud darpariaeth angenrheidiol ar gyfer y cyfnod cyn i adran 23(1) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 ddod i rym. Maent wedi eu disbyddu gan fod adran 23(1) o’r Ddeddf honno wedi dod i rym ar 1 Hydref 2009.

205.Mae’r Ddeddf hefyd yn diddymu paragraff 10 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 gan nad oedd ond yn gymwys yn ystod y cyfnod cychwynnol, o fewn ystyr “the initial period” yn Neddf 2006, a ddaeth i ben ar 25 Mai 2007. Mae’r ddarpariaeth wedi ei disbyddu gan fod y cyfnod cychwynnol wedi dod i ben.

206.O ganlyniad i’r diwygiadau a wnaed i Dabl 2 ym mharagraff 35 o Atodlen 11, mae’r Ddeddf hefyd yn diddymu paragraff (c) o baragraff 22 o’r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

Rhan 18 – Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021

207.Cafodd Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (‘Deddf 2021’) ei deddfu i ddarparu y byddai mesurau’n ymwneud â diogelu yn erbyn y coronafeirws yn gymwys i etholiadau Senedd Cymru a’r etholiadau llywodraeth leol a oedd i’w cynnal yn 2021.

208.Roedd Deddf 2021 yn gwneud darpariaeth a oedd yn ei gwneud yn bosibl gohirio etholiad cyffredinol Senedd Cymru a drefnwyd ar gyfer 6 Mai 2021. Dim ond drwy gynnig gan y Prif Weinidog yn nodi ei fod o’r farn bod gohirio’r etholiad yn angenrheidiol neu’n hwylus am resymau’n ymwneud â’r coronafeirws y byddai modd ysgogi’r weithdrefn ar gyfer gohirio. Wedi hynny, byddai’r cynnig yn ddarostyngedig i wahanol brosesau cyn iddo gael ei wrthod neu ei gymeradwyo gan y Senedd. Ni chafodd y pwerau hyn eu harfer, a chynhaliwyd yr etholiad cyffredinol, fel y trefnwyd ar 6 Mai 2021.

209.Roedd Deddf 2021 hefyd yn gwneud darpariaeth a oedd yn ei gwneud yn bosibl gohirio, hyd at 5 Tachwedd 2021 (ond heb fod yn hwyrach na’r dyddiad hwn), is-etholiadau’r Senedd neu lywodraeth leol ar gyfer swyddi gwag a allai fod wedi codi. Ni chafodd y pwerau hynny eu harfer, ac ni chafodd unrhyw is-etholiadau eu gohirio o dan y Ddeddf.

210.Nid oedd Deddf 2021 ond yn gymwys i’r etholiad cyffredinol cyffredin a gynhaliwyd yn 2021, ac nid yw’n berthnasol i unrhyw etholiadau wedi hynny i Senedd Cymru. Ymhellach i hyn, nid yw’r Ddeddf yn caniatáu gohirio is-etholiadau y tu hwnt i 5 Tachwedd 2021. Felly, mae’r Ddeddf bellach wedi ei disbyddu yn llwyr.

211.Felly, mae paragraff 60 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf yn diddymu Deddf 2021 yn llawn.

Rhan 19 – Cyllid Llywodraeth Leol

212.Mae Rhan 2 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 (‘Deddf 2024’) yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (‘Deddf 1992’) mewn perthynas â’r dreth gyngor.

213.Fel y’i cyflwynwyd yn wreiddiol yn y Senedd roedd y Bil (sef Ddeddf 2024 erbyn hyn) yn ceisio, yn adran 20 ddrafft, newid y trefniadau yn adrannau 12A, 12B a 38 o Ddeddf 1992 ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau gan awdurdodau bilio’r dreth gyngor. Mae Deddf 1992 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio gyhoeddi hysbysiadau sy’n ymwneud â lefelau’r dreth gyngor neu bremiymau’r dreth gyngor mewn papurau newydd. Roedd adran 20 o’r Bil yn cynnig rhoi, yn lle’r gofynion hynny, ofyniad i gyhoeddi’r un wybodaeth yn electronig ac i wneud trefniadau eraill addas am fynediad i unigolion nad ydynt yn gallu manteisio ar wybodaeth ar-lein.

214.Nid oedd y Senedd yn cytuno ag adran 20 ddrafft, ac yn nhrafodion Cyfnod 3, pleidleisiodd i ddileu’r adran ddrafft honno o’r Bil.

215.Roedd adran 16 ddrafft o’r Bil yn rhoi trosolwg o Ran 2, ac yn is-adran (8) roedd yn cynnwys trosolwg o adran 20 ddrafft. Pan hepgorodd y Senedd adran 20 ddrafft, ni wnaed diwygiad canlyniadol i ddileu adran 16(8) ddrafft. O’r herwydd mae adran 16(8) o Ddeddf 2024 yn parhau i gyfeirio at ddarpariaeth nad yw yn y Ddeddf ac at ddiwygiadau a wneir i Ddeddf 1992. Mae hyn yn ddiangen ac nid yw o fudd i ddarllenydd Deddf 2024 nac, yn ehangach, yn helpu i sicrhau bod y gyfraith yn glir.

216.Mae paragraff 61 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf bellach yn hepgor adran 16(8) o Ddeddf 2024 ac yn ailrifo is-adran (9) yn is-adran (8) er mwyn osgoi dryswch pellach i ddarllenydd Deddf 2024.

Rhan 4 – Cyffredinol

Adran 5 – Craffu ar ôl deddfu

217.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 42A newydd yn Neddf 2019. Effaith yr adran newydd honno yw ei gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol gynnal adolygiad o ddwy flynedd gyntaf gweithrediad Rhannau 2A a 2B newydd o Ddeddf 2019, a gosod adroddiad ar y canfyddiadau gerbron y Senedd. Mae’n ofynnol ymgynghori â’r Llywydd, Clerc y Senedd a phersonau eraill â buddiant fel rhan o’r adolygiad.

Adran 6 – Gweithgareddau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru

218.Mae adran 6 o’r Ddeddf hon yn diwygio adran 2 o Ddeddf 2019. Mae’r adran honno yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddatblygu rhaglen o waith a gynlluniwyd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ym mhob un o dymhorau’r Senedd.

219.Er mai mater i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yw cynnwys penodol rhaglen, mae adran 2(3) yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhaglen wneud darpariaeth i gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, cynnal y gyfraith sydd wedi ei chodeiddio, hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru, a hwyluso defnydd o’r Gymraeg.

220.Mae’r diwygiad a wneir gan adran 6 o’r Ddeddf hon i adran 2(3) o Ddeddf 2019 yn golygu bod rhaid i bob rhaglen hefyd wneud darpariaeth sy’n cywiro unrhyw wallau a datrys unrhyw amwysedd yng nghyfraith Cymru. Mae adran 2(7) o Ddeddf 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol wneud adroddiad blynyddol i Senedd Cymru ar gynnydd yn erbyn y rhaglen. Unwaith bod y diwygiad a wneir i adran 2(3) o Ddeddf 2019 mewn grym, bydd angen i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys diweddariadau ar y mesurau sydd wedi eu cymryd i gywiro unrhyw wallau neu ddatrys amwysedd. Hyd yma mae adroddiadau’r Cwnsler Cyffredinol wedi bod yn bapurau ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, ond fel y’i nodir yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2019, gellid gwneud yr adroddiad fel datganiad i’r Senedd.

Adran 7 – Mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019Atodlen 2 – Mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

221.Mae Atodlen 2, a gyflwynir gan adran 7, yn cynnwys mân ddiwygiadau i Ran 2 o Ddeddf 2019.

222.Mae Rhan 2 o Ddeddf 2019 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth a wneir gan y Senedd neu o dan bwerau a roddir ganddi, ac is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau Cymreig datganoledig eraill.

223.Mae paragraff 2 o’r Atodlen hon yn diwygio adran 3 o Ddeddf 2019. Mae adran 3 yn nodi’r ddeddfwriaeth y mae Rhan 2 o Ddeddf 2019 yn gymwys iddi, sef, y Ddeddf ei hun a Deddfau Senedd Cymru a ddeddfir ac is-offerynnau Cymreig a wneir ar ôl 1 Ionawr 2020. Mae’r diwygiadau a wneir i adran 3 yn ei gwneud yn glir bod Rhan 2 yn gymwys i’r is-ddeddfwriaeth mewn is-offeryn Cymreig (sy’n adlewyrchu’r dull a fabwysiedir yn Rhannau 2A a 2B newydd o Ddeddf 2019).

224.Mae paragraff 3 o’r Atodlen hon yn mewnosod adran 12A newydd (Ystyr cyfeiriadau at osod dogfennau gerbron Senedd Cymru) yn Rhan 2 o Ddeddf 2019. Y cam cyntaf mewn rheolaeth seneddol yw’r gofyniad i osod dogfen gerbron senedd (yng Nghymru, mae hyn yn golygu gosod dogfen gerbron Senedd Cymru). Y Senedd sy’n cael penderfynu’r hyn y mae gosod yn ei olygu, ac mae rheolau a gweithdrefnau’r Senedd wedi eu nodi yn ei Rheolau Sefydlog. O’r herwydd mae adran 12A newydd yn ei gwneud yn glir, pan fo Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn ei gwneud yn ofynnol gosod dogfen gerbron y Senedd, yna mae hynny’n golygu cymryd y camau a bennir yn Rheolau Sefydlog y Senedd mewn perthynas â gosod dogfennau (gweler, er enghraifft, Reol Sefydlog 15).

225.Mae adran 16 o Ddeddf 2019 yn darparu y caniateir, mewn amgylchiadau penodol, arfer pwerau a dyletswyddau o dan ddarpariaethau Deddfau Senedd Cymru ac is-offerynnau Cymreig cyn i’r darpariaethau hynny ddod i rym. Mae paragraff 4 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf yn diwygio adran 16 mewn dwy ffordd:

a.

yn gyntaf, i fynd i’r afael ag anhawster ymarferol sydd wedi deillio o effaith adran 16(1)(a) bresennol, sy’n eithrio o gwmpas yr adran bwerau a dyletswyddau os yw’r darpariaethau sy’n eu rhoi neu’n eu gosod i gael eu dwyn i rym drwy orchymyn neu reoliadau. Mae hyn yn golygu bod rhaid cychwyn darpariaethau ar wahân at ddibenion gallu gwneud is-ddeddfwriaeth cyn y daw’r darpariaethau i rym at ddibenion eraill, gan arwain at wneud nifer o orchmynion cychwyn sy’n gallu bod yn gymhleth. Mae is-adran (1)(a) newydd yn mynd i’r afael â hyn ac yn estyn adran 16 i gwmpasu’r holl bwerau sydd i’w dwyn i rym drwy orchymyn neu reoliadau, nid yn unig y pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth. At hynny, mae is-adran (3A) newydd yn sicrhau y gellir gwneud is-ddeddfwriaeth cyn y daw’r pŵer i wneud yr is-ddeddfwriaeth i rym cyhyd â naill ai:

i.

na ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym cyn bod y pŵer ei hun mewn grym, neu

ii.

os daw’r is-ddeddfwriaeth i rym cyn y pŵer, ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus iddi wneud hynny at ddiben rhoi effaith lawn i’r Ddeddf (neu ddarpariaeth yn y Ddeddf) pan ddaw i rym.

b.

yn ail, i sicrhau nad oes dim amheuaeth bod adran 16 yn awdurdodi arfer pŵer neu ddyletswydd ymlaen llaw pan fo Deddf ddiwygio neu is-offeryn diwygio yn mewnosod y pŵer neu’r ddyletswydd mewn deddfiad arall, ac i’w gwneud yn glir mewn achos o’r fath fod y dibenion a’r darpariaethau eraill sy’n berthnasol i’r pŵer neu’r ddyletswydd yn cynnwys rhai’r Ddeddf ddiwygio neu’r offeryn diwygio yn ogystal â rhai’r deddfiad sy’n cael ei ddiwygio (is-adrannau newydd (6) a (7)).

