RHAN 6CYFFREDINOL
48Cyfarwyddydau a chanllawiau
(1)
O ran cyfarwyddyd o dan Rannau 3 a 4 o’r Ddeddf hon—
(a)
rhaid cydymffurfio â’r cyfarwyddyd;
(b)
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(c)
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.
(2)
Rhaid i awdurdod lleol, corff llywodraethu ysgol a gynhelir a chorff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.