Rhagolygol
(1)Mae’r Rhan hon—
(a)yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi categori iaith i bob ysgol (gweler adrannau 9 i 13), ac, yn unol â hynny, ynghylch—
(i)y swm o addysg Gymraeg sydd i’w ddarparu yn yr ysgol, a
(ii)nod dysgu Cymraeg yr ysgol;
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gael cynllun cyflawni addysg Gymraeg (gweler adrannau 14 i 19) sy’n nodi (ymhlith pethau eraill) sut y mae’r ysgol yn bwriadu cyflawni ei nod dysgu Cymraeg;
(c)yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr o gategori iaith pob ysgol yn ei ardal (gweler adran 22);
(d)yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol hybu addysg drochi hwyr yn y Gymraeg (gweler adran 23).
(2)At ddibenion y Rhan hon—
(a)ystyr “addysg Gymraeg” yw—
(i)addysgu’r Gymraeg, a
(ii)addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg,
mewn ysgol, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol;
(b)ystyr “addysg feithrin Gymraeg” yw—
(i)addysgu’r Gymraeg, a
(ii)addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
mewn ysgol neu ysgol feithrin a gynhelir, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol;
(c)mae cyfeiriadau at “ysgol” yn golygu ysgol a gynhelir sydd â disgyblion o oedran ysgol gorfodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)