(1)Yn y Ddeddf hon—
mae i “addysg drydyddol” (“tertiary education”) a “darparwr addysg drydyddol yng Nghymru”(“tertiary education provider in Wales”) yr ystyr a roddir yn adran 144 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (dsc 1);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”), yw’r pwyllgor (os oes un) a sefydlir i weithredu fel y pwyllgor rheoli ar gyfer yr uned o dan reoliadau a wneir o dan Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) a’r athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned;
mae i “cynllun cyflawni addysg Gymraeg” (“Welsh language education delivery plan”) yr ystyr a roddir gan adran 14(1);
mae i “defnyddiwr Cymraeg annibynnol” (“independent Welsh user”) yr ystyr a roddir yn y Tabl yn Atodlen 1;
mae i “defnyddiwr Cymraeg hyfedr” (“proficient Welsh user”) yr ystyr a roddir yn y Tabl yn Atodlen 1;
mae i “defnyddiwr Cymraeg sylfaenol” (“basic Welsh user”) yr ystyr a roddir yn y Tabl yn Atodlen 1;
ystyr “sesiynau ysgol” (“school sessions”) yw sesiynau ysgol sy’n dechrau ac yn dod i ben ar yr amserau hynny a benderfynir o bryd i’w gilydd yn unol ag adran 32C o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32);
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw—
ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol yng Nghymru,
ysgol arbennig gymunedol yng Nghymru, ac eithrio ysgol arbennig gymunedol a sefydlir mewn ysbyty, neu
uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru;
ystyr “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yw ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod lleol ac nad yw’n ysgol arbennig.
(2)Yn y Ddeddf hon, mae i’r ymadroddion a ganlyn yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31)—
“ysgol arbennig gymunedol” (“community special school”);
“ysgol gymunedol” (“community school”);
“ysgol sefydledig” (“foundation school”);
“ysgol wirfoddol” (“voluntary school”).
(3)Mae i ymadroddion eraill yn is-adran (1), adran 1, adran 2(1)(b) a (c), a Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf hon, y diffinnir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol iddynt yn Neddf Addysg 1996 (p. 56), neu y rhoddir ystyr iddynt ganddi, yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Ddeddf honno, gan gynnwys—
“blwyddyn ysgol” (“school year”) (gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996);
“disgybl” (“pupil”) (gweler adran 3 o Ddeddf Addysg 1996);
“oedran ysgol gorfodol” (“compulsory school age”) (gweler adran 8 o Ddeddf Addysg 1996);
“swyddogaethau addysg” (“education functions”) (gweler y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 36A i Ddeddf Addysg 1996);
“uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit”) (gweler adran 19A(2) o Ddeddf Addysg 1996);
“ysgol gynradd” (“primary school”) (gweler adran 5(1) o Ddeddf Addysg 1996);
“ysgol uwchradd” (“secondary school”) (gweler adran 5(2) o Ddeddf Addysg 1996).
(4)Ond pan fo ystyr wedi ei roi i ymadrodd at ddibenion y Ddeddf hon (naill ai gan y Ddeddf hon neu gan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4)) sy’n wahanol i’r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, mae’r ystyr hwnnw yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r un a roddir at ddibenion Deddf 1996.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 51 mewn grym ar 8.7.2025, gweler a. 56(1)(a)