RHAN 2LL+CDISGRIFIO GALLU YN Y GYMRAEG

5Mathau o ddefnyddiwr Cymraeg a lefelau cyfeirio cyffredinLL+C

(1)Yn unol â’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd, mae’r Tabl yn Atodlen 1 yn pennu—

(a)mathau o ddefnyddiwr Cymraeg (sef defnyddiwr Cymraeg sylfaenol, defnyddiwr Cymraeg annibynnol, a defnyddiwr Cymraeg hyfedr), a

(b)lefelau cyfeirio cyffredin ar gyfer disgrifio gallu y mathau hynny o ddefnyddiwr Cymraeg, a disgrifiad o nodweddion cyffredinol pob lefel.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r Tabl yn Atodlen 1.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer yn is-adran (2) oni bai bod angen gwneud hynny mewn ymateb i newid a wneir i’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.

(4)Yn y Rhan hon, ystyr y “Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd” yw’r fframwaith a gyhoeddir gan Gyngor Ewrop, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, a gynhwysir yn y ddogfen “Common European Framework of Reference for Languages: Learning, teaching, assessment (2001)”, ac a ddisgrifir ymhellach neu a ddiweddarwyd—

(a)yn y ddogfen “Council of Europe (2020), Common European Framework of Reference for Languages: Learning, teaching, assessment - Companion volume”, neu

(b)mewn unrhyw ddogfen gyffelyb a gyhoeddir gan Gyngor Ewrop.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 mewn grym ar 7.9.2025, gweler a. 56(2)