RHAN 6CYFFREDINOL

52Cyhoeddi

(1)

Pan fo’r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi dogfen, rhaid i’r ddogfen gael ei chyhoeddi—

(a)

ar ffurf electronig, a

(b)

mewn unrhyw fodd arall y mae’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn ystyried ei fod yn briodol ar gyfer y rhai na allant gyrchu’r ddogfen ar ffurf electronig.

(2)

Mae’r ddyletswydd i gyhoeddi’r ddogfen ar ffurf electronig yn ddyletswydd, pan fo gan y person hwnnw ei wefan ei hun, i’w chyhoeddi ar y wefan honno.