RHAN 1LL+CHYBU A HWYLUSO DEFNYDD O’R GYMRAEG

Rhagolygol

4Adolygu safonau’r GymraegLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r safonau a bennir o dan adran 26 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) gyda golwg ar benderfynu a oes angen diwygio—

(a)un neu ragor o’r safonau sy’n ymwneud â gwella neu asesu sgiliau’r gweithlu o ran y Gymraeg er mwyn—

(i)hwyluso cyflawni targed a bennir o dan y Rhan hon, neu

(ii)adlewyrchu’r Cod ar ddisgrifio gallu yn y Gymraeg a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6;

(b)un neu ragor o safonau hybu’r Gymraeg er mwyn hwyluso cyflawni targed a bennir o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg yn rhan o’r adolygiad yn is-adran (1);

(b)cwblhau’r adolygiad o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl cyhoeddi’r Cod o dan adran 7 am y tro cyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)