226.Mae paragraffau 5 i 7 o’r Atodlen hon i’r Ddeddf yn dwyn “Mesurau gan Eglwys Loegr” o fewn ystyr “deddfiad” at ddibenion adrannau 21, 25 a 32 i 35 o Ddeddf 2019. Deddfwriaeth yw Mesurau gan Eglwys Loegr (sef Mesurau gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr), sy’n ymwneud â gweinyddiaeth a threfniant Eglwys Loegr. Maent yn cael yr un effaith â Deddf gan Senedd y DU a chânt hefyd roi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth (gweler Deddf Cynulliad Eglwys Loegr (Pwerau) 1919 (p. 76)). Ni chaiff yr Eglwys yng Nghymru wneud deddfwriaeth o’r math hwn, ond weithiau mae Mesurau gan Eglwys Loegr yn berthnasol i ran o Gymru, yn enwedig am fod 18 o blwyfi Eglwys Loegr y mae rhan ohonynt yng Nghymru. Felly gall fod angen i Ddeddfau Senedd Cymru neu is-offerynnau Cymreig gyfeirio at Fesurau gan Eglwys Loegr neu eu diwygio. Mae’r diwygiadau i Ddeddf 2019 ym mharagraffau 5 i 7 yn sicrhau bod cyfeiriadau at Fesurau gan Eglwys Loegr a diwygiadau iddynt yn cael yr un effaith â chyfeiriadau at ddeddfiadau eraill a diwygiadau iddynt.

227.Mae paragraff 8 o’r Atodlen hon yn diwygio adran 35 o Ddeddf 2019. Mae adran 35(3) yn darparu bod is-ddeddfwriaeth a wneir o dan ddarpariaethau sydd wedi eu diddymu a’u hailddeddfu (er enghraifft wrth gydgrynhoi’r gyfraith) i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan y darpariaethau a ailddeddfwyd. Mae adran 28 yn creu’r sefyllfa ddiofyn bod is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf gan Senedd Cymru yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae’r Ddeddf yn ei galluogi i wneud hynny, sy’n wahanol i’r sefyllfa ddiofyn ar gyfer is-ddeddfwriaeth nad yw Rhan 2 o Ddeddf 2019 yn gymwys iddi. Nod y diwygiad ym mharagraff 6 yw ymdrin â’r sefyllfa pan fo is-ddeddfwriaeth nad oedd adran 28 yn gymwys iddi yn wreiddiol yn cael effaith bellach o dan adran 35(3) fel pe bai wedi ei gwneud o dan Ddeddf gan Senedd Cymru. Mae’n ei gwneud yn glir nad yw adran 35(3) yn golygu bod adran 28 yn gymwys i is-ddeddfwriaeth nad oedd yn gymwys iddi yn flaenorol (a allai newid pa un a yw’r is-ddeddfwriaeth yn rhwymo’r Goron).

228.Yn olaf, mae paragraff 9 o’r Atodlen hon yn diwygio adran 36 o Ddeddf 2019. Effaith adran 36 yw sicrhau bod cyfeiriadau at Ddeddf yn ôl ei henw byr yn parhau’n ddilys, hyd yn oed ar ôl i’r Ddeddf gael ei diddymu. Mae is-adran (2) newydd yn gwneud darpariaeth gyfatebol yn sicrhau bod cyfeiriadau at is-offerynnau Cymreig yn ôl eu henwau yn parhau’n ddilys, hyd yn oed pan fydd yr offerynnau hynny wedi eu dirymu.

Adran 8 – Diwygiadau canlyniadolAtodlen 3 – Diwygiadau canlyniadol

229.Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau amrywiol i ddeddfiadau presennol sy’n angenrheidiol o ganlyniad i Rannau 2A a 2B newydd o Ddeddf 2019. Mae hyn yn cynnwys mân ddiwygiadau pellach i Ddeddf 2019 ei hun.

Adran 9 – Dod i rym

230.Mae adran 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y daw’r Ddeddf i rym.

