RHAN 5YR ATHROFA DYSGU CYMRAEG GENEDLAETHOL

Cyffredinol

46Cynllun strategol

(1)

Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg, ar gyfer pob cyfnod cynllunio, lunio cynllun strategol.

(2)

Rhaid i’r cynllun strategol nodi sut y mae’r Athrofa Dysgu Cymraeg yn bwriadu—

(a)

arfer ei swyddogaethau er mwyn cyflawni ei hamcan, a

(b)

arfer ei swyddogaethau yn unol ag adrannau 41 i 44.

(3)

Wrth lunio’r cynllun strategol rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg ymgynghori â’r personau canlynol—

(a)

Gweinidogion Cymru;

(b)

Comisiynydd y Gymraeg;

(c)

y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(d)

y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (rhif y cwmni 07550507);

(e)

darparwyr dysgu Cymrae‍g;

(f)

unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(4)

Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg gyflwyno’r cynllun strategol i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 3 mis cyn dechrau’r cyfnod cynllunio y mae’n ymwneud ag ef.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun strategol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y cytunir arnynt â’r Athrofa Dysgu Cymraeg.

(6)

Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg gyhoeddi’r cynllun strategol sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(7)

Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg adolygu‘r cynllun strategol a chyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i‘w gymeradwyo, ac mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys i gynllun diwygiedig fel y maent yn gymwys i’r cynllun gwreiddiol.

(8)

Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod cynllunio” yw—

(a)

cyfnod cyntaf sy’n dechrau â dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau ac yn dod i ben â dyddiad a bennir felly, a

(b)

pob cyfnod dilynol o 3 blynedd neu unrhyw gyfnod arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.