Rhagolygol
(1)Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn Atodlen 2 (newidiadau rheoleiddiedig)—
(a)ym mharagraff 4, yn lle “i 8” rhodder “a 6”;
(b)hepgorer paragraff 7 (cyfrwng iaith – addysg gynradd) a’r croes-bennawd sy’n ei ragflaenu;
(c)hepgorer paragraff 8 (cyfrwng iaith – addysg uwchradd) a’r croes-bennawd sy’n ei ragflaenu;
(d)ym mharagraff 22, yn lle “i 25” rhodder “a 24”;
(e)hepgorer paragraff 25 (cyfrwng iaith - ysgolion meithrin a gynhelir) a’r croes-bennawd sy’n ei ragflaenu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)