Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025

48Cyfarwyddydau a chanllawiauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)O ran cyfarwyddyd o dan Rannau 3 a 4 o’r Ddeddf hon—

(a)rhaid cydymffurfio â’r cyfarwyddyd;

(b)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(c)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

(2)Rhaid i awdurdod lleol‍, corff llywodraethu ysgol a gynhelir a chorff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 48 mewn grym ar 8.7.2025, gweler a. 56(1)(a)