RHAN 5YR ATHROFA DYSGU CYMRAEG GENEDLAETHOL

Amcan a swyddogaethau’r Athrofa Dysgu Cymraeg

42Hybu arloesedd a gwelliant parhaus

(1)

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu’r canlynol—

(a)

arloesedd a gwelliant parhaus mewn perthynas â dysgu Cymraeg;

(b)

codi safonau o ran dysgu Cymraeg er mwyn cynyddu’r niferoedd sy’n siarad a defnyddio’r Gymraeg, a gwella eu gallu.

(2)

At ddibenion is-adran (1), rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg roi sylw i bwysigrwydd—

(a)

sicrhau bod y rhai hynny sy’n addysgu’r Gymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol yn cael eu galluogi i ddarparu addysg o safon uchel;

(b)

datblygiad proffesiynol parhaus y rhai hynny sy’n addysgu’r Gymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(c)

ystyried barn dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol.