(1)Pan fo’r Ddeddf hon yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol rhoi hysbysiad, cyfarwyddyd neu ddogfen arall i berson neu anfon hysbysiad, cyfarwyddyd neu ddogfen arall at berson, caniateir rhoi neu anfon y ddogfen—
(a)drwy ei rhoi â llaw i’r person neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, ei rhoi â llaw i ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;
(b)drwy ei gadael ym man preswylio arferol y person neu ym man preswylio hysbys diwethaf y person neu, os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, yn y cyfeiriad hwnnw;
(c)drwy ei hanfon drwy’r post mewn llythyr wedi ei ragdalu—
(i)wedi ei gyfeirio at y person ym man preswylio arferol y person neu ym man preswylio hysbys diwethaf y person, neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, wedi ei gyfeirio at ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu
(ii)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, wedi ei gyfeirio i’r person yn y cyfeiriad hwnnw;
(d)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, drwy ei hanfon at y person yn y cyfeiriad hwnnw gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig sy’n cydymffurfio â’r amodau yn is-adran (2).
(2)Yr amodau yw—
(a)bod modd i’r person yr anfonir y ddogfen ato gyrchu’r ddogfen,
(b)bod y ddogfen yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac
(c)bod modd i’r ddogfen gael ei defnyddio i gyfeirio ati yn ddiweddarach.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 53 mewn grym ar 8.7.2025, gweler a. 56(1)(a)