RHAN 5YR ATHROFA DYSGU CYMRAEG GENEDLAETHOL
Amcan a swyddogaethau’r Athrofa Dysgu Cymraeg
43Hybu cydlafurio mewn perthynas â dysgu Cymraeg
Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu’r canlynol—
(a)
cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg;
(b)
cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg ac ysgolion a gynhelir a rhwng darparwyr dysgu Cymraeg ac ysgolion meithrin a gynhelir;
(c)
cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg a darparwyr addysg drydyddol eraill yng Nghymru;
(d)
cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg a chyflogwyr yng Nghymru.