RHAN 2DISGRIFIO GALLU YN Y GYMRAEG
6Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio Cod ar ddisgrifio gallu yn y Gymraeg sy’n seiliedig ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.
(2)
Rhaid i’r Cod—
(a)
esbonio sut i ddefnyddio’r lefelau cyfeirio cyffredin a nodir yn y Tabl yn Atodlen 1, a
(b)
disgrifio nodweddion penodol, er enghraifft deall iaith lafar neu ysgrifenedig neu’r gallu i ryngweithio ar lafar, pob lefel cyfeirio gyffredin.
(3)
Caiff y Cod hefyd gynnwys unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â disgrifio gallu yn y Gymraeg.