RHAN 3ADDYSG GYMRAEG
Cyflwyniad
8Trosolwg a dehongli
(1)
Mae’r Rhan hon—
(a)
yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi categori iaith i bob ysgol (gweler adrannau 9 i 13), ac, yn unol â hynny, ynghylch—
(i)
y swm o addysg Gymraeg sydd i’w ddarparu yn yr ysgol, a
(ii)
nod dysgu Cymraeg yr ysgol;
(b)
yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gael cynllun cyflawni addysg Gymraeg (gweler adrannau 14 i 19) sy’n nodi (ymhlith pethau eraill) sut y mae’r ysgol yn bwriadu cyflawni ei nod dysgu Cymraeg;
(c)
yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr o gategori iaith pob ysgol yn ei ardal (gweler adran 22);
(d)
yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol hybu addysg drochi hwyr yn y Gymraeg (gweler adran 23).
(2)
At ddibenion y Rhan hon—
(a)
ystyr “addysg Gymraeg” yw—
(i)
addysgu’r Gymraeg, a
(ii)
addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg,
mewn ysgol, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol;
(b)
ystyr “addysg feithrin Gymraeg” yw—
(i)
addysgu’r Gymraeg, a
(ii)
addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
mewn ysgol neu ysgol feithrin a gynhelir, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol;
(c)
mae cyfeiriadau at “ysgol” yn golygu ysgol a gynhelir sydd â disgyblion o oedran ysgol gorfodol.