RHAN 2DISGRIFIO GALLU YN Y GYMRAEG
7Cyhoeddi ac adolygu’r Cod
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
cyhoeddi’r Cod sydd mewn grym am y tro;
(b)
adolygu’r Cod o bryd i’w gilydd, a chânt ei ddiwygio fel y bo’n briodol.
(2)
Cyn cyhoeddi’r Cod, neu’r Cod fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.