Rhagolygol
(1)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu’r canlynol—
(a)cynyddu cyfranogiad mewn rhaglenni dysgu Cymraeg gan bobl dros oedran ysgol gorfodol sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol;
(b)cadw dysgwyr dros oedran ysgol gorfodol sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd rhaglenni dysgu Cymraeg;
(c)lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn dysgu Cymraeg rhwng grwpiau gwahanol o ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.
(2)Yn yr adran hon—
ystyr “grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” (“under-represented groups”) yw grwpiau o bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn rhaglenni dysgu Cymraeg o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;
ystyr “rhaglenni dysgu Cymraeg” (“Welsh language learning programmes”) yw rhaglenni dysgu Cymraeg a ddarperir gan yr Athrofa Dysgu Cymraeg neu gan ddarparwr dysgu Cymraeg.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 41 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)