RHAN 2LL+CDISGRIFIO GALLU YN Y GYMRAEG

Rhagolygol

6Cod i ddisgrifio gallu yn y GymraegLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio Cod ar ddisgrifio gallu yn y Gymraeg sy’n seiliedig ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.

(2)Rhaid i’r Cod—

(a)esbonio sut i ddefnyddio’r lefelau cyfeirio cyffredin a nodir yn y Tabl yn Atodlen 1, a

(b)disgrifio nodweddion penodol, er enghraifft deall iaith lafar neu ysgrifenedig neu’r gallu i ryngweithio ar lafar, pob lefel cyfeirio gyffredin.

(3)Caiff y Cod hefyd gynnwys unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â disgrifio gallu yn y Gymraeg.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)