(1)Pan fo’r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi dogfen, rhaid i’r ddogfen gael ei chyhoeddi—
(a)ar ffurf electronig, a
(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn ystyried ei fod yn briodol ar gyfer y rhai na allant gyrchu’r ddogfen ar ffurf electronig.
(2)Mae’r ddyletswydd i gyhoeddi’r ddogfen ar ffurf electronig yn ddyletswydd, pan fo gan y person hwnnw ei wefan ei hun, i’w chyhoeddi ar y wefan honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 52 mewn grym ar 8.7.2025, gweler a. 56(1)(a)