(1)O ran cyfarwyddyd o dan Rannau 3 a 4 o’r Ddeddf hon—
(a)rhaid cydymffurfio â’r cyfarwyddyd;
(b)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(c)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.
(2)Rhaid i awdurdod lleol, corff llywodraethu ysgol a gynhelir a chorff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 48 mewn grym ar 8.7.2025, gweler a. 56(1)(a)