Rhagolygol
(1)Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg, ar gyfer pob cyfnod cynllunio, lunio cynllun strategol.
(2)Rhaid i’r cynllun strategol nodi sut y mae’r Athrofa Dysgu Cymraeg yn bwriadu—
(a)arfer ei swyddogaethau er mwyn cyflawni ei hamcan, a
(b)arfer ei swyddogaethau yn unol ag adrannau 41 i 44.
(3)Wrth lunio’r cynllun strategol rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg ymgynghori â’r personau canlynol—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)Comisiynydd y Gymraeg;
(c)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;
(d)y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (rhif y cwmni 07550507);
(e)darparwyr dysgu Cymraeg;
(f)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(4)Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg gyflwyno’r cynllun strategol i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 3 mis cyn dechrau’r cyfnod cynllunio y mae’n ymwneud ag ef.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun strategol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y cytunir arnynt â’r Athrofa Dysgu Cymraeg.
(6)Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg gyhoeddi’r cynllun strategol sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
(7)Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg adolygu‘r cynllun strategol a chyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i‘w gymeradwyo, ac mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys i gynllun diwygiedig fel y maent yn gymwys i’r cynllun gwreiddiol.
(8)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod cynllunio” yw—
(a)cyfnod cyntaf sy’n dechrau â dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau ac yn dod i ben â dyddiad a bennir felly, a
(b)pob cyfnod dilynol o 3 blynedd neu unrhyw gyfnod arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 46 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)