(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;
(b)gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 55 mewn grym ar 8.7.2025, gweler a. 56(1)(a)