RHAN 6CYFFREDINOL

55Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)

gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;

(b)

gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).