231.Mae’r adran hon yn darparu i adrannau 2, 4 a 7, ynghyd ag Atodlenni 1 a 2, ddod i rym ddeufis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol (sef, ar 10 Medi 2025). Fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i adran 9(3). Mae paragraff 22(2) o Atodlen 1 i’r Ddeddf hon yn diwygio adran 1(1) o Ddeddf Cynllunio ac Ynni 2008, sydd hefyd wedi ei diwygio gan baragraff 29(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023, nad yw mewn grym eto(26). Ni fydd angen y diwygiad i adran 1(1) ym mharagraff 22(2)(a)(i) o Atodlen 1 i’r Ddeddf hon ond pan fydd diwygiad Deddf 2023 mewn grym. Felly, er mwyn i’r ddeddfwriaeth weithio’n gywir, mae adran 7(3) o’r Ddeddf hon yn darparu na fydd y diwygiad a wneir gan baragraff 22(2)(a)(i) ond yn dod i rym gyda gweddill Atodlen 1 os yw diwygiad Deddf 2023 eisoes mewn grym bryd hynny. Fel arall, daw’r diwygiad a wneir gan y Ddeddf i rym ar yr un pryd â diwygiad Deddf 2023.

232.Daeth yr adran hon (adran 9) ac adran 10 i rym ar 11 Gorffennaf 2025, drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

233.Caiff y darpariaethau sy’n weddill yn y Ddeddf eu dwyn i rym drwy un neu ragor o orchmynion sydd i’w gwneud gan Weinidogion Cymru. Disgwylir y bydd y gorchymyn yn dwyn Rhannau 1 a 2 i rym yn llawn ar ddechrau blwyddyn galendr, fel bod modd canfod o’r flwyddyn sydd wedi ei chynnwys yn enw offeryn pa un a yw’n offeryn statudol Cymreig sydd wedi ei wneud yn unol â Rhan 2A o Ddeddf 2019 (a bod y gofynion rhifo a chyhoeddi yn Rhan 2B o Ddeddf 2019 yn gymwys iddo), ai’n offeryn statudol y mae Deddf 1946 yn gymwys iddo. Bydd hefyd yn sicrhau nad oes blwyddyn pan fydd dwy gyfres wahanol o offerynnau sydd wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru (offerynnau statudol sy’n rhan o’r gyfres o offerynnau statudol y DU, ac offerynnau statudol Cymreig sy’n rhan o’r gyfres o offerynnau statudol Cymreig). Felly bydd y gyfres gyntaf a chyfresi dilynol o offerynnau statudol Cymreig yn dechrau ar ddechrau blwyddyn galendr ac yn cynnwys blynyddoedd llawn.

234.Disgwylir hefyd y caiff adran 5 ei dwyn i rym ar yr un pryd â Rhannau 1 a 2, ac y caiff adran 6 ei dwyn i rym ar gyfer dechrau’r Senedd nesaf (ym mis Mai 2026).

Adran 10 – Enw byr

235.Mae adran 10 yn nodi enw byr y Ddeddf, y gellir ei ddefnyddio wrth enwi’r Ddeddf ac wrth gyfeirio ati. Caniateir defnyddio naill ai enw Cymraeg neu enw Saesneg y Ddeddf, gan gynnwys fel cyfeiriad mewn deddfiadau eraill.

Cofnod Y Trafodion Yn Y Senedd

236.Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Mae Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar gael ar wefan Senedd Cymru yn: Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

CyfnodDyddiad
Cyflwyno21 Hydref 2024
Cyfnod 1 – Dadl4 Mawrth 2025
Cyfnod 2 – Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau31 Mawrth 2025
Cyfnod 3 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau13 Mai 2025
Cyfnod 4 – cymeradwyo gan y Senedd20 Mai 2025
Y Cydsyniad Brenhinol10 Gorffennaf 2025
1

Adroddiad Arbennig Cyntaf Sesiwn 2017–19 (2018), Papur Tŷ’r Arglwyddi Rhif 151; Papur Tŷ’r Cyffredin Rhif 1158

2

Y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a llyfrgelloedd Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt a Choleg y Drindod Dulyn: gweler adran 14 o Ddeddf 2003.

3

Abertawe (o dan O.S. 1981/757), 13 ar lannau Dyfrffordd Aberdaugleddau (O.S. 1984/443 ac O.S. 1984/444) a Chwm Tawe Isaf (O.S. 1985/137).

