RHAN 2DISGRIFIO GALLU YN Y GYMRAEG
5Mathau o ddefnyddiwr Cymraeg a lefelau cyfeirio cyffredin
(1)
Yn unol â’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd, mae’r Tabl yn Atodlen 1 yn pennu—
(a)
mathau o ddefnyddiwr Cymraeg (sef defnyddiwr Cymraeg sylfaenol, defnyddiwr Cymraeg annibynnol, a defnyddiwr Cymraeg hyfedr), a
(b)
lefelau cyfeirio cyffredin ar gyfer disgrifio gallu y mathau hynny o ddefnyddiwr Cymraeg, a disgrifiad o nodweddion cyffredinol pob lefel.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r Tabl yn Atodlen 1.
(3)
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer yn is-adran (2) oni bai bod angen gwneud hynny mewn ymateb i newid a wneir i’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.
(4)
Yn y Rhan hon, ystyr y “Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd” yw’r fframwaith a gyhoeddir gan Gyngor Ewrop, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, a gynhwysir yn y ddogfen “Common European Framework of Reference for Languages: Learning, teaching, assessment (2001)”, ac a ddisgrifir ymhellach neu a ddiweddarwyd—
(a)
yn y ddogfen “Council of Europe (2020), Common European Framework of Reference for Languages: Learning, teaching, assessment - Companion volume”, neu
(b)
mewn unrhyw ddogfen gyffelyb a gyhoeddir gan Gyngor Ewrop.