RHAN 6CYFFREDINOL
56Dod i rym
(1)
Daw’r darpariaethau canlynol i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
y Rhan hon, ac eithrio adran 49;
(b)
adran 1(1)(a);
(c)
adran 1(4) i’r graddau y mae’n gymwys i adran 1(1)(a).
(2)
Daw adrannau 1(5) a 5 ac Atodlen 1 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(3)
Daw Rhan 5 ac Atodlen 2 i rym ar 1 Awst 2027.
(4)
Daw adran 49 a darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(5)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—
(a)
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
(b)
gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.