5

Comisiwn y Gyfraith (2020) Cyfraith Cynllunio yng Nghymru (Law Com 383), ym mharagraff 6.13.

6

Llywodraeth Cymru (2021) Polisi Cynllunio Cymru (rhifyn 11), paragraffau 5.9.11 a 5.8.5 yn eu trefn.

7

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947 yn wreiddiol, ond fe’i diwygiwyd wedi hynny i Ddeddf 1990 gan Ddeddf Cynllunio (Diwygiadau Canlyniadol) 1990.

8

Bydd Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 yn diwygio Deddf 1953 er mwyn diddymu’r atebolrwydd i gyfnod o garchar (gweler paragraff 34 o Atodlen 34 i’r Ddeddf honno a Rhan 9 o Atodlen 37 iddi), ond nid yw’r diwygiad hwnnw wedi ei ddwyn i rym eto.

9

Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylid dileu’r gofyniad i gael cydsyniad i erlyn (gweler paragraff 6.58 o Consents to Prosecution (1998) (Law Com 255)). Nid yw’r argymhelliad hwn wedi ei weithredu hyd yma.

10

Mae hyn yn ychwanegol at bwerau gwneud rheoliadau, etc. a ddaeth i rym drannoeth y diwrnod y cafwyd y Cydsyniad Brenhinol.

11

Erthygl 2(3) o O.S. 2013/2727.

12

Gweler Gorchymyn Corff Gweddilliol Cymru (Dirwyn i Ben) 1998 (O.S. 1998/2859).

13

Darperir bellach ar gyfer trefniadau cyfatebol, mewn perthynas â Chyd-bwyllgorau Corfforedig, gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

14

Llywodraeth Cymru (2015) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Cod Ymarfer Rhan 3 (asesu anghenion unigolion).

15

Sefydlwyd o dan baragraff 5 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

16

Ym mharagraffau 1 i 3A o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac adran 2 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

18

Cafodd paragraff 30 ei ddwyn i rym gan erthygl 2(1) o O.S. 1995/2950 ar 23 Tachwedd 1995; cafodd diwygiad 1994 ei ddwyn i rym gan erthygl 3 o O.S. 1996/396 ar 1 Ebrill 1996.

19

Rhoddwyd effaith i’r trosglwyddiad hwn gan Orchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005 (O.S. 2005/3226), ac yna i Weinidogion Cymru drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

20

Gweler Gorchymyn Awdurdod Tir Cymru (Diddymu) 1999 (O.S. 1999/372).

21

Mae’n ofynnol i awdurdodau arolygu (ystyr hyn yng Nghymru yw’r 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) lunio eu map(iau) a datganiad(au) diffiniol a’u hadolygu’n barhaus. Mae’r rhain yn ffurfio’r cofnod cyfreithiol o hawliau tramwy cyhoeddus yn eu hardal. Am ragor o wybodaeth am fapiau a datganiadau diffiniol gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Map a Datganiad DiffiniolBack [21]

23

Mae adran 67(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu bod adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 wedi ei diddymu. Mae adran 67(2) yn darparu bod y corff corfforedig o’r enw Cyngor Gofal Cymru (a sefydlwyd gan adran 54) i barhau mewn bodolaeth; mae adran 67(3) yn darparu ei fod i’w ailenwi ac mai ei enw fydd Gofal Cymdeithasol Cymru.

24

Gweler Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755) a Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Darpariaeth Ganlyniadol) 2013 (O.S. 2013/1821).

25

Gweler adran 24 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005.

26

Mae’r diwygiadau yn Atodlen 8 i Ddeddf 2023 yn ymwneud â Phennod 2 o Ran 3 o’r Ddeddf honno, sy’n cyflwyno system cynllun datblygu newydd yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn bwriadu gweithredu’r system newydd o haf neu hydref 2025: gweler ymgynghoriad y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, “Proposed reforms to the National Planning Policy Framework and other changes to the planning system” (30 Gorffennaf 2024), Pennod 12, paragraff 11.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources